Nod y rhaglen ‘Mae’n ddydd Mawrth bob dydd’ yw creu gwasanaeth dyddiol, integredig sydd ar gael y tu hwnt i’r cyfnod rhwng 9am a 5pm, fel bod modd i bobl gael y gwasanaethau iechyd a gofal cymdeithasol cywir, ar yr adeg gywir iddyn nhw.

Er mai’r cynllun yw creu gwasanaeth iechyd a gofal cymdeithasol dyddiol fydd ar gael rhwng 8am ac 8pm, mae cyllid o’r Gronfa Trawsnewid wedi sicrhau bod y gwasanaethau priodol yn cael eu hymestyn a’u bod nhw’n hygyrch i bobl nawr.

Mae hyn yn cynnwys ehangu carfannau arbenigol y Tîm Ymateb Symudol a’r Tîm Clinigol Acíwt, yn ogystal â sefydlu Tîm Atal Achosion o Gwympo.

 

Ehangu'r Tîm Ymateb Symudol

Mae data’r GIG yn dangos bod achosion o gwympo yn achosi anafiadau’n aml. Bydd un o bob tri oedolyn dros 65 oed sy’n byw gartref yn cwympo o leiaf unwaith y flwyddyn, a bydd tua hanner y rhain yn cwympo’n amlach.*

Er ein bod ni’n gwybod bod pobl am barhau i fod yn annibynnol, mae’n bwysig eu bod nhw’n gallu cael y cymorth a’r gwasanaethau cywir pan fydd eu hangen.

Er mwyn helpu pobl yn y gymuned trwy’r rhaglen ‘Mae’n ddydd Mawrth bob dydd’, mae’r tîm wedi defnyddio cyllid gan y Gronfa Trawsnewid i gynyddu nifer yr ymatebwyr symudol sydd ar gael i ymateb i alwadau/hysbysiadau teleofal, a hynny 24 awr y dydd, 365 diwrnod y flwyddyn.

Sut mae'r gwasanaeth yn gweithio?

Mae’r gwasanaeth yn gweithio trwy ymateb i geisiadau am gymorth gan bobl gydag offer teleofal, fel larwm i’w wisgo am eich gwddf neu eich arddwrn.

Os bydd rhywun yn pwyso’r larwm hwn neu os bydd un o’r synwyryddion teleofal yn cael ei actifadu, bydd y Tîm Ymateb Symudol, sy’n cynnwys gweithwyr gofal cymdeithasol arbennig, yn cyrraedd cartref yr unigolyn hwnnw o fewn 30 munud ac yn gallu mynd i mewn i gartref yr unigolyn a rhoi cymorth iddo drwy ddefnyddio sêff allweddi.

Mae gan y tîm brofiad helaeth o roi cymorth i bobl yn eu cartref, felly byddan nhw’n asesu’r sefyllfa er mwyn ddeall sut orau i helpu.  Mae’n bosib y bydd angen triniaeth ysbyty ar yr unigolyn, neu gan amlaf, bydd yr unigolyn yn cael cymorth a thawelwch meddwl yn ei gartref.

 

Canfod y cymorth hirdymor gorau

Ar ôl i’r tîm adael cartref yr unigolyn, byddan nhw’n cofnodi’r hyn sydd wedi digwydd. Bydd hyn yn helpu i greu darlun o ran unrhyw heriau neu anawsterau mae’r unigolyn yn eu hwynebu sy’n effeithio ar ei annibyniaeth.

Er enghraifft, os bydd angen ehangach gyda’r unigolyn o ran iechyd neu ofal cymdeithasol, mae’n bosib y bydd y tîm yn gallu cael trafodaeth gyda’r unigolyn ynglŷn â manteision cytuno i atgyfeiriad at wasanaeth arall.

Gan fod y Tîm Ymateb Symudol yn rhan o’r Tîm Adnoddau Cymunedol, sy’n perthyn i Gyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr, bydd modd darparu rhagor o wybodaeth, cyngor a chymorth er mwyn canfod y cymorth gorau.

Yn ogystal â hynny, mae Cydlynydd Atal Achosion o Gwympo arbenigol y rhaglen ”Mae’n ddydd Mawrth bob dydd” yn rhoi cymorth a chyngor i’r Tîm Ymateb Symudol. Os bydd yr unigolyn yn cytuno arno, bydd y Tîm Ymateb Symudol yn gallu trefnu asesiad o achosion o gwympo y gall y Tîm Clinigol Acíwt ei gynnal, a hwnnw dan arweiniad uwch ymarferydd nyrsio.

*Wedi ei gymryd o https://www.nhs.uk/conditions/falls/ (Saesneg yn unig)

Fel y soniwyd uchod, mae’r rhaglen ‘Mae’n ddydd Mawrth bob dydd’ wedi buddsoddi mewn Tîm Atal Achosion o Gwympo er mwyn lleihau achosion o’r fath yn y gymuned.

Mae’r tîm yn cynnwys Cydlynydd Atal Achosion o Gwympo, sy’n ffisiotherapydd arbenigol, a Thechnegydd Therapi.

Mae’r tîm yn datblygu prosiectau sy’n hysbysu ac yn grymuso cydweithwyr yn y Tîm Adnoddau Cymunedol a’r tu hwnt iddo ynghylch atal achosion o gwympo er mwyn sicrhau bod atal achosion o gwympo yn gyfrifoldeb i bawb.

Mae’r tîm hefyd yn gweithio’n agos gyda sefydliadau cymunedol gan gynnwys Gofal a Thrwsio, Cyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr a staff o Fwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf Morgannwg er mwyn atal achosion o gwympo yn y gymuned.

Rydym yn falch o fod yn aelodau o
Rwydwaith Cydgynhyrchu Cymru.

Rydym yn falch o fod yn aelodau o
Rwydwaith Cydgynhyrchu Cymru.