Dod o hyd i'r hyn rydych chi'n chwilio amdano

Cyflwyniad

Mae iechyd meddwl yn gallu bod yn gymhleth iawn ac mae profiad pob unigolyn o broblemau iechyd meddwl yn wahanol. Pan fydd pobl yn ei chael hi’n anodd gyda’u hiechyd meddwl, mae hyn yn gallu effeithio ar bob agwedd ar eu bywyd, gan gynnwys eu hiechyd corfforol, perthnasau, addysg, hyfforddiant a gwaith. Mae sefydliadau ledled ardal Cwm Taf Morgannwg yn cydweithio i ddod o hyd i ffyrdd o wella iechyd meddwl plant a phobl ifanc, oedolion o oedran gweithio a phobl hŷn. Mae hyn yn cynnwys gwella systemau er mwyn darparu gwell gwasanaethau sy'n hawdd eu cyrraedd ac yn agored i bawb. Er mwyn gwella gwasanaethau a chymorth i bobl sy'n byw gyda phroblemau iechyd meddwl, mae cynllun o'r enw Law yn Llaw at Iechyd Meddwl wedi cael ei greu. Gallwch chi ddarllen amdano yma.

Rydym wedi gweithio gyda phobl ar draws y rhanbarth i edrych ar yr hyn sydd ei angen i wella gwasanaethau a chymorth iechyd meddwl.

Dysgwch am ein blaenoriaethau rhanbarthol ar gyfer pobl â phroblemau iechyd meddwl yma.

Mae pobl wedi datblygu darnau creadigol i ddod â'u profiadau'n fyw.

Darllenwch sut mae pobl â phroblemau iechyd meddwl wedi rhannu eu llais yma.

Cael cymorth iechyd meddwl ym Mhen-y-bont ar Ogwr, Merthyr Tudful a Rhondda Cynon Taf

Mae’r pandemig wedi effeithio ar bob un ohonom ni, ac mae llawer o bobl yn pryderu am eu hiechyd meddwl a’u lles.

Yma, mae gwybodaeth am y gwasanaethau sy'n lleol i chi.

Mynd i’r wefan

Straeon am sut mae pobl â phroblemau iechyd meddwl yn cael eu cefnogi

Cysylltu Cymunedau

Mae Pat wrth ei bodd â boreau coffi a bingo. Darganfyddwch sut mae'r gwasanaeth Cysylltu Cymunedau wedi gwella ei hiechyd meddw

Darllenwch ragor

Ydych chi'n defnyddio gwasanaethau iechyd meddwl, neu'n gweithio gyda phobl â phroblemau iechyd meddwl? Cofrestrwch i gymryd rhan yn ein gwaith yma.

Rydym yn falch o fod yn aelodau o
Rwydwaith Cydgynhyrchu Cymru.

Rydym yn falch o fod yn aelodau o
Rwydwaith Cydgynhyrchu Cymru.