Asesiad o Anghenion y Boblogaeth

Rydym ni’n blaenoriaethu grwpiau poblogaeth ar sail ein Hasesiad o Anghenion y Boblogaeth, y gallwch eu darllen yma.

Anableddau Dysgu

Rydyn ni’n gwybod bod profiadau pobl o anableddau dysgu yn wahanol iawn. Ein nod ni yn hynny o beth yw eu helpu i leisio eu barn, fel y bo ganddyn nhw berchnogaeth a rheolaeth gryfach dros eu bywydau.

Darllenwch ragor

Pobl gydag anableddau corfforol a nam ar eu synhwyrau

Rydyn ni am sicrhau bod pobl gydag anableddau corfforol a namau ar y synhwyrau (pobl gyda golwg gwan/wedi colli eu golwg, a phobl fyddar (neu gyfuniad o’r namau hyn)) yn cael eu grymuso i wneud dewisiadau a theimlo’n rhan o’u cymunedau.

Darllenwch ragor

Iechyd meddwl

Rydym ni wrthi’n ystyried ffyrdd o hybu iechyd meddwl pobl sy’n byw yn CTM, Yn rhan o hynny y mae gwella systemau i ddarparu gwell gwasanaethau, a chwalu rhwystrau ac anghydraddoldebau.

Darllenwch ragor

Gofalwyr di-dâl

Ein nod yw sicrhau bod gofalwyr di-dâl yn teimlo bod pobl yn gwrando arnyn nhw ac yn eu deall, a bod gwybodaeth, cyngor a gwasanaethau cyfoes fel grwpiau cymorth ar gael iddyn nhw.

Darllenwch ragor

Plant a phobl ifanc

Rydyn ni am i bob plentyn a pherson ifanc fyw bywydau iach a hapus. Er mwyn creu dyfodol gwell, mae angen i ni sicrhau bod eu lleisiau'n cael eu clywed.

Darllenwch ragor

Pobl hŷn

Rydym ni’n sicrhau bod gan bobl hŷn y wybodaeth, y cyngor a'r gwasanaethau cywir, fel y gallan nhw wneud dewisiadau gwybodus am eu hiechyd a'u gofal cymdeithasol a chadw eu hannibyniaeth gyhyd ag y bo modd.

Darllenwch ragor

Awtistiaeth

Rydyn ni’n gweithio mewn partneriaeth â’r maes iechyd, awdurdodau lleol, y trydydd sector, y Gwasanaeth Awtistiaeth Integredig ac Awtistiaeth Cymru i wella’r gwasanaethau a chymorth i bobl ag awtistiaeth.

Darllenwch ragor

Dementia

Rydym ni'n gwybod y gall byw gyda dementia fod yn heriol, ac rydym ni am sicrhau bod pobl sy'n byw gyda dementia yn teimlo eu bod nhw'n cael cefnogaeth a bod rhywun yn gwrando arnyn nhw.

Darllenwch ragor

Hawdd i'w darllen

Os byddai'n well gyda chi weld fersiwn Hawdd i’w Ddarllen o’r cynnwys hwn, lawrlwythwch hi yma.

Agored

Rydym yn falch o fod yn aelodau o
Rwydwaith Cydgynhyrchu Cymru.

Rydym yn falch o fod yn aelodau o
Rwydwaith Cydgynhyrchu Cymru.