Gall y gweithdai fod o fudd i bobl sydd â phrofiadau byw a'r rhai sy'n gweithio ym maes iechyd, gofal cymdeithasol a lles yn ein rhanbarth.

Pam ydyn ni’n gwneud hyn?

Mae gan bobl sy’n byw yn ein cymunedau fywydau gwahanol, profiadau gwahanol, straeon gwahanol i’w hadrodd ac anghenion gwahanol. O gofio hyn, ni ddylid cael agwedd ‘un maint i bawb’ at ymgysylltu cymunedol.

Bydd ein gweithdai’n edrych ar y ffyrdd gorau o greu llwyfannau ble gall pobl godi’u llais, cael eu derbyn a’u gwerthfawrogi er mwyn iddyn nhw allu gwneud gwahaniaeth i ddyfodol y prosiectau a’r gwasanaethau y byddan nhw’n eu defnyddio.

Bydd cyfle i glywed astudiaethau achos, rhannu’r hyn a ddysgwyd ac ymgymryd â gweithgareddau i ddarganfod y dulliau gorau gyda’n gilydd.

Nodwch os gwelwch yn dda fod yr hyfforddiant hwn wedi’i gyllido’n llawn i bob sy’n byw ac yn gweithio mewn gwasanaethau iechyd, gofal cymdeithasol a llesiant ym Mhen-y-bont ar Ogwr, Rhondda Cynon Taf a Merthyr Tudful. 

 

ant hwn wedi’i gyllido’n llawn i bob sy’n byw ac yn gweithio mewn gwasanaethau iechyd, gofal cymdeithasol a llesiant ym Mhen-y-bont ar Ogwr, Rhondda Cynon Taf a Merthyr Tudful. 

 

Pam ddylwn i ymuno â'r rhaglen?

Bydd Gyda’n Gilydd yn Hyn addas i chi os ydych yn byw a/neu’n gweithio yn Rhondda Cynon Taf, Pen-y-bont ar Ogwr neu Ferthyr Tudful a:

  • Mae gennych ddiddordeb mewn dysgu ffyrdd newydd o ymgysylltu’n ystyrlon â chymunedau ym Mhen-y-bont ar Ogwr, Merthyr Tudful a Rhondda Cynon Taf
  • Rydych chi am ddefnyddio eich profiadau eich hun i ddylanwadu ar newid mewn iechyd, gofal cymdeithasol a lles
  • Rydych chi eisiau cysylltu â phobl eraill sy’n gweithio ac yn byw yng Nghwm Taf Morgannwg sy’n angerddol dros greu newid cadarnhaol

Hyfforddwyr yn hyn gyda'i gilydd 

Nikki Giant

Mae Nikki yn awdur, entrepreneur ac arloeswr cymdeithasol.

Hi yw sylfaenydd y Girl Lab, sefydliad ar genhadaeth i newid y ffordd y mae merched a phobl ifanc yn cael eu cynrychioli, ymgysylltu a chefnogi.

Nikki yw cyn-sylfaenydd y fenter gymdeithasol Full Circle Education, sy’n arbenigo mewn mynd i’r afael â materion sy’n effeithio ar blant ac ieuenctid, a chyn-sylfaenydd y fenter gymdeithasol Girls Circle sy’n cefnogi merched a menywod ifanc ledled Cymru a Lloegr.

Mae hi wedi ysgrifennu pum llyfr, ac fe’i rhestrwyd fel un o’r 35 menyw fusnes dan 35 uchaf yng Nghymru yn 2015.

Cyhoeddir rhagor o weithdai yn fuan

Gofyn am becynnau offer ymgysylltu

Hoffech chi gynnal eich digwyddiadau ymgysylltu eich hunan? Rydym wedi datblygu pecyn offer sy’n cynnwys ystod o weithgareddau. Gallwch anfon e-bost gyda’r gair ‘toolkit’ gydag ychydig mwy o wybodaeth atom at hello@ctmregionalparthetnershipbo

E-bostiwch

Rydym yn falch o fod yn aelodau o
Rwydwaith Cydgynhyrchu Cymru.

Rydym yn falch o fod yn aelodau o
Rwydwaith Cydgynhyrchu Cymru.