Dod â gweithwyr tai proffesiynol ynghyd i frwydro yn erbyn newid yn yr hinsawdd.

Mae ‘datgarboneiddio’ yn derm sy’n cael ei ddefnyddio’n aml, ond beth yw gwir ystyr y gair?  Yn y bôn, mae’n golygu lleihau allyriadau carbon deuocsid (CO2).

Mae carbon deuocsid yn gyfrifol am oddeutu tri chwarter y nwyon tŷ gwydr sy’n effeithio ar yr amgylchedd trwy ddal gwres a gor-gynhesu’r Ddaear.

Uchelgais Deddf Cenedlaethau’r Dyfodol Llywodraeth Cymru yw creu Cymru wyrddach, ffyniannus a mwy cyfartal, sy’n cynnwys lleihau allyriadau carbon o leiaf 80%.

Ar gyfartaledd, mae pob aelwyd yn y DU yn allyrru 2.7 tunnell o CO2 bob blwyddyn drwy wresogi eu cartref, felly mae datgarboneiddio tai cymdeithasol yn hanfodol er mwyn cyflawni uchelgais y llywodraeth.

Mae angen cymryd camau cadarnhaol mewn partneriaeth ag eraill i wneud hyn.

Cysylltu gweithwyr proffesiynol â'r rhaglen Cymunedau Arloesi’r Economi Gylchol (CEIC).

Daeth y tîm ym Mhrifysgol Abertawe sy’n arwain y Rhaglen Cymunedau Arloesi’r Economi Gylchol (CEIC) atom.

Mae rhaglen CEIC yn para am 10 mis ac yn cael ei hariannu gan Swyddfa Cyllid Ewropeaidd Cymru (WEFO).

Ei nod yw helpu gweithwyr proffesiynol yn y sector cyhoeddus i ddatblygu syniadau newydd a chreadigol fydd yn gwella cynhyrchiant a chamau gweithredu, gan sicrhau manteision i’r economi gylchol* ar yr un pryd.

*System economaidd yw economi gylchol a’i nod yw lleihau gwastraff a’r defnydd parhaus o adnoddau.

Mae mynd i’r afael â newid hinsawdd a chreu Cymru fwy cynaliadwy yn flaenoriaeth bwysig i’r sector cyhoeddus yng Nghymru.

Mae gan dai rôl mor hanfodol yn yr agenda hon, felly cysylltom ni â’n cydweithwyr yn y meysydd tai ac adfywio cymunedau sy’n gweithio mewn gwasanaethau cyhoeddus i weld a fyddai ddiddordeb gyda nhw mewn dod ynghyd i weithio ar raglen CEIC.

Creu syniadau ar y cyd

Cam nesaf y daith oedd dod â phobl ynghyd i drafod pa faes roedden nhw am ganolbwyntio arno.

Gyda Phrifysgol Abertawe a Phrifysgol Metropolitan Caerdydd, cynhaliom ni dri gweithdy a ddenodd 40 o fynychwyr o 20 o sefydliadau.

Gyda’i gilydd, penderfynodd y grŵp ganolbwyntio ar ‘ddatgarboneiddio tai cymdeithasol’.

Yn ystod y cam nesaf, bydd y cyfranogwyr sydd gyda diddordeb yn gwneud cais i gymryd rhan yn rhaglen CEIC.

Bydd y grŵp llwyddiannus yn cael y dasg o edrych ar sut mae modd rhoi datrysiadau datgarboneiddio ar waith. Rhaid bod y rhain yn effeithlon o ran adnoddau, yn gydnerth ac yn garbon isel eu dyluniad.

Byddwn ni’n cyhoeddi cam nesaf y daith hon yn fuan. Cadwch lygad allan!

Meddai Edwina O'Hart, Arweinydd Arloesi Cartrefi Cymunedol Cymru:

"Fel arweinydd arloesi Cartrefi Cymunedol Cymru, rwy'n ystyried hwn yn gyfle gwych i'r sector ac rwy'n awyddus i beidio ag ailddyfeisio'r olwyn. Bydd y cynrychiolwyr cymdeithasau tai sy'n cymryd rhan o’r rhaglen hon yn rhan o gymuned arloesi ein sector, a byddan nhw’n rhannu gwybodaeth ymhellach fyth gyda'n cymorth ni."

Rydym yn falch o fod yn aelodau o
Rwydwaith Cydgynhyrchu Cymru.

Rydym yn falch o fod yn aelodau o
Rwydwaith Cydgynhyrchu Cymru.