Yn y gyfres hon o ‘straeon sy’n cyfri’, byddwn ni’n eich cyflwyno i bobl sy’n byw neu’n gweithio yn Rhondda Cynon Taf, Pen-y-bont ar Ogwr a Merthyr Tudful, i glywed eu stori a darganfod beth sy’n bwysig iddyn nhw o ran iechyd, gofal cymdeithasol a llesiant.

Dwi’n ferch o Bontypridd, wedi fy ngeni a’m magu yma. Mae fy rhieni’n dod o Drefforest a’r Rhondda, felly dwi’n hoffi meddwl mod i’n gyfuniad o flaenau’r cwm a’r gwaelod.

Mae fy nheulu’n Gymry balch iawn. Roedd Dad wedi gwasanaethu yn yr RAF ac roedd Mam wrth ei bodd gyda diwylliant Cymru; canu mewn corau, dawnsio gwerin, yr Eisteddfod.  Tasech chi’n ein torri ni’n hanner, mae’n debygol y bydden ni’n llawn cennin a chennin Pedr!

Roedd Mam yn un o saith, ac fel teulu, roedden ni wedi cael ein hamgylchynu â llawer o oedrannau gwahanol ac, o ganlyniad, â phobl ag anghenion gwahanol

Roedd teulu Mam yn dod o bentre glofaol Cymreig, ac yn gwybod beth oedd tlodi go iawn. Weithiau, pan roedd hi’n tyfu, byddai sawl un yn cysgu yn yr un gwely.

Roedden ni’n deulu agos a chariadus, ond roedden ni’n deall caledi. O ganlyniad, bydden ni wastad eisiau helpu rhywun, ac yn gwneud beth bynnag allen ni i gefnogi ein ffrindiau a chymdogion.

Roedd yr ethos teuluol hwn yn rhan ohonof o oedran ifanc iawn. Pan o’n i’n blentyn, os oedd problem, byddwn i wastad eisiau helpu, neu os oedd rhywun wedi ypsetio, byddwn i eisiau rhoi cwtsh iddyn nhw.

Pan o’n i’n tyfu ro’n i wir eisiau bod yn athrawes ysgol gynradd, ond newidiais fy meddwl. O ran gyrfa, fe fues i mewn a mas o swyddi gweinyddol, ond roedd gen i awydd i ofalu am bobl yn fy nghalon bob amser.

Daeth fy mhrofiad cyntaf gyda dementia pan o’n i yn fy arddegau, ac yn helpu fy rhieni i ofalu am berthynas. Roedd hwn yn symbyliad i fi wrth i fi brofi iechyd a gofal cymdeithasol drosof fy hun.

Ar y pryd roedd llawer o stigma ynghylch dementia, ac roedd hi’n anodd iawn. Ond fel teulu gofalgar, roedden ni’n benderfynol o sicrhau fod ein perthynas yn derbyn gofal da a chefnogaeth.

Fe wnaeth y profiad hwn fy mharatoi ar gyfer y dyfodol, am y bu galw arnaf i ofalu am fy nau riant maes o law.

Pan dderbyniodd Dad ddiagnosis dementia, roedd e eisoes yn gofalu am Mam. Roedd gan y ddau ohonyn nhw gyflyrau iechyd niferus, felly fe wnes i gamu allan o fy mywyd i ofalu am y ddau ohonyn nhw.

Newidiodd anghenion Dad yn gyflym iawn. Roedd angen cymorth arno fe i fwyta ac yfed, Doedd e ddim yn gallu cyfathrebu gyda phobl oni bai eu bod nhw’n gwybod sut i siarad ag e.

Wrth edrych yn ôl, dwi’n sylweddoli mod i wedi colli cryn dipyn ar fy mywyd. Roedd y cyfnod yn 12 mlynedd galed o ofalu am Dad, ar yr un pryd â chael teulu a cheisio gwneud pethau gwahanol fel fy nghyrsiau addysg hefyd.

Mae gen i un ferch, sy’n 26 nawr. Pan fydd gyda chi amser i fyfyrio fel gofalwr di-dâl, weithiau byddwch chi’n meddwl tybed wnaethoch chi roi amser cyfartal i bopeth. Mae’n anodd iawn gwneud hynny.

Ond dros y ddegawd ddiwethaf, dwi wedi bod yn benderfynol o gymryd rhan mewn pethau gymaint ag y gallwn.

Dwi’n ddysgwr brwd, ac wrth ofalu am fy rhieni, byddwn i’n astudio pryd bynnag y gallwn i. Fe wnes i gofrestru yng Ngholeg Merthyr Tudful a’r Brifysgol Agored, ac ymuno â llwyth o gyrsiau. Ymysg y 57 cwrs dwi wedi’u dilyn hyd yn hyn, mae rhai am ddysgu am ddementia ac anghenion cymhleth, i addysg, a dwi’n teimlo fod gen i lawer o wybodaeth.

Os oes gen i un peth i’w rannu a ddysgais am ofalu, dyma fe: ddylai person ddim newid i ffitio i’w cymuned; mae angen i’r gymuned ffitio iddyn nhw.

Er bod Dad wedi colli llawer o’i allu i gyfathrebu, roedd e’n dal i ymgysylltu llawer â bywyd y gymuned. Ym Mhontypridd, byddwn i’n mynd â Dad i grwpiau gwahanol, a byddwn yn cael cyfle i gymryd rhan fy hunan hefyd.

Mae cymryd rhan mor bwysig. Os yw gwasanaeth yn ymwneud â bywyd rhywun, yna dylen nhw gael eu cynnwys yn llwyr mewn penderfyniadau sy’n cael eu gwneud.

Pan ddechreuais i ofalu am Dad, ymunais â sawl panel a grŵp er mwyn i fi allu rhannu fy mhrofiadau, ac mae wedi bod yn eithriadol o werthfawr i fi a’r bobl y bydda i’n siarad gyda nhw.

Mae’n bwysig i fi allu mynegi fy mhrofiadau o fod yn ofalwr di-dâl.

Wrth ofalu am rywun, dydyn ni ddim yn stopio ein swyddi beunyddiol fel meddygon, pobl trin gwallt, athrawon, gyrwyr trên ac ati. Rhaid i ni addasu, ac er ein bod ni eisiau gofalu am ein hanwylyn, mae’n anodd.

Pan fydda i’n gallu rhannu fy stori am ofalu am fy rhieni, boed hynny mewn cyfarfod Zoom neu mewn arolwg, gwn fod gen i 30 mlynedd o brofiad y tu cefn i mi. Mae’n beth grymusol iawn gwybod fod yr hyn rydw i’n ei ddweud yn dod o brofiad personol.

Felly beth allwn ni ei wneud i helpu eraill i gael sgyrsiau ystyrlon a rhannu’u teimladau a’u meddyliau?

Er mwyn symud rhwystrau, mae angen i ni wneud pethau’n wahanol a dileu labeli. Weithiau pan fydd llawer o bobl wahanol o gefndiroedd gwahanol yn yr ystafell, gall deimlo fel diwylliant ‘ni a nhw’.

Mewn gwirionedd, mae labeli’n amherthnasol – mae pawb ohonom yn mynd gyda’r bwriad o gefnogi rhywun.

Yr hyn y mae angen i ni ei wneud yw dechrau pob sgwrs drwy ddweud “y person pwysicaf yn y sgwrs yma yw’r un sydd ag anghenion.”

Mae yna enghreifftiau gwych o gydgynhyrchu’n digwydd ar draws y rhanbarth, ac mae angen i ni sicrhau ein bod ni’n dysgu gan hynny.

Bydd dileu rhwystrau hefyd yn ein helpu i rannu adborth yn fwy agored a gonest. Mae angen i ni allu deall beth sy’n gweithio a beth sydd ddim yn gweithio er mwyn gallu newid gwasanaethau er gwell a rhoi’r bobl yr ydyn ni’n gofalu amdanyn nhw’n wirioneddol wrth wraidd penderfyniadau.

Yn fy marn i, y ffordd orau o wneud hyn yw drwy helpu cymunedau i adeiladu cysylltiadau da ac ymddiriedaeth. Pan oeddwn i’n tyfu, roedd y cymunedau hynny’n bodoli, ac fe allan nhw o hyd.

Mae dywediad adnabyddus sy’n dweud ‘dim byd amdana i, hebddo i’. Drwy gynnwys pobl â phrofiadau personol mewn sgyrsiau a phenderfyniadau, gallwn wneud pethau’n well gyda’n gilydd.

Bydd profiadau a theimladau Ceri’n bwydo i mewn i’n Hasesiad Llesiant ac Angen Lleol. Darllenwch amdano yma.