Rydym ni’n angerddol am sicrhau’r canlyniadau iechyd a lles gorau i’n cymunedau. Darllenwch ragor amdanom ni isod.

Cynghorydd Jane Gebbie

Cynghorydd Jane Gebbie

Cadeirydd Bwrdd Partneriaeth Rhanbarthol ac Aelod Cabinet dros Wasanaethau Cymdeithasol a Chymorth Cynnar yng Nghyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr (BCBC).

Cynghorydd Jane Gebbie

Close

Caewch

Rwyf wedi dal swyddi mawr ym maes llywodraeth leol, gan gynnwys craffu ar iechyd, gwasanaethau cymdeithasol, addysg, cyllidebau a deddfwriaeth. Mae'n llefarydd ar ran gweithlu, iechyd a gofal cymdeithasol yng Nghymdeithas Llywodraeth Leol Cymru. Yn angerddol dros degwch a chyfiawnder cymdeithasol, rwy'n Aelod o Undeb Llafur, a chyn hynny cyn imi gynrychioli'r gwasanaethau cyhoeddus fel Dirprwy Gynullydd UNISON Cymru, ac fel aelod o Gyngor Cyffredinol TUC Cymru. Rydw i hefyd yn aelod gweithgar o Bwyllgor Cydraddoldeb Cyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr.  
Rachel Marsh

Rachel Marsh

Cyfarwyddwr Gweithredol Strategaeth, Chynllunio a Pherfformiad, Ymddiriedolaeth GIG Gwasanaethau Ambiwlans Cymru

Rachel Marsh

Close

Caewch

Deuthum yn Gyfarwyddwr Gweithredol Strategaeth, Perfformiad a Chynllunio ym mis Hydref 2019, ar ôl ymuno ag Ymddiriedolaeth GIG Gwasanaethau Ambiwlans Cymru gyntaf fel Cyfarwyddwr Interim dros Berfformiad a Chynllunio ym mis Rhagfyr 2018. Rwyf wedi gweithio yn y GIG yng Nghymru am 27 mlynedd, yn bennaf o fewn rhanbarth Canol y De. Ymysg fy mhrofiad diweddar mae swyddi ym Mwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf Morgannwg fel Cyfarwyddwyr Cynorthwyol dros Arloesi a Gwasanaeth.
Jonathan Morgan

Jonathan Morgan

Cadeirydd, Bwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf Morgannwg

Jonathan Morgan

Close

Caewch

Cyn ymgymryd â swydd y Cadeirydd yn Bwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf Morgannwg, fi oedd Cadeirydd Cymdeithas Dai Hafod yn ne Cymru, gan ddarparu tai cymdeithasol ac ystod o wasanaethau gofal cymdeithasol ledled Caerdydd, y Fro, Pen-y-bont ar Ogwr ac RCT. fi oedd Cadeirydd Cymdeithas Dai Hafod yn ne Cymru, gan ddarparu tai cymdeithasol ac ystod o wasanaethau gofal cymdeithasol ledled Caerdydd, y Fro, Pen-y-bont ar Ogwr ac Rhondda Cynon Taf. Roeddwn i hefyd yn aelod annibynnol o'r bwrdd mewn Addysg a Gwella Iechyd Cymru a gwnes i wasanaethu ar y Pwyllgor Archwilio i'r Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus a Chomisiynydd Cenedlaethau'r Dyfodol Ar ôl gadael Cynulliad Cenedlaethol Cymru yn 2011, rwyf wedi gweithio am y 12 mlynedd diwethaf ar draws iechyd, gofal cymdeithasol a thai, mewn rolau uwch ac anweithredol amrywiol. Rwy’n teimlo’n angerddol am botensial sefydliadau i gydweithio’n well ac rwy’n rhoi pwys mawr ar gwmpas cydweithio. Mae gennyf ddiddordeb mawr mewn gwasanaethau iechyd meddwl, ar ôl cyflwyno deddfwriaeth i wella gwasanaethau yng Nghymru. Fi yw Cadeirydd y Pwyllgor Cyflogau a Thelerau Gwasanaeth.  
Melanie Minty

Melanie Minty

Cynrychiolydd Fforwm Gofal Cymru, Cynghorydd Polisi, Fforwm Gofal Cymru

Melanie Minty

Close

Caewch

Fel Cynghorydd Polisi ar Gyfer Fforwm Gofal Cymru, rwy’n cynrychioli darparwyr gwasanaethau gofal a reoleiddir (yn y sector preifat a’r trydydd sector) ar gyfer pob grŵp oedran ar draws cartrefi gofal, gofal yn y cartref a byw a gefnogir. Rwy’n gwasanaethu fel cynrychiolydd darparwyr ar gyfer pob RPB ym Mhowys a Gwent, ac fel Ysgrifennydd y Fforwm Darparwyr Cenedlaethol, sy’n rhoi dealltwriaeth dda i mi o’r darlun cenedlaethol a fydd o ddefnydd, gobeithio i CTM. Cyn hyn, gweithiais yn Swyddfa’r Gwarchodwr Cyhoeddus a’r Swyddfa Gartref, gan dreulio deng mlynedd fel un o’r uwch-dîm rheoli yn Swyddfa Basbortau Casnewydd.
Vicki Wallace

Vicki Wallace

Dirprwy Gyfarwyddwr Strategaeth a Phartneriaethau ar gyfer Bwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf Morgannwg

Vicki Wallace

Close

Caewch

Fi yw Dirprwy Gyfarwyddwr Strategaeth a Phartneriaethau ar gyfer Bwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf Morgannwg. Drwy’r rôl hon rwy’n gweithio law yn llaw â’m tîm i ganolbwyntio ar sut y gall y Bwrdd Iechyd a’n partneriaid ledled iechyd a gofal gydweithio i wella iechyd a llesiant ein poblogaeth a lleihau anghydraddoldeb iechyd
Linda Prosser

Linda Prosser

Cyfarwyddwr Gweithredol Strategaeth a Thrawsnewid, Bwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf Morgannwg

Linda Prosser

Close

Caewch

Rwy’n Swyddog Gweithredol profiadol yn y GIG. Rwyf wedi gweithio ar lefel uwch mewn sawl sector arall hefyd gan gynnwys Awdurdod Lleol a’r Sector Gwirfoddol. Oherwydd hyn oll mae gennyf ddealltwriaeth dda o’r GIG, y sector cyhoeddus a’r cyd-destun gwleidyddol ehangach, a sut y bydd systemau’n ael eu cynnal a’u rheoli. Hyfforddais fel Ffisiotherapydd gan arbenigo mewn gofal ar ôl strôc, cyn cymryd at swyddi Rheolaeth Gyffredinol ym meysydd meddygaeth, opthalmoleg a gwasanaethau cymunedol. Wedyn aeth fy ngyrfa â mi i wneud gwaith comisiynu gyda sawl sefydliad yn ne orllewin Lloegr, ac yn y pen draw at NHS England. Ar un pwynt, roeddwn yn gomisiynydd i bedwar cant o feddygfeydd teulu. Treuliais ychydig dros ddwy flynedd fel Prif Swyddog CCG Swydd Wiltshire ac rwyf wedi gwneud gwaith aseiniol fel ymgynghorydd. Ers 2021, bûm yn Gyfarwyddwr Gweithredol Strategaeth a Thrawsnewid ym Mwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf Morgannwg, gyda’r nod o sicrhau bod y Bwrdd Iechyd yn ateb anghenion iechyd y boblogaeth yn y ffordd orau.

Rydym yn falch o fod yn aelodau o
Rwydwaith Cydgynhyrchu Cymru.

Rydym yn falch o fod yn aelodau o
Rwydwaith Cydgynhyrchu Cymru.