"Dwi mor falch eich bod chi wedi ffonio. Roeddwn i'n teimlo'n isel iawn yn gynharach ond rydyn ni'n sicr wedi rhoi’r byd yn ei le! Rwy'n teimlo'n well o lawer nawr, ac yn edrych ymlaen yn fawr at eich gweld chi eto."

Mae’r dyfyniad uchod yn cyfleu sut mae’r ‘Gwasanaeth Cymdogion Da’ yn newid bywydau er gwell.

Mae’r prosiect, sydd wedi cael ei ariannu drwy’r Gronfa Gofal Integredig, yn cysylltu gwirfoddolwyr cymunedol â phobl hŷn allai fod yn teimlo’n ynysig ac yn unig yn eu cartref.

Er mai nod y prosiect yw gwella hapusrwydd a lles pobl leol, mae hefyd yn rhoi profiadau a chyfleoedd newydd i wirfoddolwyr feithrin sgiliau.

 

Dywedodd Colin, sy'n byw ar ei ben ei hun ym Mhontypridd, ei fod wedi elwa’n fawr o’r gwasanaeth:

“Mae’r gwasanaeth wedi bod yn dda iawn i mi gan fy mod i’n byw ar fy mhen fy hun.  Mae’r cyfnod clo wedi bod yn anodd i mi gan fy mod i’n dioddef o orbryder ac iselder. Yn yr hydref, cefais i COVID-19 ac roeddwn i’n wael iawn yn yr ysbyty. Mae fy ysgyfaint wedi cael eu niweidio a rhaid i mi gael sganiau CT.

“Mae Pauline, y gwirfoddolwr sy’n fy ngalw i, wedi bod yn llais cyfeillgar drwy gydol yr holl gyfnod hwn. Dwi wrth fy modd yn chwarae gitâr (mae gen i bump ohonyn nhw!) ac yn canu. Roeddwn i hyd yn oed ar Britain’s Got Talent tua 12 mlynedd yn ôl! Rwy’n siarad â Pauline am ganeuon a cherddoriaeth, ac mae hyn yn codi fy nghalon yn fawr.

“Dwi wedi dod i adnabod Pauline wrth iddi fy ngalw i unwaith yr wythnos. Mae’r Gwasanaeth Cymdogion Da yn wych. Fel arall, byddwn i’n sownd yn y tŷ ac yn siarad â neb.”

 

Fel Pauline, mae Helen yn wirfoddolwr i'r gwasanaeth Cymdogion Da.

Mae gan fab iau Helen awtistiaeth, ac o ganlyniad, dydy hi ddim wedi gallu gweithio ers tro. Pan ddechreuodd mab Helen yn yr ysgol, cafodd Helen ychydig mwy o amser rhydd ac roedd hi am helpu pobl.

Meddai Helen: 

“Soniodd cariad fy chwaer am y syniad o wirfoddoli. Roedd hyn yn swnio fel peth gwych i’w wneud. Pan ddechreuais i wirfoddoli am y tro cyntaf gyda’r Gwasanaeth Cymdogion Da, roeddwn i’n helpu un fenyw am un diwrnod yr wythnos. Bydden ni’n siarad sawl diwrnod yr wythnos ac yn dod yn ffrindiau. Roedden ni’n hoff iawn o’n gilydd.

Delweddau stoc yw’r delweddau a ddefnyddiwyd.

Helen, Un o wirfoddolwyr y Gwasanaeth Cymdogion Da:

"Mae gwirfoddoli i’r Gwasanaeth Cymdogion Da wedi bod yn fendith. Dwi’n ei fwynhau’n fawr. Mae gwirfoddoli’n fy helpu i hefyd gan fod pethau’n digwydd yn fy mywyd ni.

Mae'n braf cwrdd â phobl eraill ac weithiau dwi ar y ffôn am awr! Mae'n arbennig iawn gwrando ar bobl eraill."

Rydym yn falch o fod yn aelodau o
Rwydwaith Cydgynhyrchu Cymru.

Rydym yn falch o fod yn aelodau o
Rwydwaith Cydgynhyrchu Cymru.