Ar gyrion Cwm Llynfi, mae STEER – The Enterprise Academy, sef menter gymdeithasol â’r uchelgais o gyfoethogi bywydau pobl trwy weithgareddau lles.

Gyda chynifer o bobl ifanc mewn perygl o ddioddef o les emosiynol gwael, penderfynodd tîm STEER sefydlu ‘Campfa Werdd’ i bobl ifanc.

Cafodd y fenter ei hariannu trwy’r Gronfa Gofal Integredig a’i Grant Cymunedol, sy’n cael ei weinyddu gan Gymdeithas Sefydliadau Gwirfoddol Pen-y-bont ar Ogwr. Mae’r gampfa yn cynnig cyfle i bobl ddianc rhag bywyd pob dydd a mwynhau ychydig o weithgareddau awyr agored.

Ymhlith y gweithgareddau mae cerdded, rhedeg, rhedeg ar foncyffion, cloddio, ymarferion gwasg fyrfraich, coginio gwersylla a garddio.

“Roedd ein grant wedi helpu i ledaenu’r gair bod ein Campfa Werdd yn brosiect gwych, ac o’r herwydd roedd pobl ifanc ac oedolion wedi dechrau gwirfoddoli’n rheolaidd yn ein canolfan. Mae hyn wedi ein helpu i sicrhau y bydd y prosiect yn un cynaliadwy.”

Rydym yn falch o fod yn aelodau o
Rwydwaith Cydgynhyrchu Cymru.

Rydym yn falch o fod yn aelodau o
Rwydwaith Cydgynhyrchu Cymru.