Yn y gyfres hon o ‘straeon sy’n cyfri’, byddwn ni’n eich cyflwyno i bobl sy’n byw neu’n gweithio yn Rhondda Cynon Taf, Pen-y-bont ar Ogwr a Merthyr Tudful i glywed eu stori, a chanfod beth sy’n cyfri iddyn nhw  o ran iechyd, gofal cymdeithasol a llesiant.

Fe ges i fy magu mewn teulu clos a chariadus iawn ym Merthyr. Roedd yn deulu mawr bryd hynny, ond rydyn ni wedi tyfu mwy fyth dros y blynyddoedd.

Bellach mae gan Mam bedair wyres a naw o wyrion, ac mae gan bob un o fy mhedair nith blant eu hunain!

Dwi’n dwlu ar blant. Dwi’n gweithio fel therapydd digidol mewn ysgol yng Nghaerdydd, gan greu ffilm, animeiddio a ffotograffiaeth gyda phlant awtistig rhwng pump ac un ar ddeg oed.

Dwi wir yn caru fy swydd, a thros y 30 mlynedd o weithio yn yr ysgol, dwi wedi profi nifer o fomentau hapus.

Un o’r llwyddiannau dwi’n fwyaf balch amdano oedd ennill gwobr am ein clwb ffilm. Mae’r clwb yn cyfoethogi addysg holl fyfyrwyr yr ysgol drwy’u hannog i gyfathrebu ac ymwneud â’i gilydd yn gymdeithasol. Dwi wir wedi mwynhau gweld mor gadarnhaol fu’r clwb ffilm i’r plant a’r rhieni, sy’ gallu mwynhau mynd ar dripiau rheolaidd i’r sinema fel teulu.

Roedd yn brofiad cyffrous i gael casglu ein gwobr yn Leicester Square, a chwrdd â’r cyfarwyddwr, Amma Asante a’r actor Luke Evans!

Er gwaethaf cael swydd a theulu mor ardderchog, dwi wedi profi tristwch yn fy mywyd yn ddiweddar.

Er gwaethaf cael swydd a theulu mor ardderchog, dwi wedi profi tristwch yn fy mywyd yn ddiweddar.

Dechreuodd y cyfan yn 2019 pan ddechreuodd Mam ddangos arwyddion o fod yn isel iawn. Roedd hi’n cymryd meddyginiaeth ar gyfer ei chalon, a dechreuodd fynd yn rhwystredig pan nad oedd hi’n gallu gadael y tŷ na dod o hyd i’w thabledi.

I ddechrau, ro’n i’n meddwl ei bod hi’n dioddef o iselder o bosib, oherwydd yr amryw broblemau iechyd sydd ganddi. Mae mam yn byw ar ei phen ei hun, ond mae ganddi arthritis, problemau symudedd a chyflwr ar ei chalon sy’n achosi iddi gael gwaedlif difrifol o’i thrwyn pan fydd lefelau paill yn uchel.

Roedd Mam newydd gwympo hefyd a doedd hi ddim yn gallu mynd i mewn ac allan o’r bath. Ar ôl torri’i chlun bum mlynedd yn ôl, mae’n cerdded yn gam, ac yn ddiweddar dechreuodd hi ddefnyddio ffrâm i gerdded a chadair olwyn. Ond mae hi bron â thorri eisiau cerdded o gwmpas ar ei phen ei hun, er ei fod yn llawer gwell iddi gael cefnogaeth.

Wedyn fe sylwon ni fod ei phersonoliaeth yn dechrau newid.

Dechreuodd gyda phyliau bach o golli tymer, ond wedyn gwaethygodd pethau. Aethon ni â Mam at y meddyg teulu i ddechrau symud pethau ymlaen, ond roedd Mam yn gyndyn o dderbyn cymorth. Ro’n i’n gwybod yn fy nghalon fod rhywbeth o’i le.

Cafodd Mam ddiagnosis o Alzheimer’s a dementia fasgwlaidd ychydig cyn y Nadolig 2019. Roedd hi mor anodd dysgu rhywbeth felly dros gyfnod y gwyliau, ond y cyfan oedd yn bwysig i ni oedd helpu Mam i deimlo’n well.

Treuliais fy amser yn ceisio deall beth oedd angen i mi ei wneud; cael y moddion cywir, a gwneud yn siŵr ei bod hi’n gynnes ac wedi gwisgo bob amser.

Ac wedyn dechreuodd y pandemig, ac roedd yn ofnadwy.

Dwi’n berson cryf iawn ac wedi gweithio’n galed ar hyd fy oes. Ond nawr, do’n i ddim yn gwybod i ble i droi.

Dwi’n berson cryf iawn ac wedi gweithio’n galed ar hyd fy oes. Ond nawr, do’n i ddim yn gwybod i ble i droi.

Bu’n rhaid i fi gymryd amser o’r gwaith i wneud asesiadau amrywiol gwahanol i Mam, ac fe ges i help y Gymdeithas Alzheimer gyda’r rheiny.

Daeth siopa mor anodd oherwydd yr holl gyfyngiadau, ac roedd yn rhaid gwneud popeth ar lein. Ro’n i’n teimlo mod i wir ar fy mhen fy hun, a do’n i ddim yn gwybod sut i godi mas o’r twll. Ro’n i’n byw bob dydd un ar y tro.

Roedd cymaint i’w ystyried, ac yn ffodus roedd y Gymdeithas Alzheimer wrth law unwaith eto i helpu gyda gwaith papur fel Atwrneiaeth. Oni bai amdanyn nhw, dwi ddim yn siŵr beth faswn i wedi’i wneud.

Roedd hi’n anodd ceisio delio â diagnosis newydd yn ystod pandemig. Fy mlaenoriaeth oedd cadw Mam yn gynnes a diogel. Yn anffodus, doedd fy nheulu ddim yn gallu ymweld am fod un o fy nithoedd yn byw yn Southampton, ac mae’r llall yn gweithio mewn ysbyty.

Er ein bod ni’n dechrau dod mas o’r pandemig nawr, dwi’n dal i deimlo fod gofalu am Mam yn galed iawn.

Am fy mod i’n gweithio’n llawn amser mewn swydd brysur, dwi’n ei chael hi’n anodd dod o hyd i’r wybodaeth gywir a fydd yn fy helpu. Mae llawer i’w wybod, a dwi’n dal mor newydd i’r cyfan, nes bod popeth yn teimlo’n ddieithr.

Ro’n i’n arfer cymryd yn ganiataol bethau fel mynd am dro bach. Nawr, mae angen i fi fod yn barod i addasu i sicrhau fy od yn gallu amserlennu unrhyw amser y galla i ei dreulio arnaf fi fy hun, pan fydd y gofalwyr yn cyrraedd.

Dwi’n aml yn teimlo wedi llwyr lethu, yn feddyliol ac yn gorfforol.

Mae cymaint o bethau i’w gwneud, o gynnal a chadw tŷ Mam, i wneud y siopa; dwi’n ei chael hi’n anodd cael amser o ansawdd da i’w dreulio gyda Mam.

Gall fod mor heriol ar brydiau, ac mae hynny wedi peri i fi deimlo’n isel.

Mae cyflwr Mam yn golygu ei bod hi ond yn gallu derbyn gwybodaeth am ddau funud ar y tro, felly mae hi’n aml yn teimlo’n ddryslyd a phryderus, er ei bod hi’n adnabod ei gofalwyr. Mae angen cysuro Mam yn aml ei bod hi mewn lle diogel.

Hoffwn fod ar gael i Mam, ond dwi hefyd yn dyheu am amser i mi fy hun. Baswn wrth fy modd yn gallu treulio diwrnod heb orfod gofidio amdani hi

Felly beth hoffwn i ei weld yn newid ac yn gwella i ofalwyr di-dâl?

I fi, un o’r pethau pwysicaf sydd eu hangen ar ofalwyr di-dâl yw seibiant. Ond er mwyn i fi osgoi pryderu pan fydda i i ffwrdd, byddai angen i mi weld Mam yn derbyn gofal gan rywun cyfarwydd. Rhywun sy’n adnabod Mam ac yn gwybod sut i gyfathrebu gyda hi. Ymddiriedaeth yw popeth.

Mae’n arferol i bobl sydd â chlefyd Alzheimer deimlo’n ddryslyd. I helpu Mam ddeall pethau’n well, dwi wedi gorfod dod o hyd i ffyrdd newydd o gyfathrebu gyda hi. Dwi’n meddwl fod hyfforddi ym maes cyfathrebu, ar gyfer gweithwyr proffesiynol a gofalwyr, yn rhywbeth mor bwysig, a gall wneud gwahaniaeth enfawr.

Hoffwn hefyd weld mwy o rannu gwybodaeth ac arweiniad. Pan ddechreuais i ofalu am Mam, do’n i ddim yn siŵr i ble i dro, ond diolch i rai sefydliadau rhagorol, dwi wedi teimlo fod cynhaliaeth i’w gael. Dwi’n meddwl y dylai pob gofalwr di-dâl wybod i ble i gael hel – emosiynol ac ariannol – ar unrhyw adeg.

Dwi’n meddwl ei bod hi hefyd yn bwysig fod presenoldeb cyson ym mywyd person pan fyddan nhw’n byw gyda dementia neu Alzheimer’s. Bydden ni wir ar ein hennill o gael cydlynydd sy’n gallu sicrhau fod gan unrhyw un sy’n mynd i weld Mam yr wybodaeth fwyaf cyfredol am ei hanghenion diweddaraf.

Oherwydd fy mod i’n treulio cymaint o amser gyda Mam, dwi wedi gorfod meddwl a fydda i’n gallu parhau i weithio yn fy swydd lawn amser. Bydd hyn yn cael effaith ariannol arnaf i, a hoffwn wybod o ble y gallaf gael cefnogaeth ariannol er mwyn i fi barhau i fyw’n annibynnol, a helpu Mam.

Dyma fu un o gyfnodau anoddaf fy mywyd, ond byddaf yn parhau i fod yno i Mam, a dwi’n gobeithio fod rhannu fy stori’n mynd i helpu gofalwyr di-dâl eraill i deimlo fod rhywun yn eu clywed.

Bydd profiadau a theimladau Yasmin yn bwydo i mewn i’n Hasesiad Llesiant ac Angen Lleol. Darllenwch amdano yma.  

Delweddau yn stoc.