Ym mis Mehefin , bydd digwyddiad hac-a-thon yn dod â phobl â phrofiadau byw, gweithwyr proffesiynol a chynhyrchwyr creadigol ynghyd i gynllunio a dylunio adnodd ar bwnc neu fater sy’n bwysig iddyn nhw, fel ffordd o godi ymwybyddiaeth a dod o hyd i atebion arloesol ar gyfer gwella gwasanaethau.

Bydd yr hac-a-thon yn dod â phobl ag anableddau dysgu o bob rhan o Ferthyr Tudful a Rhondda Cynon Taf ynghyd, yn ogystal â selogion amgylcheddol a gweithwyr proffesiynol, i ganfod pethau ymarferol y gall pobl ag anableddau dysgu eu gwneud er mwyn bod yn fwy cyfeillgar i’r amgylchedd a helpu i frwydro yn erbyn newid yn yr hinsawdd.

Yn yr arddangosfa hwn am 2pm ar 5ed Gorffennaf , rydym yn eich gwahodd chi i gwrdd â phobl a gymerodd ran yn yr hac-a-thon.

Bydd yr arddangosfa yn rhoi cyfle i’r bobl hyn rannu eu profiadau yn ogystal â lansio eu hadnoddau, gyda’r nod o rymuso eu cyfoedion a gwerthuso effeithiolrwydd y dull ymgysylltu hwn.

Ymunwch â’r arddangosfa mis Gorffennaf!

Zoom https://zoom.us/j/954 9443 2686

ID y Cyfarfod: : 954 9443 2686

Rydym yn falch o fod yn aelodau o
Rwydwaith Cydgynhyrchu Cymru.

Rydym yn falch o fod yn aelodau o
Rwydwaith Cydgynhyrchu Cymru.