Mae’r Gronfa Integreiddio Rhanbarthol ar gyfer Iechyd a Gofal Cymdeithasol (RIF) yn gronfa newydd dros bum mlynedd a fydd yn helpu i wella gwasanaethau iechyd a gofal cymdeithasol.

Beth yw amcanion y RIF?

Bydd y RIF yn helpu sefydliadau sy’n gweithio ym maes iechyd, gofal cymdeithasol a llesiant i wneud y pethau canlynol:

  • Canolbwyntio ar atal a thaclo heriau’n gynnar yn y broses
  • Gweithio ar y cyd i ddatblygu gwasanaethau iechyd a gofal cymdeithasol ‘cysylltiedig’
  • Rhannu profiadau a’r hyn a ddysgir gyda’n gilydd drwy gyfrwng grwpiau ymrwymedig a elwir yn ‘gymunedau ymarfer’
  • Cyflogi a dwyn ynghyd staff o sefydliadau gwahanol i redeg gwasanaethau
  • Rhannu cyllid
  • Creu cynlluniau a phartneriaethau rhanbarthol

 

Pa wasanaethau fydd y RIF yn eu cefnogi?

Rhaid i bob gweithgaredd a ariennir gan y RIF gefnogi’n uniongyrchol ddatblygiad chwe model o ofal. Bydd angen i’r modelau gofal hyn ateb anghenion iechyd, gofal cymdeithasol a llesiantein preswylwyr, gan gynnwys pobl ag anableddau dysgu; pobl awtistig; gofalwyr di-dâl; pobl sy’n byw gyda dementia; pobl hŷn; plant a phobl ifanc; pobl sy’n defnyddio gwasanaethau iechyd meddwl, a phobl ag anableddau corfforol a nam ar y synhwyrau.

Gofal a seilir yn y gymuned – atal a chydlynu cymunedol

Mae hyn yn cynnwys gwasanaethau cymunedol sy’n helpu i warchod preswylwyr rhag problemau iechyd neu lesiant mwy hirdymor, gan gynnwys grwpiau cyfeillio, hybiau cymunedol, atal cwympo, a mynediad i wasanaethau llesiant.

Gofal yn y gymuned – gofal cymhleth yn nes at gartref

Bydd hyn yn helpu i wella’n fwy ar ôl cyfnod o salwch, gan helpu pobl i fod yn fwy annibynnol yn y tymor hir. Gallai cefnogaeth gynnwys help gartref gan dimau arbenigol sy’n gweithio yn y gymuned ac adferiad yn y gymuned.

Hybu iechyd a llesiant emosiynol da

Mae gwella iechyd meddwl a llesiant yn ein cymunedau’n flaenoriaeth. Bydd hyn yn helpu i greu a gwella gwasanaethau ar gyfer oedolion a phobl ifanc sydd angen cefnogaeth gydag iechyd a llesiant emosiynol.

Cefnogi teuluoedd i aros gyda’i gilydd yn ddiogel, a gofal therapiwtig i blant sydd wedi profi’r system gofal

Bydd partneriaid iechyd, gofal cymdeithasol ac addysg yn gweithio gyda’i gilydd gyda theuluoedd i’w helpu i aros gyda’i gilydd yn ddiogel ac atal yr angen i blant orfod derbyn gofal.

Gwasanaethau adref o’r ysbyty

Bydd rhai pobl wastad angen cael triniaeth mewn ysbyty, felly bydd hyn yn helpu pobl i gael eu rhyddhau ac i wella gartref yn ddiogel a sydyn. Mae hefyd yn sicrhau fod pobl sydd angen gofal aciwt yn gallu cael ato’n hawdd.

Atebion ar sail llety

Mae’n hanfodol fod gan bobl amgylchedd byw cynnes, diogel a chefnogol. Mae hyn yn cynnwys datblygu cyfleusterau byw annibynnol, trefnu addasiadau i gartrefi ac adeiladu llety i blant ag anghenion cymhleth.

Mae angen i ni sicrhau fod gwasanaethau’n cael eu creu gyda’n cymunedau. Gallwch ddarllen am sut i gymryd rhan a sut fydd penderfyniadau’n cael eu gwneud isod.

Cymryd rhan

Mae’n bwysig fod pobl sy’n byw ac yn gweithio yn ein cymunedau’n gallu cael clust i’w llais o ran pa wasanaethau sydd angen. Edrychwch ar sut y gallwch gymryd rhan yma.

Darllen mwy

Y bobl y byddwn ni’n eu cefnogi

Bydd y gwasanaethau sy’n cael eu creu drwy’r RIF yn cefnogi llawer o bobl sy’n defnyddio gwasanaethau iechyd, gofal cymdeithasol a llesiant. Gallwch weld sut rydyn ni’n gweithio gyda grwpiau gwahanol yma.

Darllen mwy

Asesiad Anghenion y Boblogaeth

Mae ein Hasesiad Anghenion y Boblogaeth wedi cael ei greu gyda’n cymunedau i ddylanwadu ar ba wasanaethau sy’n cael eu gwell a’u creu, Bydd hwn yn cael ei gyhoeddi’n fuan.

Download summary here

Prosiectau eraill

Bydd llawer o brosiectau sy’n bodoli eisoes yn parhau dan y RIF. Gallwch ddarllen am hyn yma.

Darllen mwy

Rydym yn falch o fod yn aelodau o
Rwydwaith Cydgynhyrchu Cymru.

Rydym yn falch o fod yn aelodau o
Rwydwaith Cydgynhyrchu Cymru.