Gall dod o hyd i weithgareddau i gadw plant yn ddiogel ac i’w difyrru fod yn her ar unrhyw adeg, ond mae’n anos fyth yn ystod pandemig.

O dan amgylchiadau arferol, gall teuluoedd â phlant anabl sy’n byw yn RhCT fanteisio ar lawer o wahanol lefydd i fynd am hwyl, datblygu sgiliau a chael cefnogaeth emosiynol.

Fodd bynnag, erbyn mis Mawrth 2020, roedd pob un ohonom ni yn wynebu cyfnod clo llym a’r perygl gwirioneddol y byddai COVID-19 yn cylchredeg yn eang yn ein cymunedau.

Roedd hyn wedi ei gwneud bron yn amhosibl i blant a phobl ifanc fregus gael gafael ar gymorth ‘go iawn’ yn ddiogel.

Pan ddechreuodd y cyfyngiadau gael eu codi felly yn ystod Haf 2020, roedd angen creu amgylchedd diogel lle gallai plant ag anabledd a’u brodyr a’u chwiorydd dreulio ychydig bach o amser mawr ei angen ymysg plant eraill, wrth ymgymryd â gweithgareddau i gefnogi eu datblygiad ar yr un pryd.

Er mwyn diwallu’r angen hwn, sicrhaodd Cyngor Bwrdeistref Sirol Rhondda Cynon Taf gyllid o’r Gronfa Gofal Integredig i ddarparu rhaglen ‘Chwarae â Chymorth’ ar gyfer plant sy’n agored i niwed yn yr ardal.

Dros chwe wythnos, cynhaliodd Tîm Datblygu Chwarae CBS RhCT sesiynau dyddiol mewn lleoliadau diogel rhag Covid ar gyfer y plant hynny a nodwyd gan y Tîm Plant Anabl a’r Gwasanaeth Teuluoedd Cydnerth.

Cefnogwyd plant a phobl ifanc 5-14 oed i ddatblygu eu sgiliau cymdeithasol, emosiynol a chorfforol trwy ystod o weithgareddau diddorol gan gynnwys celf a chrefft, adeiladu ffau a garddio.

Yn ystod y rhaglen, aeth 161 o blant a phobl ifanc i 1006 o sesiynau.

Nid oedd llawer o’r plant hyn wedi gadael eu cartref ers mis Mawrth 2020 ac roedd dirfawr angen iddyn nhw dreulio amser ymysg plant eraill a gyda gweithwyr proffesiynol.

Images are stock.

Dywedodd Zoe Lancelott , Pennaeth Lles Cymunedol a Chyfnerthedd yn CBS RhCT:

"Roedden ni’n falch iawn o sicrhau cyllid gan y Gronfa Gofal Integredig i greu'r rhaglen Chwarae â Chymorth i deuluoedd yr haf diwethaf. “Rydym ni’n gwybod y gall peidio mynd i’r ysgol a gweld cyfoedion am sawl mis fod yn niweidiol i ddatblygiad plant, felly roeddem ni’n falch bod adborth proffesiynol ac adborth gan rieni ar ddiwedd y rhaglen wedi tynnu sylw at y cynllun wedi helpu i bontio’r bwlch datblygu. “Yn ogystal, nododd adborth gan weithwyr cymdeithasol fod lleoliadau cartref wedi’u cadw o ganlyniad i’r sesiynau dyddiol hyn, a allai fel arall fod wedi chwalu, a fyddai o bosibl wedi arwain at gamau statudol pellach.”

Rydym yn falch o fod yn aelodau o
Rwydwaith Cydgynhyrchu Cymru.

Rydym yn falch o fod yn aelodau o
Rwydwaith Cydgynhyrchu Cymru.