Casglu gwybodaeth yn awtomatig

Yn debyg i bob gwefan, cedwir cofnodion awtomatig, dienw o’r tudalennau sy’n cael eu cyrchu. Yn ogystal â hynny, bydd y system gofnodi’n casglu amrywiaeth o fathau eraill o ddata amhersonol (megis system weithredol, porwr neu fathau eraill o dechnoleg fynediad a ddefnyddir a chydraniad sgrin pob ymwelydd. Bydd cyfeiriad IP yr ymwelydd yn cael ei gofnodi hefyd, ond ni ddefnyddir hwn er mwyn cael manylion personol unrhyw ymwelydd. Bydd yr wybodaeth hon yn cael ei chasglu ynghyd i greu data ystadegau dienw yn unig. Ni fydd y system yn casglu unrhyw ddata arall, a bydd y data sy’n cael ei gasglu’n parhau i fod yn eiddo i Fwrdd Partneriaeth Rhanbarthol CTM. Defnyddir y data hwn at ddibenion cynnal a chadw a gwella’r wefan yn unig.

Datgelu manylion a dewis ymwelwyr

Nid yw Bwrdd Partneriaeth Rhanbarthol CTM yn storio unrhyw wybodaeth bersonol sy’n cael ei chasglu am yr unigolion sy’n cyrchu gwefan Bwrdd Partneriaeth Rhanbarthol CTM, ac eithrio pan fyddwch yn rhoi eich manylion personol i ni’n wirfoddol, a hynny drwy e-bost neu drwy ein cylchlythyr, sy’n cael ei reoli gan Tractivity (gweler isod), neu pan fyddwch yn ymholi ynglŷn ag unrhyw un o’n gwasanaethau neu’n gwneud cais amdanynt. Yn yr achosion hyn, ni fydd y data personol a rowch i Fwrdd Partneriaeth Rhanbarthol CTM yn cael ei ddefnyddio ac eithrio er mwyn darparu’r wybodaeth rydych wedi gofyn amdani neu’r gwasanaeth rydych wedi gofyn amdano.

Gweler datganiad preifatrwydd Tractivity isod ynglŷn â sut rydym yn rheoli unrhyw ddata a rowch i ni.

Hysbysiad diogelu data

Mae Bwrdd Partneriaeth Rhanbarthol CTM yn ymdrin â data personol yn unol â’r Ddeddf Diogelu Data a’r Rheoliad Diogelu Data Cyffredinol (GDPR). Weithiau, byddwn yn cysylltu â chi drwy’r post, dros y ffôn, ffacs, e-bost neu wasanaeth negeseuon electronig arall ynglŷn â nwyddau a gwasanaethau a allai fod o ddiddordeb i chi. Drwy roi eich manylion cyswllt i ni, rydych yn rhoi cydsyniad i ni gysylltu â chi drwy’r dulliau marchnata hyn. Wrth ddarparu gwybodaeth bersonol ar ein gwefan, byddwch yn cael cyfle i gyfyngu ar y defnydd o’ch gwybodaeth.

Cwcis ar wefan Bwrdd Partneriaeth Rhanbarthol CTM

Ffeiliau testun bach yw cwcis sy’n cael eu rhoi ar eich cyfrifiadur gan y gwefannau rydych yn ymweld â nhw. Fe’u defnyddir yn helaeth er mwyn sicrhau bod gwefannau’n gweithio’n effeithlon ac er mwyn darparu gwybodaeth i berchnogion y safle.

Rydym yn defnyddio cwcis er mwyn casglu gwybodaeth ddienw am sut mae ein gwefan yn cael ei defnyddio. Mae’r wybodaeth hon yn ein helpu i wella ein gwefan a darparu gwasanaeth gwell i’n hymwelwyr. Yn ogystal â hynny, mae swyddogaethau’r cyfryngau cymdeithasol a ddefnyddiwn yn gosod cwcis.

Gwybodaeth preifatrwydd Tractivity

Diweddarwyd ddiwethaf ar 1 Mai 2020

Trosolwg

Mae’r polisi preifatrwydd hwn yn ymwneud â gwefan Engage 360 a ddarperir gan Tractivity Limited.

Mae Tractivity Limited (“Tractivity” neu “ni”) wedi ymrwymo i barchu preifatrwydd Bwrdd Partneriaeth Rhanbarthol CTM a diogelu ei ddata. Mae’r polisi preifatrwydd hwn yn disgrifio sut rydym yn casglu ac yn defnyddio’r data a gasglwn am ddefnyddwyr y wefan hon. Darllenwch y canlynol yn ofalus er mwyn deall ein safbwynt a’n harferion o ran data a sut y byddwn yn ei drin.

Mae Tractivity yn darparu cynhyrchion a gwasanaethau sy’n galluogi Bwrdd Partneriaeth Rhanbarthol CTM i greu a gweinyddu arolygon. Rydym yn cynnal arolygon Bwrdd Partneriaeth Rhanbarthol CTM ar ein gweinyddwyr ac yn casglu’r ymatebion i’r arolygon hynny ar ei ran. Yn ogystal â hynny, gall Bwrdd Partneriaeth Rhanbarthol CTM lanlwytho manylion cyswllt ymatebwyr posibl i’w arolygon er mwyn eu gwahodd i gymryd rhan mewn arolwg. Cyfeiriwn at yr wybodaeth gyswllt hon a’r ymatebion fel “Data Arolwg” neu “Data Arolygon”. Mae Bwrdd Partneriaeth Rhanbarthol CTM yn parhau i fod yn rheolwyr y Data Arolygon hwn ac rydym yn ei brosesu yn unol â’n cytundeb â Bwrdd Partneriaeth Rhanbarthol CTM yn unig (er enghraifft, ein Trwydded Meddalwedd a’n Cytundeb Gwasanaethau).

Rydym yn gweithredu fel prosesydd data mewn perthynas â phob math o wybodaeth bersonol. Os ydych wedi ymateb i arolwg, rheolwr y Data Arolwg yw Bwrdd Partneriaeth Rhanbarthol CTM a’ch gwahoddodd i gymryd rhan yn yr arolwg.

Os oes gennych unrhyw gwestiynau, sylwadau neu gwynion ynglŷn â’n polisi preifatrwydd neu ein harferion, cysylltwch â ni gan ddefnyddio’r manylion isod:

Post:
Data Protection Officer (DPO),
Tractivity Limited,
Systems House,
Deepdale Business Park,
Bakewell,
Derbyshire,
DE45 1GT

E-bost:
dpo@tractivity.co.uk

Newidiadau yn ein polisi preifatrwydd

Mae’n bosibl y byddwn yn newid y polisi preifatrwydd hwn o bryd i’w gilydd. Byddwn yn postio unrhyw newidiadau yn ein polisi preifatrwydd ar y dudalen hon ac, os bydd y newidiadau’n sylweddol, byddwn yn postio hysbysiad ar dudalen hafan ein gwefan ac ar y tudalennau mewngofnodi i’n gwasanaethau. Byddwn hefyd yn cadw fersiynau blaenorol o’r polisi hwn mewn archif er gwybodaeth.

Polisi Preifatrwydd ar gyfer Ymatebwyr Arolygon

Yn yr adran hon mae’r geiriau “chi” a “eich” yn cyfeirio at ymatebydd arolwg.

Mae cynhyrchion a gwasanaethau Tractivity yn galluogi Bwrdd Partneriaeth Rhanbarthol CTM i greu a gweinyddu arolygon. Rydym yn cynnal arolygon Bwrdd Partneriaeth Rhanbarthol CTM ar ein gweinyddwyr ac yn storio ymatebion yr arolygon hynny ar ei ran. Yn ogystal â hynny, gall Bwrdd Partneriaeth Rhanbarthol CTM lanlwytho manylion cyswllt ymatebwyr posibl i’w arolygon er mwyn eu gwahodd i gymryd rhan mewn arolwg. Cyfeiriwn at yr wybodaeth gyswllt hon a’r ymatebion fel “Data Arolwg” neu “Data Arolygon”. Mae Bwrdd Partneriaeth Rhanbarthol CTM yn parhau i fod yn rheolwyr y Data Arolygon hwn ac rydym yn ei brosesu yn unol â’n cytundeb trwydded â Bwrdd Partneriaeth Rhanbarthol CTM yn unig. Ac eithrio’r Data Arolygon, rydym yn debygol o brosesu rhagor o wybodaeth amdanoch, megis negeseuon e-bost a dderbyniwyd ac ymholiadau a wnaed.

Mae gan Fwrdd Partneriaeth Rhanbarthol CTM ddisgresiwn llwyr i benderfynu sut y bydd yn mynd ati i gynllunio ei arolygon, pa wybodaeth y bydd yn ei chasglu, pwy y bydd yn ei wahodd i gymryd rhan mewn arolwg, p’un a fydd yn lanlwytho gwybodaeth ymatebwyr ai peidio, ar gyfer beth y bydd y Data Arolwg yn cael ei ddefnyddio, p’un a fydd y data’n cael ei gyfuno â mathau eraill o wybodaeth a data, gyda phwy y bydd y data’n cael ei rannu a pha mor hir y bydd y data’n cael ei storio. Rydym yn argymell yn gryf eich bod yn darllen yr hysbysiadau preifatrwydd a/neu’n gofyn am wybodaeth ynglŷn â phreifatrwydd gan Fwrdd Partneriaeth Rhanbarthol CTM sydd wedi eich gwahodd i gymryd rhan yn yr arolwg. Rydym yn argymell hyn er mwyn i chi ddeall yn llawn pa wybodaeth sy’n cael ei storio a sut y bydd eich Data Arolwg yn cael ei ddefnyddio.

Dylech gysylltu â Bwrdd Partneriaeth Rhanbarthol CTM os oes unrhyw gwestiynau gennych ynglŷn â’i arolwg, neu i arfer eich hawliau mewn perthynas â’r Data Arolwg.

Yr wybodaeth a gasglwn amdanoch chi

Data’r Arolwg: rydym yn casglu eich ymatebion i’r arolwg. Mae’n bosibl hefyd y bydd Bwrdd Partneriaeth Rhanbarthol CTM wedi lanlwytho eich manylion cyswllt er mwyn eich gwahodd i gymryd rhan yn yr arolwg ac anfon negeseuon e-bost atoch i’ch atgoffa amdano. Fel yr esboniwyd uchod, rydym yn prosesu’r Data Arolwg hwn ar ran Bwrdd Partneriaeth Rhanbarthol CTM ac nid ydym yn ei ddefnyddio ein hunain o gwbl.

Sut rydym yn defnyddio eich gwybodaeth

Rydym yn defnyddio’r wybodaeth sydd gennym amdanoch yn y ffyrdd canlynol:

Data’r Arolwg – er mwyn darparu ein cynhyrchion a’n gwasanaethau: rydym yn cadw, yn storio ac yn prosesu eich Data Arolwg er mwyn darparu ein cynhyrchion a’n gwasanaethau i Fwrdd Partneriaeth Rhanbarthol CTM yn unig, yn unol â’n cytundeb ag ef. Ni fyddwn yn defnyddio eich Data Arolwg at ein dibenion ein hunain ac eithrio os bydd angen gwneud hynny yn unol â’r gyfraith.

Ni fyddwn yn defnyddio unrhyw wybodaeth sydd gennym amdanoch at ddibenion marchnata.

Gyda phwy rydym yn rhannu eich gwybodaeth

Data’r Arolwg: oni bai ei bod yn ofynnol i ni wneud hynny yn ôl y gyfraith, ni fyddwn yn rhoi eich Data Arolwg i unrhyw drydydd partïon, ar wahân i Fwrdd Partneriaeth Rhanbarthol CTM a’n his-broseswyr (fel ein cysylltiadau a’n cynhalwyr) sydd wedi eu hawdurdodi gan Fwrdd Partneriaeth Rhanbarthol CTM yn ein cytundeb ag ef.

Eich manylion cyswllt: pan fyddwch yn cysylltu â ni’n uniongyrchol, os yw’n briodol, mae’n bosibl y byddwn yn cyfeirio eich ymholiad at Fwrdd Partneriaeth Rhanbarthol CTM.

Eich hawliau fel testun data

Os ydych yn dymuno gweld, cywiro neu ddileu eich Data Arolwg, atal eich Data Arolwg rhag cael ei ddefnyddio neu ei ddatgelu mewn unrhyw fodd, neu arfer unrhyw un o’r hawliau eraill a geir yn GDPR mewn perthynas â’ch Data Arolwg, bydd angen i chi gysylltu â Bwrdd Partneriaeth Rhanbarthol CTM yn uniongyrchol. Pan fydd angen, byddwn yn cynorthwyo Bwrdd Partneriaeth Rhanbarthol CTM i ymdrin â’ch cais.

Mae gennych hawl i gwyno i awdurdod diogelu data am y ffordd y mae Bwrdd Partneriaeth Rhanbarthol CTM yn casglu ac yn defnyddio eich data personol. Am ragor o wybodaeth, cysylltwch â’ch awdurdod diogelu data lleol.

Yn y DU, dyma Swyddfa’r Comisiynydd Gwybodaeth:
https://ico.org.uk/

Mae rhestr o Awdurdodau Goruchwylio yn yr UE ar gael yma:
http://ec.europa.eu/justice/data-protection/bodies/authorities/index_en.htm

Am ba hyd y byddwn yn cadw eich gwybodaeth

Data’r Arolwg: Bwrdd Partneriaeth Rhanbarthol CTM sy’n penderfynu pa mor hir y bydd yn storio eich Data Arolwg yn ein cynhyrchion a’n gwasanaethau, felly os oes unrhyw gwestiynau gennych am hyn, cysylltwch â’r Bwrdd yn uniongyrchol.

Ar wahân i’r Data Arolwg, rydym yn debygol o gadw rhagor o wybodaeth amdanoch, megis negeseuon e-bost a dderbyniwyd ac ymholiadau a wnaed. Gan amlaf, rydym yn cadw gwybodaeth dechnegol cyhyd â bod gennym reswm penodol dros wneud hynny, er enghraifft er mwyn cydymffurfio â gofyniad cyfreithiol.

Diogelwch eich gwybodaeth

Rydym yn ystyried diogelwch eich gwybodaeth o ddifrif ac yn cadw at weithdrefnau diogelwch o safon uchel parthed yr holl wybodaeth sydd gennym, yn unol ag ISO/IEC 27001:2013 a PCI DSS. Mae’r rhain yn sicrhau bod ein polisïau a’n gweithdrefnau diogelwch gwybodaeth yn cyd-fynd â’i gilydd er mwyn dilyn arfer gorau’r diwydiant.

Mae’r holl wybodaeth rydych yn ei rhoi i ni yn cael ei storio ar weinyddion diogel. Mae ein darparwyr canolfannau data wedi eu hardystio ag ISO27001:2013 a PCI DSS, ac mae Data Arolygon Bwrdd Partneriaeth Rhanbarthol CTM yn cael ei amgryptio ar y gweinyddwyr pan fydd yn sefydlog ar y rhyngrwyd a phan fydd yn cael ei gludo ar draws y rhyngrwyd.

Rydym yn falch o fod yn aelodau o
Rwydwaith Cydgynhyrchu Cymru.

Rydym yn falch o fod yn aelodau o
Rwydwaith Cydgynhyrchu Cymru.