Sut mae'r gwasanaeth yn gweithio?

Mae’n bwysig bod pobl yn cael eu grymuso i wneud penderfyniadau o ran y gofal maen nhw’n ei gael, er mwyn iddyn nhw allu parhau’n annibynnol ac yn ddiogel yn eu cartref neu mewn lleoliadau preswyl.

Er mwyn helpu pobl yn y gymuned, mae gweithwyr proffesiynol yn y maes iechyd a gofal cymdeithasol yn gweithio gyda meddygon teulu, sefydliadau cymunedol, gwirfoddolwyr ac eraill i gydlynu gofal, darparu cymorth a chyfeirio pobl at y gwasanaeth cywir.

Nod y gweithwyr proffesiynol hyn yw cael y sgyrsiau cywir, ar yr adeg gywir, gyda’r bobl gywir i sicrhau bod unigolion a’u teuluoedd yn cael y cymorth penodol sydd ei angen arnyn nhw i aros yn iach yn eu cartref.

Bydd y dull hwn yn helpu unigolion a’u gofalwyr i greu cynlluniau fydd yn rhoi cymorth iddyn nhw gydag unrhyw anghenion gofal yn y dyfodol os bydd eu hamgylchiadau’n newid. Bydd hyn yn helpu i osgoi unrhyw dderbyniadau diangen i ysbyty, gofal preswyl neu ofal nyrsio.

Pwynt cyswllt cyntaf ar gyfer nyrsys ardal

Elfen bwysig o’r rhaglen ‘Un Tîm sy’n Canolbwyntio ar Bobl’ yw’r llinell gyswllt ‘Pwynt Cyswllt Cyntaf’ ar gyfer nyrsys ardal.

Trwy ffonio rhif arbennig, bydd gweithwyr proffesiynol a’r cyhoedd yn gallu cael cyngor a chymorth gan nyrsys ardal profiadol. Bydd y nyrsys yn defnyddio eu profiad i holi’r cwestiynau cywir er mwyn asesu’r sefyllfa.

Yn dilyn hyn, byddan nhw naill ai’n trefnu atgyfeiriad, yn archebu offer neu’n cyfeirio’r unigolyn at wasanaeth arall (yn dibynnu ar ei anghenion).

Bydd hyn yn arwain at ymateb mwy hyblyg a chyflym, sy’n golygu y bydd yr unigolyn yn cael y gofal cywir yn gyflym.

 

 

Adborth gan breswylydd

"Roedd y staff yn deall fy salwch ac yn cydymdeimlo â mi. Gwnaethant bopeth a allent i mi ac aethant y tu hwnt i hynny."

Adborth gan breswylydd

"Rwy'n ddiolchgar iawn bod y tîm mor gymwynasgar ac effeithlon"

Rydym yn falch o fod yn aelodau o
Rwydwaith Cydgynhyrchu Cymru.

Rydym yn falch o fod yn aelodau o
Rwydwaith Cydgynhyrchu Cymru.