Mae'r Gronfa Gofal Integredig yn helpu'r Bwrdd Partneriaeth Rhanbarthol i ddatblygu a phrofi dulliau a modelau gwasanaeth newydd sy'n hybu gwaith integreiddio ac atal yn y sectorau iechyd a gofal cymdeithasol.

Ein cynllun ar gyfer Cwm Taf Morgannwg

Yn 2019/2020, cafodd rhanbarth Cwm Taf Morgannwg £12,967,664 o gyllid refeniw o’r Gronfa Gofal Integredig a £5,049,000 o gyllid cyfalaf er mwyn gwella a datblygu gwasanaethau cynaliadwy i bobl sy’n byw ym Mhen-y-bont ar Ogwr, Rhondda Cynon Taf a Merthyr Tudful.

Gallwch ddarllen am refeniw a chyllid cyfalaf y Gronfa Gofal Integredig yma.

Gweithiodd yr Uned Gomisiynu Rhanbarthol gyda phartneriaid yn y sector iechyd, yr awdurdodau lleol, y trydydd sector, y sector addysg a’r sector tai er mwyn llunio cynllun ynghylch sut bydd y cyllid yn cael ei ddefnyddio ar draws iechyd a gofal cymdeithasol.

Trwy gydweithio, gallwn ni sicrhau bod y cyllid yn arwain at brofiadau a chanlyniadau gwell i unigolion ac i gymunedau.

Cyllid refeniw

Gweithiodd yr Uned Gomisiynu Rhanbarthol gyda phartneriaid er mwyn datblygu cynllun Refeniw dwy flynedd ar gyfer y Gronfa Gofal Integredig.

Cafodd £12,967,664 ei fuddsoddi yn y tri awdurdod lleol (Cyngor Bwrdeistref Sirol Rhondda Cynon Taf, Cyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr a Chyngor Bwrdeistref Sirol Merthyr Tudful), yn ogystal â Bwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf Morgannwg, y sector gwirfoddol a’r sector annibynnol.

Helpodd yr arian i ddatblygu 54 o brosiectau er mwyn darparu gwasanaethau ar gyfer:

 

 

Cyllid cyfalaf

Gweithiodd yr Uned Gomisiynu Rhanbarthol hefyd gyda phartneriaid i ddatblygu cynllun buddsoddi cyfalaf tair blynedd, gyda £5,049,000 o gyllid.

Rhwng 2019 a 2020, cafodd saith prosiect cyfalaf ar raddfa fawr gyfanswm buddsoddiad gwerth £3,640,061.

Helpodd yr arian i greu cynlluniau, gan gynnwys:

  • model cymysg o dai gofal cymdeithasol
  • cynlluniau gofal ychwanegol ar gyfer pobl hŷn
  • llety byw â chymorth i bobl gydag anableddau dysgu
  • canolfannau cymunedol
  • ad-drefnu gwasanaethau dydd Dementia ar draws Rhondda Cynon Taf, Merthyr Tudful a Phen-y-bont ar Ogwr

Cafodd gweddill yr arian ei fuddsoddi mewn 52 o brosiectau cyfalaf ar raddfa lai, gan gynnwys addasiadau cyfalaf, gwaith adnewyddu ac offer.

Roedd hyn yn cynnwys:

  • mân addasiadau i adeiladau ar gyfer plant gydag awtistiaeth, gan gynnwys ystafelloedd synhwyraidd a meysydd chwarae
  • gwell llwybrau ar gyfer prosiectau beicio i bobl gydag anableddau dysgu
  • cymhorthion ac offer at ddibenion diogelwch yn y cartref ac addasiadau i gartrefi pobl ar ôl iddyn nhw gael eu rhyddhau o’r ysbyty
  • addasiadau i adeiladau ar gyfer gwasanaethau i bobl hŷn gyda Dementia, gan gynnwys gerddi synhwyraidd

 

Hoffech chi wneud cais am gyllid?

Mae’r ceisiadau am gyllid cyfalaf y Gronfa Gofal Integredig wedi cau am eleni, ond ewch i dudalennau ein partneriaid isod am gyfleoedd i gael cyllid.

Cymdeithas Mudiadau Gwirfoddol Pen-y-bont ar Ogwr (BAVO)

Mae gwybodaeth am y grantiau diweddaraf sydd ar gael ym Mhen-y-bont ar Ogwr i’w gweld yma.

Mynd i’r wefan

Interlink

Mae gwybodaeth am y grantiau diweddaraf sydd ar gael yn RhCT i’w gweld yma.

Mynd i’r wefan

Gweithredu Gwirfoddol Merthyr Tudful (VAMT)

Mae gwybodaeth am y grantiau diweddaraf sydd ar gael ym Merthyr Tudful i’w gweld yma.

Mynd i’r wefan

Uned Gomisiynu Rhanbarthol

Gallwch ddarllen am yr Uned Gomisiynu Ranbarthol yma.

Mynd i’r dudalen

Meysydd gwaith

Gallwch chi ddarllen am y gwahanol grwpiau o breswylwyr mae'r Bwrdd Partneriaeth Rhanbarthol yn ceisio rhoi cymorth iddyn nhw yma.

Darllenwch mwy

Rydym yn falch o fod yn aelodau o
Rwydwaith Cydgynhyrchu Cymru.

Rydym yn falch o fod yn aelodau o
Rwydwaith Cydgynhyrchu Cymru.