“Pan dwi’n siarad â Kelly, mae’n gofyn i fi siarad â hi am fy mhrofiadau bywyd. Mae’n werth mwy na’i phwysau mewn aur.”

P’un a yw’n cael sgwrs am y teledu neithiwr, neu’n holi am les pobl, mae Kelly yn un o lawer o wirfoddolwyr sy’n ffonio pobl yn rheolaidd sydd o bosibl yn teimlo’n unig ac wedi eu hynysu. I’r bobl hynny y mae’n well gyda nhw sgwrsio wyneb yn wyneb, mae’r gwirfoddolwyr hefyd yn ymweld â chartrefi pobl am ‘sgwrs ar y stepen drws’, ac weithiau yn hel neges i bobl neu’n helpu i dalu bil ar yr un pryd. 

Mae’r gwasanaeth, sy’n cael ei ariannu trwy’r Gronfa Gofal Integredig, wedi cael effaith hirhoedlog ar bobl sy’n byw yng Nghwm Taf.

Dywedodd June*, sy’n byw yn Abercynon, mai Kelly sy’n ei chadw “yn ei hiawn bwyll” wedi iddi golli ffrindiau i COVID-19.

“Mae Kelly yn werth mwy na’i phwysau mewn aur; hi yw fy ffrind, a does dim llawer o ffrindiau ar ôl gyda fi. Collais i bedwar ffrind eleni i COVID-19, a doeddwn i ddim yn gallu ymdopi o gwbl.

“Oni bai am Kelly, fyddwn i ddim wedi goroesi a fyddwn i byth wedi llwyddo i ddod i ben â pethau hebddi.

“Hi yw fy ngoleuni, mae’n golygu’r byd i fi. Mae’n rhagorol ac mae teulu gwych gyda hi, ac rydw i’n gobeithio cwrdd â nhw ryw ddydd.”

Mae’r pandemig wedi effeithio ar June, fel y mae wedi effeithio ar lawer o bobl sy’n byw yng Nghwm Taf.

Mae gwirfoddolwyr y ‘Reaching out Befriending Service’ wedi sicrhau hefyd fod pobl sydd wedi bod yn ‘gwarchod’ ac yn hunan-ynysu wedi cael cymorth digonol. 

Gyda llawer o bobl yn ofni gadael eu cartref oherwydd y pandemig, roedd y gwasanaeth cyfeillio hwn yn achubiaeth i bobl heb neb i droi ato am sgwrs.

Ond mae’r cymorth hwn yn fwy na sgwrs, codi presgripsiynau neu wneud y siopa. Yn dilyn sgyrsiau â gofalwyr, rhoddodd y gwasanaeth focsys anrhegion i 70 o bobl gyda Dementia, fel bod rhywbeth gyda nhw i’w agor dros yr Ŵyl. 

O wybod y gallen nhw gael budd o siarad â phobl mewn sefyllfa debyg, parodd y gwirfoddolwyr y ‘cleientiaid’ â phobl eraill yn yr un sefyllfa fel bod y cymorth hyd yn oed yn fwy arbennig. Erbyn hyn, maen nhw’n defnyddio FaceTime i sgwrsio â’i gilydd ac yn ffonio ei gilydd, ac mae’r gwirfoddolwr yn aros mewn cysylltiad â phob un ohonyn nhw. 

Mae gwirfoddolwyr hefyd wedi helpu’r rhai sy’n defnyddio’r gwasanaeth i ddysgu sut i ddefnyddio technoleg ddigidol. Gall rhai hyd yn oed siopa ar-lein erbyn hyn a siarad â’r teulu trwy FaceTime, sy’n eu helpu i gadw mewn cysylltiad. 

Gallwch chi ddarllen am y ‘Reaching out Befriending Service’ gan Age Connect Morgannwg  yma.

*Nid enw go iawn, mae lluniau’n stoc

Rydym yn falch o fod yn aelodau o
Rwydwaith Cydgynhyrchu Cymru.

Rydym yn falch o fod yn aelodau o
Rwydwaith Cydgynhyrchu Cymru.