Beth yw Segmenteiddio’r Boblogaeth?

Adnodd yw segmenteiddio’r boblogaeth mae’r Bwrdd Iechyd yn gallu ei ddefnyddio i ddod o hyd i’r bobl allai elwa fwyaf o gymorth ychwanegol er mwyn gwella eu hiechyd a’u lles.

Trwy gasglu gwybodaeth gofal iechyd o’r meysydd gofal sylfaenol (meddygfeydd) a gofal eilaidd (ysbytai), mae’r Bwrdd Iechyd yn gallu nodi grwpiau o bobl sy’n defnyddio gofal iechyd mewn ffyrdd tebyg i’w gilydd. Mae’n bosib y bydd rhai pobl yn iach ac yn ymweld â’r meddyg teulu yn anaml, a bydd amrywiaeth o gyflyrau iechyd gyda phobl eraill a byddan y bobl hyn yn defnyddio llawer o wahanol wasanaethau, o’r feddygfa i lawdriniaeth ac ymweld â’r adran argyfwng.

Sut mae tîm Segmenteiddio’r Boblogaeth yn defnyddio'r data hwn?

Mae’r tîm, sy’n cael ei gyllido trwy’r Gronfa Trawsnewid, yn bwriadu defnyddio data cychwynnol i nodi’r cleifion fyddai fwyaf addas i gael cymorth gan y timau Iechyd a Lles Cymunedol ac a fyddai’n elwa’n wirioneddol ohono.

Gall meddygon teulu weld rhestr o’r cleifion hyn er mwyn gwneud atgyfeiriad. Mae’r timau hyn yn cynnwys amrywiaeth o weithwyr proffesiynol sydd wir yn gallu deall anghenion cleifion a chydweithio er mwyn ceisio gwella eu hiechyd a’u lles.

Trwy ddefnyddio’r adnodd hwn, gan ddefnyddio gwybodaeth iechyd, y gobaith yw y gallwn ni sicrhau bod y rheiny gyda’r angen mwyaf ac sy’n wynebu’r risg fwyaf o gael eu derbyn i’r ysbyty yn cael cymorth trwy’r Timau Iechyd a Lles Cymunedol, gan obeithio lleihau eu risg o orfod mynd i’r ysbyty yn y dyfodol.

Rydym yn falch o fod yn aelodau o
Rwydwaith Cydgynhyrchu Cymru.

Rydym yn falch o fod yn aelodau o
Rwydwaith Cydgynhyrchu Cymru.