Cyflwyniad

Gall rhywun ag anabledd corfforol, problem iechyd neu nam ar y synhwyrau ei chael yn anodd gwneud gweithgareddau pob dydd, oherwydd cyfyngiadau ar ei synhwyrau neu oherwydd bod ei allu i symud yn gyfyngedig.

Ystyr nam ar y synhwyrau yw colli golwg neu glyw, neu ddiffyg ar y synhwyrau hyn. Mae sawl gwahanol fath o gyflyrau ac mae pawb yn cael profiadau gwahanol ohonynt. Er bod amrywiaeth o gymorth i'r unigolion hyn ar gael yn RhCT, Pen-y-bont ar Ogwr a Merthyr Tudful, mae'n bwysig ein bod ni’n gweithio gyda phobl gydag anableddau corfforol, eu teuluoedd a'u gofalwyr, er mwyn deall lle mae modd gwella a deall pa wasanaethau newydd y gallai fod eu hangen.

Dyma ein canfyddiadau:

    • Er bod amrywiaeth o wasanaethau cymorth yn bodoli, dydy pobl ddim yn siŵr ynglŷn â beth sydd ar gael iddyn nhw a sut i gael hyd i wasanaethau a chymorth.
    • Dydy pobl ddim yn uniaethu â’r iaith a’r diffiniadau sy’n cael eu defnyddio’n rheolaidd gan weithwyr proffesiynol a darparwyr gwasanaethau
    • Mae pobl gydag anableddau corfforol, gan gynnwys y rheiny gyda nam ar y synhwyrau, am fod yn rhan o’u cymuned, ac felly maen nhw am ddileu’r rhwystrau sy’n bodoli
    • Mae’n well sefydlu gwasanaethau ataliol ac ymyrraeth gynnar, yn hytrach na gwasanaethau adweithiol, sydd yn aml yn camu i’r adwy ar adegau o argyfwng

Mae gwybodaeth fel hon yn ein helpu ni i ddeall sut mae modd helpu a grymuso pobl gydag anableddau corfforol a nam ar eu synhwyrau i leisio eu barn.

P’un a ydych chi’n byw gydag anabledd corfforol neu nam ar y synhwyrau, yn aelod o’r teulu, yn ffrind, neu’n rhoi cymorth i bobl gydag anableddau corfforol, bydd y dudalen hon yn rhoi’r wybodaeth ddiweddaraf i chi am ein cynnydd a sut gallwch chi gymryd rhan.

Rydym yn falch o fod yn aelodau o
Rwydwaith Cydgynhyrchu Cymru.

Rydym yn falch o fod yn aelodau o
Rwydwaith Cydgynhyrchu Cymru.