Yn y gyfres hon o ‘straeon sy’n cyfri’, byddwn ni’n eich cyflwyno i bobl sy’n byw neu’n gweithio yn Rhondda Cynon Taf, Pen-y-bont ar Ogwr a Merthyr Tudful i glywed eu stori, a chanfod beth sy’n cyfri iddyn nhw  o ran iechyd, gofal cymdeithasol a llesiant.

Cefais fy ngeni yn Kenya, gwlad hardd iawn yn Affrica.

Ces fy magu yn Nairobi, Kenya gyda fy mrawd a chwe chwaer. Mae Nairobi’n ddinas brysur iawn – yn bendant yn fwy hectic na Llundain! Byddai fy nghefndryd yn arfer fy ngalw i’n ‘fachgen y ddinas’, am eu bod nhw’n byw mewn ardaloedd mwy gwledig.

Dwi’n adnabod llawer o bobl yn Nairobi, a chyn i fi symud i’r DU, ro’n i’n rhan weithredol iawn o’r gymuned.

Pan fyddwch chi’n tyfu mewn teulu mawr mewn dinas brysur, rydych chi’n sylweddoli mor bwysig yw rhannu popeth.

Pan oeddwn i’n fachgen bach fe wnes i rannu fy meic BMX newydd gyda ffrind, a doedd fy nhad ddim yn hapus iawn!

Dwi’n ystyried fod y byd i gyd yn un teulu, a rhaid i ni estyn allan a helpu ein gilydd. Dwi wastad yn meddwl sut yr hoffwn i gael fy nhrin pe bawn i mewn sefyllfa anodd, Oherwydd hyn, mae hi’n anodd peidio â chael eich effeithio gan anghyfiawnder.

O oedran ifanc iawn, dwi wastad wedi cael consyrn am eraill; pam y gall un person gael ei eni â phob bendith, ac eraill ddim gymaint felly.

Dwi eisiau ceisio helpu pawb i fyw bywyd da, ond dwi’n gwybod na alla i achub pawb,

Dwi wedi ceisio helpu pobl drwy gyfrwng fy ngwaith, Yn Kenya, roedd gen i sawl swydd. Dwi’n beiriannydd mecanyddol hyfforddedig, yn trwsio fframiau awyr ac injans ar gyfer hofrenyddion yr heddlu. Fel y gallwch ddychmygu, mae’n swydd bwysig, ac ambell ddiwrnod, byddwn i’n gweithio o 7am i 10pm.

Ro’n i’n mwynhau hyn, ond ro’n i hefyd eisiau helpu pobl yn y gymuned. Roedd fy ngwraig, sy’n Brydeinig, yn gweithio mewn cartref plant i ferched bregus, ac roedden ni’n byw yno gyda’n gilydd.

Roedd amrywiaeth enfawr o bobl yn byw yno, ac roedd hi’n bwysig ein bod ni’n dod o hyd i ffyrdd o’u helpu i deimlo’n ddiogel ac yn hapusach.

Bob nos pan fyddwn i’n dod adre o’r gwaith yn adran awyr yr heddlu, byddwn i’n helpu o gwmpas y cartref gyda’r merched oedd yn byw yno. Am mod i’n dod o Kenya, ro’n i’n ei chael hi’n hawdd cael perthynas dda gyda nhw, a bydden nhw’n dod ata i gyda’u problemau.

Dwi’n mwynhau gweithio gyda phlant – ro’n i’n arfer bod yn Sgowt, felly dwi’n dda am drefnu tripiau, fel teithiau cerdded.

Roedd fy nyddiau’n brysur iawn, ond ro’n i’n dal eisiau gwneud mwy.

A picture of Kenya

Ro’n hi hefyd yn arfer helpu’r grwpiau o wirfoddolwyr o bob cwr o’r byd a fyddai’n dod i helpu yn y cartref, can helpu i gynllunio’u hamserlenni er mwyn iddyn nhw ddod i adnabod ein diwylliant a’r plant yn y cartref (a chartrefi oedd yn gysylltiedig â’n un ni) yn dda

Yn Kenya, yr enw ar blant sy’n gadael ysgol yw ‘dosbarth pedwar’. Ar ôl iddyn nhw adael ysgol, maen nhw’n cael eu hannog i ddysgu sgiliau bywyd am naw mis, fel cyllid, rheoli amser ac ymddygiad cywir. Dyma’r pethau na fyddech chi o reidrwydd yn eu dysgu yn yr ysgol, ond maen nhw’n bwysig er mwyn bod yn ddinesydd ‘cyflawn’ ac yn barod ar gyfer bywyd.

Fe wnes i helpu yn yr eglwys hefyd, yn llunio rhaglenni mentora ar gyfer plant ‘dosbarth pedwar’, cyn iddyn nhw fynd i brifysgol neu waith.

Ar ben hyn, rydyn ni hefyd yn gwneud rhaglenni allgyrraedd yn y gymuned, gan fynd i garchardai o fentora’r carcharorion. Ro’n i’n teimlo ei bod hi’n bwysig ceisio rhoi gobaith iddyn nhw, oherwydd pan fydd pobl yn y carchar, maen nhw’n aml yn teimlo fod eu bywyd drosodd.

Mae atal yn well na gwella, ac yn Kenya, fe wnes i dreulio fy amser yn helpu pobl ifanc drwy geisio’u cadw oddi ar y strydoedd. Er enghraifft, fe wnes i drefnu taith pêl fasged i geisio denu’u sylw a gwneud pethau eraill.

Mae fy ngwraig yn dweud mod i’n adnabod cymaint o bobl, a dwi’n falch am hyn. Mae wir yn brofiad sy’n agor eich llygaid i weithio gyda phobl o bob cefndir.

Symudais i’r DU gyda fy ngwraig yn 2019, ac am fy mod i’n mwynhau helpu pobl yn y gymuned, dwi bellach yn gweithio fel swyddog ymgysylltu pobl Ddu, Asiaidd a Lleiafrifoedd Ethnig ym Merthyr Tudful.

Bydda i a fy nghydweithwyr yn estyn allan i wahanol bobl ac yn ceisio’u cynghori am frechiadau COVID-19, a hefyd rannu gwybodaeth ddiweddaraf â nhw am warchod eu hunain rhag COVID-19.

Mae’n swydd wirioneddol bwysig, a dwi wrth fy modd y cwrdd â phobl o ddiwylliannau gwahanol. Yn ôl yn Kenya, dwi’n siarad 12 iaith wahanol, a dwi’n ceisio dysgu Pwyleg, Portwgeeg ac Arabeg ar hyn o bryd!

Mae’n hanfodol i mi adeiladu perthynas dda a deall yr heriau a wynebir gan gymunedau BAME.

Bydd llawer o bobl yn teimlo’n ynysig ac unig pan fyddan nhw’n symud i le newydd am y tro cyntaf, felly dwi’n chwilio am ffordd o adeiladu cymuned er mwyn i bobl allu cysylltu â phobl o wledydd gwahanol a’u gwledydd nhw eu hunain, a chreu cyfeillgarwch.

Fe ddywedais uchod fod atal yn well na gwella. Er mwyn creu gwell llesiant a dyfodol i bobl o gymunedau Du, Asiaidd a Lleiafrifoedd Ethnig, mae’n bwysig i ni ddod o hyd i ffyrdd o fod yn amyneddgar a dysgu oddi wrth ein gilydd drwy fynd i’r afael â rhwystrau ieithyddol a hefyd i ddeall cefndiroedd a diwylliannau gwahanol pobl.

Er enghraifft, mae’n debygol y byddai rhywun nad yw Cymraeg neu Saesneg yn iaith gyntaf iddyn nhw’n ei chael hi’n llawer mwy anodd i ddeall rhywbeth os nad yw wedi’i gyfieithu i’w hiaith nhw, a byddai’n cymryd mwy o amser i’w ddeall, felly rydyn ni’n edrych ar sut y gallwn ni helpu pobl fel hyn.

Yn y pen draw er mwyn gwneud gwahaniaeth cadarnhaol rhaid i ni adeiladu ymddiriedaeth â phobl yn ein cymunedau BAME, a meddwl am amryw ffyrdd i’w cynnwys a’u cwmpasu nhw. Fydd dull ‘un-maint-i-bawb’ ddim yn gweithio.

Dwi wedi bod yn y swydd hon ers rhai misoedd, ac mae wedi bod yn brysur iawn, ond mae hynny’n fy siwtio i!

Y rhan orau yw cwrdd â llawer o bobl wahanol, a gwybod fy mod i’n eu helpu nhw, Dwi’n edrych ymlaen at gysylltu â rhagor o gymunedau, a gweithio gyda’n partneriaid i greu gwell dyfodol i bobl.

Bydd profiadau a theimladau Bravon yn bwydo i mewn i’n Hasesiad Llesiant ac Angen Lleol. Darllenwch amdano yma.  

 

Rydym yn falch o fod yn aelodau o
Rwydwaith Cydgynhyrchu Cymru.

Rydym yn falch o fod yn aelodau o
Rwydwaith Cydgynhyrchu Cymru.