Presgripsiynu cymdeithasol yn Ysbyty’r Seren

Ysbyty dros dro Cwm Taf Morgannwg yw Ysbyty’r Seren, gafodd ei sefydlu i ymateb i bandemig COVID-19. Nod yr ysbyty yw rhoi lle tawel a hamddenol i gleifion ailsefydlu wrth iddyn nhw wella ar ôl cael COVID-19.

Blaenoriaeth i ni oedd helpu Arweinydd Meddygol yr ysbyty, Dr Liza Thomas-Emrus, i gynnig gwasanaeth presgripsiynu cymdeithasol yn yr ysbyty.

Nod presgripsiynu cymdeithasol yw helpu unigolion i fynnu mwy o reolaeth dros eu hiechyd a’u lles eu hunain trwy eu cysylltu nhw â chymorth yn eu cymuned.

Mae presgripsiynu cymdeithasol yn wasanaeth cyfarwydd mewn practisau gofal iechyd cymunedol, fel meddygfeydd, ond dydy hyn ddim yr un mor effeithiol mewn ysbytai. Roedd hwn yn gyfle i ni fod yn arloesol a threialu presgripsiynu cymdeithasol mewn lleoliad newydd.

Sefydlu tîm lles

Yn Ysbyty’r Seren, mae llawer o sefydliadau, o Age Connects Morgannwg i Mental Health Matters, yn helpu i wella lles cleifion ac maen nhw’n cynnig amrywiaeth o wasanaethau a chymorth sy’n gallu cael eu ‘presgripsiynu’n gymdeithasol’.

I hybu’r gwaith hwn, cafodd ein Swyddog Ymgysylltu â’r Awdurdodau Lleol, Jo, y dasg o arwain y gwaith o greu a chydlynu tîm lles newydd sbon o’r enw Tîm Gwen.

Ynghyd â Chydlynydd Celfyddydau ac Iechyd Bwrdd Iechyd Cwm Taf Morgannwg, helpodd Jo i ehangu’r tîm i 20 o ymarferwyr lles ac mae pob un ohonyn nhw’n darparu gwasanaeth ymarferol i ddiwallu anghenion meddyliol, corfforol, emosiynol ac ysbrydol y cleifion.

Y gwasanaethau mae Tîm Gwen yn eu cynnig

Mae amrywiaeth o wahanol ymarferwyr yn rhan o Dîm Gwen ac yn gweithio mewn partneriaeth â’i gilydd. Ymhlith y rhan mae:

  • Mental Health Matters
  • Age Connects Morgannwg
  • Artistiaid creadigol
  • Hwylusydd Ysgrifennu Creadigol
  • Cerddor
  • Ymarferydd Aciwbwyso / Cyffwrdd
  • Seicotherapydd Dawns
  • Y Gaplaniaeth

Mae Tîm Gwen wedi helpu dros 200 o gleifion ers i’r ysbyty agor ar 4 Hydref 2020

Adborth gan Mrs Davies, sydd wedi cael cymorth gan Dîm Gwen:

"Alla i ddim cyfleu faint yn well roeddwn i’n teimlo ar ôl paentio fy ewinedd a thorri fy ngwallt. Dydw i ddim erioed wedi cael maldod fel hyn o'r blaen."

Dywedodd Dr Liza Thomas-Emrus, Arweinydd Meddygol Dros Dro Ysbyty'r Seren:

“Mae presgripsiynu cymdeithasol yn Ysbyty’r Seren wedi bod yn allweddol i lwyddiant y model gofal sydd wedi cael ei ddarparu. Mae’r gwaith wedi gwella morâl y staff ac wedi ennyn balchder yn ein gofal sy'n canolbwyntio ar y claf ac wedi sicrhau gwell canlyniadau i gleifion."

Rydym yn falch o fod yn aelodau o
Rwydwaith Cydgynhyrchu Cymru.

Rydym yn falch o fod yn aelodau o
Rwydwaith Cydgynhyrchu Cymru.