Rydyn ni’n cydweithio i edrych ar sut y gellir gwella gwasanaethau a chefnogaeth ar gyfer ein cymunedau, er mwyn iddyn nhw gael deilliannau llesiant ac iechyd gwell.

Darganfod beth sy’n bwysig i’n cymunedau

Bob pum mlynedd byddwn ni’n ymgymryd ag Asesiad Anghenion y Boblogaeth rhanbarthol. Bydd yr asesiad hwn yn llywio pa wasanaethau iechyd, gofal cymdeithasol a llesiant sydd eu hangen yn ein cymuned, a’r ystod o gefnogaeth a gwasanaethau sydd eu hangen i gwrdd â’r angen hwnnw.

Eleni rydyn ni’n gweithio gyda Byrddau Gwasanaeth Cyhoeddus Cwm Taf a Phen-y-bont ar Ogwr i gynhyrchu Asesiad Anghenion y Boblogaeth ac Asesiad Llesiant. Drwy weithio ar y cyd gyda’n preswylwyr a grwpiau cymunedol, gallwn wrando ar anghenion ein cymunedau a’u deall, ac wedyn argymell i Lywodraeth Cymru pa wasanaethau iechyd, gofal cymdeithasol a llesiant ddylai gael eu creu neu’u gwella dros y pum mlynedd nesaf (2023-2028).

 

Sgyrsiau sy’n cyfri

Dros y 100 diwrnod gweithio nesaf rydyn ni’n gweithio gyda’n partneriaid i gasglu llawer o ddata am y boblogaeth leol, a byddwn hefyd yn ymgymryd â gweithgareddau i’n helpu i gael sgyrsiau ystyrlon gyda’n preswylwyr. Rydyn ni eisiau clywed am brofiadau ein cymunedau, eu hanghenion presennol a’u huchelgais ar gyfer y dyfodol er mwyn i ni allu adeiladu ar wasanaethau sy’n gweithio’n dda, a hefyd weithio gyda’n gilydd i fynd i’r afael â’r heriau.

Meysydd blaenoriaeth

Mae angen i ni sicrhau fod y rhai sydd fwyaf angen gwasanaethau iechyd, gofal cymdeithasol a llesiant yn cael y cyfle i rannu’u barn mewn ffordd sy’n gyffyrddus iddyn nhw. I ddatblygu’r asesiad, byddwn ni’n gweithio gyda’n grwpiau blaenoriaeth Bwrdd Partneriaeth Rhanbarthol a’r rheiny sy’n eu cynrychioli. Mae hyn yn cynnwys pobl ag anableddau dysgu; pobl ag anableddau corfforol a nam ar y synhwyrau; pobl â phroblemau iechyd meddwl; pobl awtistig; gofalwyr di-dâl; plant a phobl ifanc; a phobl sy’n byw â dementia.

Deilliannau llesiant

Gall yr hyn rydyn ni’n ei adnabod fel llesiant fod yn wahanol iawn i wahanol bobl. Rydyn ni hefyd eisiau deall beth mae pobl yn ei deimlo sy’n bwysig iddyn nhw a’u cymunedau o ran llesiant economaidd, amgylcheddol, diwylliannol a chymdeithasol.

Diddordeb mewn dysgu mwy?

Diweddariadau

Yma gallwch weld diweddariadau ar weithgaredd, a pha wybodaeth rydyn ni’n ei gasglu hyd yn hyn.

Darllen mwy

Clwych Ein Lleisiau

Cynhaliom gyfres o ddigwyddiadau i arddangos canfyddiadau ein gwaith.

Darllen mwy

Cymryd rhan

Mae angen i ni glywed gan gynifer o bobl â phosib. Dysgwch sut i gymryd rhan yn yr asesiad yma.

Darllen Mwy

Cofrestru

Cofrestrwch ar gyfer bod ar ein rhestr gyswllt er mwyn i ni allu eich diweddaru, rhoi gwybodaeth i chi a’ch

Darllen mwy

Cwrdd â Lynne

Yn y stori hon, rydyn ni’n cwrdd â Lynne, a oedd yn un o’r bobl gyntaf i sefydlu People First, grŵp eiriol dros bobl ag anableddau dysgu yn Ne Cymru.

Darllen Mwy

Cwrdd â Bravon

Yn y stori hon, rydyn ni’n cwrdd â Bravon, a anwyd ac a fagwyd yn Kenya cyn iddo symud i’r DU yn 2019. Mae Bravon yn Swyddog Ymgysylltiad Pobl Ddu, Asiaidd a Lleiafrifoedd Ethnig (BAME), yn gweit

Darllen Mwy

Cwrdd â Ceri

Yn y stori hon, rydyn ni’n cwrdd â Ceri sydd wedi bod yn gofalu am bobl, gan gynnwys ei rhieni ei hun, ers iddi fod yn ei harddegau.

Darllen Mwy

Diddordeb mewn cynnal eich gweithgareddau eich hun? Byddwn ni’n parhau i ychwanegu adnoddau i’r adran hon!

Mae Ein Llais yn Cyfri

Mae’r adroddiad Mae Ein Llais yn Cyfri hwn yn cynnwys cynghorion gwych gan breswylwyr yn y gymuned ynghylch sut i gael sgyrsiau ystyrlon â phobl.

Lawrlwytho

Pecyn offer Ymgysylltu

Rydyn ni eisiau sicrhau ein bod ni’n dal cynifer o leisiau â phosib yn ein Hasesiad Lleol o Lesiant ac Angen.

Lawrlwytho yma

Rydym yn falch o fod yn aelodau o
Rwydwaith Cydgynhyrchu Cymru.

Rydym yn falch o fod yn aelodau o
Rwydwaith Cydgynhyrchu Cymru.