Mae ein hwythnos Caru Arloesi gyntaf yn tynnu sylw at brosiectau arloesi unigryw sy’n effeithio profiadau byw nifer fawr iawn o bobl – gan newid bywydau, hyd yn oed! Ar y dudalen hon gallwch weld straeon arloesi, adnoddau a syniadau o bob cwr o ranbarth Cwm Taf Morgannwg a thu hwnt!

Wythnos Caru Arloesedd

Yn ystod mis Chwefror, gweithiodd Hwb Cydlynu Ymchwil, Gwella ac Arloesi Cwm Taf Morgannwg gyda phartneriaid gan gynnwys Bwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf Morgannwg, yr Hwb Gwyddorau Bywyd, Cymdeithas Dai Newydd a llawer mwy i lansio wythnos oedd wedi ymroi i ‘garu arloesi’.

Mae arloesi’n air a ddefnyddir yn aml ar draws iechyd a gofal cymdeithasol, ond gall olygu llawer o bethau i lawer o bobl.

O ddefnyddio technoleg uwch i wella gofal iechyd, i annog gweithgareddau llesiant yn y gymuned, gall arloesi ddod mewn sawl ffurf, ond bydd pob un agwedd yn gallu cael effaith gadarnhaol ar fywydau pobl.

Crëwyd y dudalen hon yn ystod Wythnos Caru Arloesi, a bydd bellach yn llwyfan ar gyfer rhannu straeon, gwersi a ddysgwyd a syniadau oddi wrth bobl sydd wedi arloesi yn y gorffennol.

Gobeithio y byddwch chi’n ymuno â ni ar y cyfryngau cymdeithasol gan ddefnyddio’r hashnod #CaruArloesi

Wrydyn ni wedi tynnu sylw at rai straeon i ysbrydoli isod.

Methiant yw’r llwybr at Lwyddiant – Methu, Methu, Methu, Methu, Llwyddo.

Mae Ashley Bale, o Bontypridd, wedi datblygu ap cymdeithasol arobryn ar gyfer pobl ag anableddau dysgu. Yn y blog hwn, mae Ashley yn rhannu pam ei fod yn credu bod gan arloesedd rôl bwysig i'w chwarae o ran gwneud gwahaniaeth i fywydau pobl.

Darllen mwy

Get Fit Cymru

Mae rhaglen ‘Get Fit Cymru’ gan Dai Newydd yn annog pobl ifanc i gamu i gyfeiriad bywyd iachach, gan ennill pwyntiau i’w gwario ar wobrwyon iach mewn busnesau lleol.

Darllen mwy

My Day, My Way employment campaign

Ymgyrch gyflogi Fy Nydd, Fy Ffordd Fe wnaeth aelodau Pobl Yn Gyntaf Cwm Taf greu fideo cerddoriaeth i helpu pobl ag anabledd dysgu i ddeall eu dewisiadau cyflogaeth, a hefyd i annog cyflogwyr i logi pobl ag anableddau dysgu mewn amrywiaeth o swyddi.

Gwylio’r ffilm

Prosiect y Goleudy

Mae Dawn Parkin, un o drigolion angerddol Rhondda Cynon Taf (RCT), wedi dod ynghyd â phrif sefydliadau elusennol, tai ac iechyd a llesiant ar draws rhanbarth Cwm Taf Morgannwg i gefnogi pobl yn y gymuned.

Darllen mwy

Mae Innovate Trust yn datblygu ap cymunedol i helpu cadw pobl mewn cyswllt

Mae Innovate Trust wedi creu ap cymunedol o’r enw Insight sy’n darparu lle ar lein sy’n ddiogel ac yn hollol hygyrch i oedolion ag anableddau dysgu, ac sy’n lleihau peryglon cyfryngau cymdeithasol fel seibr-fwlio a throlio.

Darllen mwy

Offeryn i helpu plant reoli’u hiechyd meddyliol a chorfforol.

Nod Sleeping Lion yw helpu plant i reoli’u hiechyd corfforol a meddyliol. Mae hyn yn digwydd drwy wneud ymarferion sy’n eu helpu i gynyddu’u meddwlgarwch, gostwng cyflymder anadlu, cysylltu â’u cyrff a’u helpu i ymlonyddu.

Darllen mwy

Creu diwylliant o arloesi a chreu argraff ar draws y rhanbarth

Mae Simply Do Ideas yn trafod sut gwnaethon nhw greu partneriaeth gyda Thai Cymunedol Cymru i greu diwylliant o arloesi a chreu argraff ar draws y rhanbarth

Darllen mwy

Dywedodd Kelechi Nnoaham, Cyfarwyddwr Iechyd Cyhoeddus Bwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf Morgannwg...

"Dyw arloesi ddim yn ddatblygiad llwyddiannus o syniadau newydd yn unig, ond mae hefyd yn barodrwydd i brofi a rhoi cynnig ar rywbeth newydd, nad yw’n rhwym o lwyddo, ond sy’n meddu ar y potensial i wneud newid effeithiol a chynaliadwy yn wirionedd."

Diddordeb mewn arloesi? Mae ambell syniad a chyngor i’w cael yn y ddolen isod!

Rhwydwaith Arloesi’r Hwb Gwyddorau Bywyd

Mae ‘Achieving Innovation’ yn adnodd ar lein sy’n cynnwys mewnwelediadau allweddol, ymchwil newydd, a safbwyntiau ffres – gan roi’r offer a’r wybodaeth angenrheidiol i bob sector i allu gwneud gwahaniaeth.

Darllen mwy

Hwb Arloesi RIIC Gogledd Cymru

Mae Hwb Cydlynu Ymchwil, Gwella ac Arloesi Gogledd Cymru wedi datblygu’r adnodd defnyddiol hwn sy’n dangos dolenni i wefannau tystiolaeth / arfer dda.

Darllen mwy

SimplyDo: y Blog Arloesi

Mewnwelediadau ac arferion gorau diweddaraf SimplyDo ynghylch sut i yrru arloesi yn eich sefydliad.

Darllen mwy

Bwster Jargon

Mae'r Ganolfan RIIC CTM wedi creu bwster jargon ar gyfer rhai o'r geiriau a glywn yn aml yn y gweithle!

Darllen mwy

Rydym yn falch o fod yn aelodau o
Rwydwaith Cydgynhyrchu Cymru.

Rydym yn falch o fod yn aelodau o
Rwydwaith Cydgynhyrchu Cymru.