Ateb yr alwad

Ymatebodd Gwasanaeth Ambiwlans Cymru i alwad 999 gan Mr Jones, 94 oed, oedd yn byw ar ei ben ei hun heb unrhyw gymorth ffurfiol.

Roedd Mr Jones yn teimlo’n wan iawn, yn gyfoglyd ac yn dioddef o broblemau ar ei frest.

Wrth gyrraedd cartref Mr Jones, roedd Lucy*, parafeddyg, yn amau bod haint ar y frest Mr Jones. Wrth aros i’r meddyg teulu gyrraedd, ffoniodd Lucy y gwasanaeth Cadw’n Iach Gartref 2 am gymorth.

Yn y cyfamser, cadarnhaodd y meddyg teulu fod gan Mr Jones haint ar y frest, a chlefyd ischaemig y galon hefyd, ond nad oedd wedi bod yn cymryd ei foddion.

Roedd y meddyg teulu wedi rhoi gwrthfiotigau a moddion i atal cyfog ar bresgripsiwn i Mr Jones, a chytunodd y teulu i’w helpu i gymryd ei foddion.

Fodd bynnag, doedden nhw ddim yn gallu gofalu am Mr Jones ac erbyn y pwynt hwn roedd yn wan iawn, doedd e ddim yn bwyta’n dda ac roedd yn ei chael yn anodd iawn symud o gwmpas y tŷ.

Dywedodd y meddyg teulu y byddai’n fwy diogel i Mr Jones dderbyn cymorth gartref oherwydd pandemig COVID-19.

 

Cydweithio i helpu Mr Jones

O fewn tair awr i’r alwad ffôn wreiddiol rhwng y gwasanaeth Cadw’n Iach Gartref 2 a Gwasanaeth Ambiwlans Cymru, roedd y Tîm Pwynt Cyswllt Sengl wedi:

Gwneud yr asesiadau angenrheidiol gyda’r Gwasanaeth Ambiwlans, meddygon teulu a theulu Mr Jones

Trefnu i Therapydd Galwedigaethol ymweld â’r tŷ i osod offer i godi’r soffa’n uwch fel ei bod yn haws symud Mr Jones ac i osod comôd symudol i’w gwneud yn haws iddo fynd i’r tŷ bach

Gwneud cais am i becyn gofal a chymorth gael ei ddarparu bedair gwaith y dydd, a ddechreuodd y noson honno

Archebu sêff allweddi fel bod modd mynd i mewn i’r tŷ, ar y cyd â system Life Line. Mae hyn yn ei gwneud yn bosib i Mr Jones ffonio Gwasanaeth Ymatebwyr Symudol RhCT os bydd angen.

Oherwydd y gwaith hwn, roedd Mr Jones wedi osgoi cael ei dderbyn i’r ysbyty.

Derbyniodd becyn cymorth gan Wasanaeth Cymorth yn y Cartref RhCT, ac roedd yn gallu rhoi’r gorau i ddefnyddio gwasanaethau saith wythnos yn ddiweddarach.

* Mae enwau wedi cael eu newid 

Delweddau stoc yw’r delweddau a ddefnyddiwyd.

Meddai Sarah Evans, Rheolwr y Rhaglen Trawsnewid ar gyfer y rhaglen Cadw’n Iach Gartref 2:

"Nod y rhaglen oedd cynnig dewis arall yn lle cyfeirio neu dderbyn pobl i'r ysbyty trwy roi gwasanaethau cymunedol ar waith yn gyflym. Mae cyflwyno gwasanaethau ychwanegol gyda'r nos ac ar benwythnosau wedi gwneud byd o wahaniaeth gan wneud yn siŵr bod modd gofalu am bobl gartref. “Mae’r adborth gan weithwyr proffesiynol a phobl sydd wedi defnyddio’r gwasanaethau wedi bod yn gadarnhaol iawn. Mae gweithwyr proffesiynol wir yn gwerthfawrogi'r broses atgyfeirio syml ac mae pobl yn meddwl yn uchel o’r ymateb cyflym a’r gwasanaethau sydd wedi eu galluogi nhw i aros yn eu cartrefi eu hunain. Mae'r rhaglen yn enghraifft wych o sut mae gwasanaethau’n gallu cydweithio i gyflawni'r canlyniad gorau i bobl."

Rydym yn falch o fod yn aelodau o
Rwydwaith Cydgynhyrchu Cymru.

Rydym yn falch o fod yn aelodau o
Rwydwaith Cydgynhyrchu Cymru.