I nodi Dydd Amser Siarad, dyma Jo Sullivan, Swyddog Ymgysylltu ar gyfer Hwb Cydlynu Ymchwil, Arloesi a Gwella (RIIC) i rannu sut mae hi’n cefnogi’i thîm i ofalu am eu llesiant.

Helo, Jo ydw i, a dwi’n Swyddog Ymgysylltu ar gyfer Hwb RIIC CTM ble dwi’n cefnogi’r gwaith o gydlynu ac unioni ystod o brosiectau diddorol i wella iechyd a llesiant ar draws y rhanbarth.

Er enghraifft, un o’r prosiectau arloesol dwi wedi ymgymryd ag ef ers ymuno â Hwb RIIC oedd cydlynu tîm o ymarferwyr anghlinigol llesiant cleifion ar gyfer cleifion sy’n gwella ar ôl Covid-19 yn Ysbyty’r Seren, ysbyty dros dro a sefydlwyd yn ystod y pandemig.

Wrth i’r prosiect ddod i ben, a fi’n mynd yn ôl i weithio’n fwy agos â Hwb RIIC, sylwais fod pawb ohonom yn teimlo straen gweithio’n rhithiol o gartref am gyfnod hir. Roedd perygl o gael ein hynysu, ochr yn ochr â’r gwynegon sy’n gallu ymddangos ar ôl diwrnod hir o eistedd.

Drwy weithio gyda chynifer o bartneriaid, rydyn ni’n ffodus i gael mynediad i ystod eang o adnoddau llesiant, gan gynnwys y rheini a ddarperir gan Fwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf Morgannwg a Valleys Steps. Mae’r adnoddau’n cynnwys sesiynau llesiant, a chynghorion a chyngor gwych ar gyfer gweithio o gartref am ein bod ni’n gallu cael mynediad iddynt wrth ein desgiau.

Wrth i’r Nadolig agosau, fe wnaethon ni drafod fel tîm sut y gallen ni wella ein llesiant mewn amgylchedd gwahanol

Ar y pryd roedden ni wedi bod yn gweithio gyda thîm creadigol i gefnogi pobl yn ein cymuned i rannu’u profiadau drwy gyfrwng celf, drama ac ysgrifennu creadigol, a’r teimlad oedd y gallai hyn fod o fudd i ni hefyd.

Fe es i ar ofyn Es George, Cydlynydd Celfyddydau ac Iechyd ym Mwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf Morgannwg, sy’n frwd o blaid defnyddio creadigrwydd i hybu hapusrwydd, gan ofyn a allai hi ein cysylltu ag artistiaid ac awduron a allai hwyluso bore llesiant ar ein cyfer.

Yn ystod y bore hwnnw, roeddem yn ddigon ffodus i dreulio rhai oriau yn Cynon Linc gyda Sue ac Uschi, artist ac awdur, a’n helpodd ni i fynegi ein hunain drwy grefftau ac ysgrifennu. Fe wnaeth hyn wir ysbrydoli syniadau newydd, a’n galluogi i ddeall sut roedd y bobl roedden ni’n eu cefnogi drwy ein gwaith yn elwa o’r math hwn o weithdy.

Fel tîm, rydyn ni’n parhau i hybu ein llesiant, a chael trafodaethau agored â’n gilydd

Byddwn ni’n cwrdd bob bore i ddal lan, ac yn cysylltu ar grŵp tîm WhatsApp.

Rydyn ni’n canolbwyntio ar waith, ond rydym hefyd wedi rhannu llawer o wybodaeth gefnogol ar bynciau fel lleoedd hardd i gerdded yn lleol, cyfresi ar Netflix a threfn ymarfer corff!

Byddwn ni’n chwerthin cryn dipyn ynghanol rhywbeth sy’n teimlo fel cyfnod hir o weithio o gartref.

Rydym yn falch o fod yn aelodau o
Rwydwaith Cydgynhyrchu Cymru.

Rydym yn falch o fod yn aelodau o
Rwydwaith Cydgynhyrchu Cymru.