Sefydlu ein Grŵp Gweithredu Cymunedol

Sefydlu ein Grŵp Gweithredu Cymunedol

Fe wnaethon ni wahodd pobl sy’n byw ac yn gweithio ar draws y rhanbarth i gymryd rhan yn ein Grŵp Gweithredu Cymunedol. Mae’r grŵp hwn yn cynnwys ystod o bobl wahanol o’r sector cyhoeddus a’r trydydd sector, ynghyd ag aelodau’r gymuned leol.

Bydd y grŵp hwn yn gyrru ein gwaith ymlaen, ac yn sicrhau ein bod ni’n dal cynifer o leisiau â phosib. Hyd yn hyn mae gennym dros 40 o bobl yn cymryd rhan, ac mae’r nifer yn cynyddu!

Gyda llawer o bobl yn cymryd rhan yn ein hasesiadau, mae gennym fynediad i sgiliau, cefnogaeth ac arbenigedd. Bydd aelodau ein Grŵp Gweithredu Cymunedol yn ein helpu gyda’r canlynol:

Mapio

Mapio sgiliau ac adnoddau ar draws y rhanbarth

Adrodd yn ôl

Darparu adroddiadau a diweddariadau rheolaidd ynglŷn â chyfleodd i ymgysylltu a’r gwaith a wnaed.

Creu diddordeb

Creu llwyfannau ymgysylltu lleol.

Adborth

Casglu adborth, rhannu adnoddau ac annog mwy o ymgysylltiad.

Digwyddiadau

Hwyluso digwyddiadau a chyfleoedd ymgysylltu.

Hybu

Hybu gweithgaredd ymgysylltu a chanfyddiadau terfynol yr asesiad.

Diwrnod creadigrwydd iechyd meddwl a llesiant yng Nghymdeithas Gymunedol Gilfach Goch

Gwahoddwyd plant a phobl ifanc i gymryd rhan mewn diwrnod creadigol yng Nghymdeithas Gymunedol Gilfach Goch. Fe wnaethon nhw greu ffilmiau cyfansoddi caneuon a chreu cynlluniau i ddangos beth mae iechyd meddwl a llesiant yn ei olygu iddyn nhw.

Darllen mwy

Dogfen friffio Grŵp Gweithredu Asesiadau Cymunedol

Lawrlwythwch y ddogfen friffio am ein Grŵp Gweithredu Asesiadau Cymunedol yma

Lawrlwytho

Rydym yn falch o fod yn aelodau o
Rwydwaith Cydgynhyrchu Cymru.

Rydym yn falch o fod yn aelodau o
Rwydwaith Cydgynhyrchu Cymru.