Yn y gyfres hon o ‘straeon sy’n cyfri’, byddwn ni’n eich cyflwyno i bobl sy’n byw neu’n gweithio yn Rhondda Cynon Taf, Pen-y-bont ar Ogwr a Merthyr Tudful i glywed eu stori, a chanfod beth sy’n cyfri iddyn nhw  o ran iechyd, gofal cymdeithasol a llesiant.

Pan oeddwn i’n wyth, ces i fy anfon i ysgol breswyl ym Mhenarth. Roedd yr ysgol rhyw 25 milltir i ffwrdd o ble ges i fy magu gyda fy mam, fy nhad a fy mrawd yn Llwyncelyn.

Er mod i wedi bod yn mynd i ysgol oedd rownd y gornel o ble ro’n i’n byw, ro’n i’n ei chael hi’n anodd dysgu yno. Y teimlad oedd y byddai’r ysgol breswyl yn well i mi.

Arhosais yn yr ysgol breswyl drwy’r amser, a doeddwn i ddim yn mynd adre. Doedd dim car gan fy nhad, a doedd e ddim yn gallu gyrru, felly byddwn i’n mynd adre bob trydydd penwythnos. Byddai fy mam yn arfer dod i ngweld i bob dydd Sadwrn ar y bws. Byddai’n cymryd amser maith iddi hi fynd yno ar y bws i ymweld â fi.

Roedd yr ysgol breswyl yn iawn pan gyrhaeddais yno, ond do’n i ddim yn hoffi meddwl am fynd yn ôl ar ôl treulio amser gyda fy nheulu.

Pan oeddwn i’n 16, gadewais yr ysgol a threulio dwy flynedd gartref. Wedyn es i i ganolfan ddydd pan oeddwn i’n 18 a threulio fy amser yno’n rhoi hoelion mewn bagiau; dysgu rhai sgiliau i fy mharatoi ar gyfer gweithio.

Ar ôl tipyn, es i ar leoliad gwaith i ffatri ym Mhorth am rai misoedd. Roedd y ffatri’n gwneud rhannau ar gyfer ceir, a bydden ni’n gwneud tipyn o bopeth. Roedd hi’n swydd brysur iawn, ac roedd yn rhaid gwneud hyn a hyn o bethau bob dydd. Fe ddywedon nhw nad o’n i’n ddigon cyflym i wneud y gwaith.

Ar ôl y lleoliad gwaith, es i lawr i wneud gwaith swyddfa yng Nghaerdydd gan ddal y bws bob bore am 7.45. Ro’n i’n gweithio ar gyfrifiadur, ac unwaith eto, dywedwyd nad o’n i’n ddigon cyflym.

Ro’n i yno am dair wythnos ac roedd hi’n anodd i mi glywed eu bod nhw’n meddwl nad o’n i’n “ddigon da” i wneud y gwaith. Ro’n i’n teimlo fod llawer o rwystrau o nghwmpas.

Ar ôl lleoliad yng Nghaerdydd, es i’n ôl i’r ganolfan ddydd a gwneud tipyn o brofiad gwaith mewn dau gylch chwarae ym Mhorth a Phenygraig. Gweithiais yn y cylchoedd chwarae am amser hir, ac ro’n i wir yn mwynhau gweithio gyda phlant. Ond wedyn, dechreuais gael problemau gyda fy nghoes, ac roedd y cyfan yn dechrau fy mlino’n fawr, felly gadewais a mynd yn ôl i’r ganolfan ddydd.

Yr 1980au oedd hi erbyn hyn, ac ro’n i’n dechrau teimlo wedi laru yn y ganolfan ddydd. Ro’n i’n teimlo fod angen i mi wneud rhywbeth newydd. Roedden ni eisiau teimlo fod rhywun yn gwrando ac yn deall.

Clywodd fy ffrind a fi am y mudiad Pobl yn Gyntaf, oedd wedi dechrau yng Nghanada fel grŵp eiriol ar gyfer pobl ag anableddau dysgu. Roedden ni’n gwybod fod diddordeb ganddyn nhw mewn sefydlu rhwydwaith yn ne Cymru, felly teithiodd fy ffrind a minnau i Gaerdydd i weld beth oedd y cyfan amdano.

Ces i fy ysbrydoli i gymryd rhan gyda Pobl yn Gyntaf am fy mod i eisiau helpu pobl ag anableddau dysgu i gael llais.

Dechreuon ni sefydlu cyfarfodydd gyda phobl o bob cwr o Gymru, ac fel wnaethon ni hyd yn oed sefydlu grŵp eiriol lleol yn fy nghanolfan ddydd leol yn Llwynypia. Dwi mor falch o ddweud mai dyma’r grŵp lleol Pobl yn Gyntaf cyntaf i gael ei sefydlu mewn canolfan ddydd

Dechreuodd mudiad Pobl yn Gyntaf dyfu, ac fe ddechreuon ni ffurfio grŵp Canol Morgannwg ar draws yr holl ardaloedd oedd o gwmpas yr ardal honno.

O Gaerffili a Sir Fynwy i Ben-y-bont ar Ogwr, Rhondda Cynon Taf a Merthyr Tudful, roedden ni’n dod at ein gilydd ac yn tyfu. Erbyn y 1990au, roedd cannoedd o bobl yn rhan o’r peth.

1990 oedd un o flynyddoedd mwyaf arwyddocaol fy mywyd am fy mod wedi cwrdd â fy ffrind Dawn. Ro’n i ar leoliad gwaith gyda sefydliad elusennol yn Ynyshir, yn cefnogi rhieni a gofalwyr oedolion ag anableddau dysgu.

Dawn oedd y ‘groten newydd’. Ro’n i dipyn bach yn bryderus am newid, ond wrth i ni weithio mwy a mwy gyda’n gilydd, fe dyfodd ein cyfeillgarwch.

Wrth i Pobl yn Gyntaf dyfu, roedden ni’n chwilio am ragor o bobl i’n cefnogi ni gyda’n cenhadaeth. Ceisiodd Dawn am y rôl fel cydlynydd Pobl yn Gyntaf yn 1996, ac fe weithion ni hyd yn oed yn fwy agos gyda’n gilydd, gan ddenu pobl ag anableddau dysgu, i’w helpu i gael clust i’w lleisiau,

Ro’n i’n caru (a dwi’n dal i garu!) gweithio mor agos gyda Dawn, am mod i’n gallu gweld mor frwdfrydig oedd hi dros helpu pobl.

Yn y 1990au, fe wnes i hefyd ddechrau gweithio’n fwy agos gyda Phrifysgol Morgannwg, fel roedd hi bryd hynny.

Ro’n i’n eiriol dros gau sefydliadau arhosiad hir, ac i bobl gael gofal yn y gymuned. Drwy gyfrwng fy ngwaith ymgyrchu, fe ddoes i ar draws menyw o’r enw Victoria oedd yn cael ei chyflogi fel eiriolwr annibynnol ar y pryd er mwyn helpu ailsefydlu pobl ag anableddau dysgu yn ôl i’r gymuned. roedd Victoria hefyd yn nyrs anableddau dysgu, a dechreuodd hi weithio ym Mhrifysgol Morgannwg.

Roedd Victoria eisiau newid y ffordd roedd cyrsiau anableddau dysgu i nyrsys yn cael eu cynnal i fyfyrwyr, a theimlai hi taw’r ffordd orau o wneud hyn oedd drwy ofyn i bobl ag anableddau dysgu gefnogi gyda dysgu’r cyrsiau.

Gofynnodd hi i mi ei chefnogi hi gyda sefydlu’r cwrs yma. Sefydlodd Victoria a fi grŵp o’r enw’r Pwyllgor Ymgynghori Ymchwil Dysgu (TRAC), ac wedyn fe wnaethon ni annog pobl o Dde Ddwyrain Cymru i ymuno â’r grŵp ac fe ddechreuon ni ddysgu myfyrwyr ym maes anableddau dysgu.

Ar yr un pryd, ro’n i’n gweithio ar brosiect ymchwil oedd yn edrych ar y cam-drin oedd yn digwydd i bobl ag anableddau dysgu. Roedd y prosiect yn cyflogi pobl ag anableddau dysg, a fi oedd y person cyntaf i fynd gerbron pwyllgor moesau prifysgol ac i fy mhrosiect gael ei basio’r tro cyntaf heb ddim cywiriadau

Ers hynny mae’r prosiect wedi ennill gwobrau am ei ganfyddiadau.

Oherwydd fy holl waith gyda’r brifysgol fe ges i Radd er Anrhydedd, ac o ganlyniad ces fy ngwneud yn Gymrawd Er Anrhydedd ym Mhrifysgol  Morgannwg.

Neidiwch ymlaen i heddiw, ac rwy’n Gyfarwyddwr ac yn Ymddiriedolwr Pobl yn Gyntaf

Dwi’n cefnogi’r holl staff ac yn mentora aelodau newydd, drwy’u helpu i ddatrys problemau a’u helpu i feddwl am syniadau creadigol, Dwi hefyd yn helpu gyda gwneud ceisiadau am arian.

Dwi’n falch o fod yn dal i wneud hyn gyda Dawn ers 30 mlynedd. Cwrdd â Dawn yw fy llwyddiant mwyaf. Fe wnaeth hi ddod â fi allan ohonof fy hun.

Ar ôl bron i 40 mlynedd o gefnogi pobl ag anableddau dysgu, dwi wedi gweld gwelliannau, Ond dyw pethau’n dal ddim yn iawn, ac mae angen gwneud newidiadau o hyd.

Hoffwn weld pobl yn cymryd rhan yn fwy gyda phobl ag anableddau dysgu yn y gymuned. Yn ogystal hoffwn weld rhwystrau’n cael eu dymchwel er mwyn i bobl ag anableddau dysgu’i chael hi’n haws dod o hyd i waith sy’n talu cyflog.

Mae hygyrchedd yn bwysig iawn hefyd. Er enghraifft, hoffwn pe bai arwyddion ar y stryd yn haws eu darllen.

Hefyd, hoffwn pe bai hi ychydig yn haws gweld yr un gweithiwr iechyd proffesiynol bob tro. Dwi’n hoffi fy meddyg, ac maen nhw’n fy neall i a fy mhroblemau. Mae gallu gweld yr un doctor yn bwysig i mi ac i bobl ag anableddau dysgu.

Dwi’n falch iawn o’r hyn rydyn ni wedi’i gyflawni yn Pobl yn Gyntaf, a byddaf yn parhau i sefyll dros bobl ag anableddau dysgu, er mwyn iddyn nhw gael llais a bod yn rhan o’r penderfyniadau sy’n cael eu gwneud.

Roedd profiadau a theimladau Lynne yn bwydo i mewn i’n Hasesiad Lles ac Angen Lleol. Darllenwch amdano yma.  

Rydym yn falch o fod yn aelodau o
Rwydwaith Cydgynhyrchu Cymru.

Rydym yn falch o fod yn aelodau o
Rwydwaith Cydgynhyrchu Cymru.