Yn hydref 2020, cafodd gwasanaeth newydd, sy’n cael ei gynnig 7 diwrnod yr wythnos, ei sefydlu mewn partneriaeth ag awdurdodau lleol CTM, Cynghorau Gwirfoddol Sirol, Bwrdd Partneriaeth Rhanbarthol CTM, Bwrdd Iechyd Prifysgol CTM ac Iechyd Cyhoeddus Cymru.

Gall pobl sy’n byw ym Merthyr Tudful, Rhondda Cynon Taf neu Ben-y-bont ar Ogwr ffonio’r llinell gymorth i drafod eu pryderon os byddan nhw wedi cael cyngor i hunan-ynysu gan Dîm Profi, Olrhain a Diogelu GIG Cymru.

Cafodd ‘llinell gymorth hunan-ynysu CTM’ ei sefydlu ar ôl i adborth gan y Tîm Profi, Olrhain a Diogelu yn CTM ddangos bod llawer o gwestiynau gyda phobl sy’n byw yn y rhanbarth ynglŷn ag hunan-ynysu a’r cymorth sydd ar gael.

Yn ogystal â hynny, mae sefydliadau ledled y DU yn pryderu y gallai hunan-ynysu roi pobl anabl, pobl sy’n agored i niwed a phobl hŷn mewn perygl. Maen nhw hefyd yn pryderu bod hunan-ynysu’n cael effaith negyddol ar les meddyliol a chorfforol y cyhoedd.

Bydd rhif ffôn ‘llinell gymorth hunan-ynysu CTM’ yn cael ei hanfon drwy neges destun, drwy lythyr neu dros y ffôn i unrhyw un sy’n cael ei olrhain neu unrhyw un sy’n cael prawf positif am COVID-19.

Pan fydd pobl yn ffonio’r rhif, bydd aelod o dîm cyfeillgar y llinell gymorth yn siarad â nhw i gael gwybod pa gymorth sydd ei angen.

Gallai hyn gynnwys cyngor ynglŷn â’r canllawiau diweddar ynghylch COVID-19, dolenni at wybodaeth berthnasol neu gyfeiriadau at wasanaeth cymorth lleol sy’n berthnasol.

Er enghraifft, mae’n bosib cysylltu rhywun o Ben-y-bont ar Ogwr sy’n teimlo’n unig â gwasanaeth cyfeillio lleol, er mwyn sicrhau bod modd i’r unigolyn hwnnw siarad â rhywun drwy gydol ei gyfnod o hunan-ynysu.

Er bod y llinell gymorth yn wasanaeth i bobl sy’n gorfod hunan-ynysu oherwydd COVID-19, mae llawer o wasanaethau cymorth eraill ledled CTM ar gael i bobl sydd angen cymorth yn ystod y pandemig.

Bydd gofyn i bobl gysylltu â’u Cyngor Gwirfoddol Sirol neu awdurdod lleol i gael gwybod mwy.

Gallwch ddod o hyd i ddolenni defnyddiol ar ein tudalen partner.

Dywedodd Rachel Rowlands, Arweinydd Llif Gwaith Rhaglen Olrhain, Profi, Diogelu’r rhanbarth:

"Mae’r llinell gymorth hunan-ynysu newydd yn rhoi cyfle i bobl sicrhau eu bod nhw’n deall y canllawiau o ran hunan-ynysu ac yn cael y cymorth cywir fel bod modd iddyn nhw hunan-ynysu’n ddiogel, gan ddiogelu eu hunain a diogelu pobl eraill.”

Meddai’r Athro Kelechi Nnoaham, Cyfarwyddwr Gweithredol Iechyd y Cyhoedd ar gyfer Bwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf Morgannwg:

“Mae atal yr haint rhag lledaenu yn ein cymunedau yn hanfodol bwysig os ydyn ni am achub bywydau a diogelu’r GIG.

“Dydy hunan-ynysu ddim yn hawdd i lawer o bobl, yn enwedig os ydyn nhw’n poeni am brynu bwyd, methu â mynd i’r gwaith neu deimlo’n unig. Mae tîm cyfeillgar iawn yn gweithredu llinell gymorth hunan-ynysu CTM ac maen nhw’n barod i helpu pobl drwy roi unrhyw gymorth sydd ei angen arnyn nhw, boed hynny’n gwestiynau ynglŷn â’r canllawiau diweddaraf neu wasanaethau lleol.

“Dylai hyn sicrhau i bobl na fyddan nhw ar eu pen eu hunain os bydd angen iddyn nhw hunan-ynysu, ac os bydd angen cymorth ychwanegol, bydd y llinell gymorth gerllaw drwy gydol eu cyfnod o hunan-ynysu.”

Nodiadau Golygyddol

Gwybodaeth sydd wedi ei chasglu gan Raglen Profi, Olrhain a Diogel CTM (Hydref 2020)

Cafodd barn ac agwedd pobl ynglŷn â COVID-19 eu casglu ar frys, drwy fynd yn ôl drwy weithgarwch olrhain cysylltiadau ac anecdotau gafodd eu rhannu gan aelodau o’r Tîm Profi, Olrhain a Diogelu yn CTM.

Mae’r canfyddiadau’n dangos yr oedd cryn ddryswch ynglŷn â hunan-ynysu a sut i gael cymorth, yn enwedig i’r cysylltiadau.  Arweiniodd y cwestiynau hyn na chafodd eu hateb at fethu â chydymffurfio â mesurau ynghylch COVID-19. Pwysleisiodd hyn fod angen gwybodaeth ddibynadwy hawdd ei chyrchu, a honno wedi ei chyfleu’n bersonol ar yr adeg gywir.

 

Rydym yn falch o fod yn aelodau o
Rwydwaith Cydgynhyrchu Cymru.

Rydym yn falch o fod yn aelodau o
Rwydwaith Cydgynhyrchu Cymru.