Bob wythnos, mae Pat yn mwynhau mynd i foreau coffi a chwarae ychydig o bingo lle gall gael sgwrs a hwyl.

Fel llawer o bobl hŷn, roedd Pat, sy’n 75 oed ac yn byw yn Rhondda Cynon Taf, yn unig. Fodd bynnag, ar ôl clywed am y prosiect ‘Keeping Connected in your Community’, mae bellach yn edrych ymlaen at weld pobl bob wythnos i gael “sgwrs deche”.

Dan arweiniad Valley Kids, cafodd y prosiect ei sefydlu yn 2015 er mwyn mynd i’r afael ag unigrwydd ac arwahanu ac i helpu pobl hŷn i ddod o hyd i ystod o ddigwyddiadau cymdeithasol addas.

Ar ôl sicrhau cyllid gan y Gronfa Gofal Integredig, gweithiodd Valleys Kids gyda phobl oedd yn byw yn y gymuned er mwyn llunio rhaglen o weithgareddau, o bingo cymunedol i aerobeg cadair freichiau.

Roedd grŵp o wirfoddolwyr oedd yn oedolion hŷn wedi eu recriwtio hefyd i redeg y rhaglen, ac i ddylanwadu ar y pethau oedd ar gael. Nod hyn oedd sicrhau bod digon o amrywiaeth a chyfleoedd i bobl feithrin cyfeillgarwch ag eraill.

Mae Pat yn un o 174 o bobl sy’n byw yn y gymuned sydd wedi elwa o raglen ‘Keeping Connected in your Community’.

Mae June, 81 oed, yn mwynhau aerobeg cadair freichiau, achos mae’n ei hatgoffa hi o’i diwrnodau dawnsio.

Dywedodd June, sy’n byw gyda Chlefyd Alzheimer, “Rydyn ni’n eistedd mewn cadair freichiau ac rydyn ni’n gwneud beth allwn ni, ond rydyn ni’n sgwrsio hefyd. Ro’n i’n dwli ar ddawnsio ers talwm… Rydyn ni wedi dechrau dawnsio araf nawr hefyd, ac rydw i wrth fy modd”.

Yn ôl adborth sydd wedi ei gasglu trwy Valleys Kids, mae hyder, lles a hunan-barch y cyfranwyr ers dechrau’r prosiect wedi tyfu, ac maen nhw’n teimlo’n fwy gwydn ac yn teimlo eu bod yn cael eu gwerthfawrogi.

Mae cyllid gan y Gronfa Gofal Integredig wedi ei gwneud yn bosibl i Valley Kids roi cynnig ar wahanol syniadau gan gydweithio’n agos â chymunedau. Maen nhw’n gwneud hynny wrth werthuso pa mor fuddiol yw’r prosiect ar yr un pryd.

Er bod llawer iawn o’r gweithgareddau hyn wedi dod i ben dros dro oherwydd pandemig COVID-19, dydy’r prosiect ddim wedi rhoi’r gorau i gynorthwyo pobl a’u helpu i gysylltu ag eraill yn y gymuned.

Er bod llawer iawn o’r gweithgareddau hyn wedi dod i ben dros dro oherwydd pandemig COVID-19, dydy’r prosiect ddim wedi rhoi’r gorau i gynorthwyo pobl a’u helpu i gysylltu ag eraill yn y gymuned.

Ers dechrau’r pandemig, mae’r niferoedd wedi codi i 294, ac mae gwirfoddolwyr y prosiect yn gweithio’n agos gyda Chyngor RhCT i gynorthwyo oedolion hŷn sy’n ‘gwarchod’ ac sydd ar y rhestr o unigolion agored i niwed.

Yn rhan o’r cymorth sydd wedi ei roi mae ffonio pobl i gael sgwrs, mynd i siopa dros bobl, dosbarthu pecynnau lles a chael sgwrs ar y stepen drws lle bo hyn yn bosibl.

Wrth i’r pandemig redeg ei gwrs, mae Valleys Kids yn rhagweld y bydd y cymorth rheng flaen yn parhau, yn enwedig er mwyn helpu pobl hŷn i gysylltu ag eraill yn y gymuned, fel June a Pat.

Delweddau stoc yw’r delweddau a ddefnyddiwyd.

 

Rydym yn falch o fod yn aelodau o
Rwydwaith Cydgynhyrchu Cymru.

Rydym yn falch o fod yn aelodau o
Rwydwaith Cydgynhyrchu Cymru.