Pam mae angen i ni fapio prosiectau Ymchwil, Arloesi a Gwella?

Mae’r sector iechyd a gofal cymdeithasol yng Nghymru yn chwarae rhan hanfodol o ran gwella a chynnal iechyd a lles y boblogaeth, yn ogystal â dylanwadu ar effaith cyflogaeth, addysg, tai, anghydraddoldeb cymdeithasol a thwf economaidd.

Fodd bynnag, er mwyn diwallu anghenion y boblogaeth bresennol, mae’n bwysig ein bod ni’n gwerthuso ac yn adolygu pa fodelau iechyd a gofal cymdeithasol sy’n gweithio, a pha rai sydd ddim.

Comisiynwyd y Ganolfan Technoleg Iechyd ym Mhrifysgol Abertawe i gynnal ymarfer mapio. Diben hyn yw creu trosolwg o’r dirwedd o ran Ymchwil, Arloesi a Gwella ym maes iechyd a gofal cymdeithasol ar draws rhanbarth Cwm Taf Morgannwg.

Bydd yr adroddiad yn cyflwyno canfyddiadau a chyfleoedd posib yn y dyfodol er mwyn i randdeiliaid rhanbarthol eu harchwilio ymhellach.

Beth fydd yr adroddiad yn ei ddangos?

Bydd yr ymchwil yn manylu ar enghreifftiau presennol ac enghreifftiau diweddar o weithgareddau Ymchwil, Arloesi a Gwella ar draws rhanbarth Cwm Taf Morgannwg. Mae hyn yn cynnwys lleoliadau gofal sylfaenol, gofal cymunedol, gofal eilaidd, gofal cymdeithasol, y byd academaidd a’r trydydd sector.

Ymhlith enghreifftiau o weithgareddau o’r fath mae:

  • modelau newydd o ddarparu gwasanaeth
  • dulliau arloesol o ailddylunio’r gweithlu
  • ymchwil sylfaenol a chymhwysol i iechyd a gofal cymdeithasol
  • dulliau newydd o weithio integredig yn ogystal â rhannu arfer gorau a’r dyluniad
  • rhoi cynhyrchion, prosesau a gwasanaethau newydd ar waith

Bydd yr ymchwil hon yn helpu i lywio sut mae cyllid ar gyfer iechyd a gofal cymdeithasol yn cael ei ddyrannu yn y dyfodol, yn ogystal â pha wasanaethau a mentrau arloesol newydd sy’n gwella lles ein cymunedau.

Bydd hefyd yn darparu adnodd er mwyn nodi arfer da a hyd yn oed gyfleoedd posib i hybu prosiectau sy’n gweithio’n llwyddiannus ac sy’n dwyn budd i gymunedau.

Bydd yr ymchwil yn cael ei chyhoeddi’n fuan. 

Dr Tom Howson, Technolegydd Arloesi, Prifysgol Abertawe

"Mae gweithio gyda Chanolfan Cydlynu Ymchwil, Arloesi a Gwella Cwm Taf Morgannwg (RIICH) i fapio pob gweithgaredd Ymchwil, Arloesi a Gwella sy'n ymwneud ag iechyd a gofal cymdeithasol yn y rhanbarth wedi manylu ar dirwedd ranbarthol hynod o gymhleth ac amrywiol o ran y gwaith hwn. Mae gan hyn botensial a chyfle sylweddol i sbarduno trawsnewid cadarnhaol ar draws gwasanaethau iechyd a gofal yng Nghwm Taf Morgannwg, ac yn ei dro, bydd yn hybu gwell iechyd, lles a ffyniant ymhlith ei phoblogaeth ranbarthol. Y gobaith yw y bydd y mewnwelediad a dealltwriaeth ddaw yn sgil canfyddiadau'r astudiaeth ymchwil hon yn cael eu defnyddio i lywio cyfeiriad strategol Canolfan Cydlynu Ymchwil, Arloesi a Gwella Cwm Taf Morgannwg yn y dyfodol. Bydd hyn yn cael ei wneud trwy ddarparu sylfaen dystiolaeth ar gyfer gosod blaenoriaethau, creu strategaethau rhanbarthol a sefydlu partneriaethau cydweithredol yn rhan o fudiad ehangach i sbarduno newid cadarnhaol."

Rydym yn falch o fod yn aelodau o
Rwydwaith Cydgynhyrchu Cymru.

Rydym yn falch o fod yn aelodau o
Rwydwaith Cydgynhyrchu Cymru.