Pam ydyn ni’n gwneud hyn?

Rydyn ni angen deall pa wasanaethau iechyd, gofal cymdeithasol a llesiant sy’n bwysig i bobl sy’n byw yn ein rhanbarth, er mwyn i ni allu creu gwasanaethau newydd a gwella rhai sy’n bodoli eisoes.

Bydd y digwyddiadau hyn, rydyn ni’n eu galw’n ‘hac-a-thons’ yn rhoi cyfle i weithwyr proffesiynol a phreswylwyr ddod at ei gilydd i rannu’u barn a’u teimladau ar bynciau amrywiol, o iechyd meddwl i gynyddu hygyrchedd i wasanaethau Iechyd a Gofal Cymdeithasol.

Bydd pob digwyddiad yn cynnwys gweithgareddau creadigol i helpu pobl fynegi’u hunain. Rydyn ni’n ddiolchgar iawn i gael pobl greadigol sy’n cynnwys cyfansoddwyr caneuon, artistiaid a gwneuthurwyr ffilm yn rhan o’r gwaith hwn.

Bydd mewnwelediadau o’r digwyddiadau hyn yn bwydo ein Hasesiad Anghenion y Boblogaeth, ynghyd â’r Asesiad Llesiant sy’n cael ei ddatblygu gan Fyrddau Gwasanaeth Cyhoeddus Cwm Taf a Phen-y-bont ar Ogwr.

I gael mwy o wybodaeth am yr asesiadau, ewch i’r ddolen isod os gwelwch yn dda.

 

Rydym wedi rhestru’r digwyddiadau sydd ar y gweill isod. Cliciwch ar y dolenni i dderbyn mwy o wybodaeth ac i gofrestru ar gyfer mynychu’r digwyddiad os gwelwch yn dda.

Dydd Gwener 12 Tachwedd, 9:30-2:30

Bydd yr hac-a-thon hwn yw dwyn ynghyd weithwyr proffesiynol a phobl sy’n byw gyda phroblemau iechyd meddwl, i rannu’u profiadau drwy gyfrwng gweithgareddau llesiant a chreadigol.

wedi'u harchebu'n llawn.

Dydd Gwener 19 Tachwedd 9.30-14.30

Bydd yr hac-a-thon hwn yw dwyn ynghyd weithwyr proffesiynol a phobl â phrofiadau byw i archwilio sut allwn ni gydweithio i gynyddu mynediad i bobl sy’n byw ag anghenion cymhleth a nam ar y synhwyrau.

Mynegi diddordeb mewn ymuno

Dydd Mercher 24 Tachwedd 13:00-15:00

Os ydych chi’n berson hŷn sy’n byw yn Rhondda Cynon Taf, Pen-y-bont ar Ogwr neu Ferthyr Tudful, yn ofalwr neu’n weithiwr proffesiynol, bydden ni’n falch iawn pe gallech ddod draw i gwrdd â ni am sesiwn ddwy awr o hyd ble byddwn ni’n trafo

Mynegi diddordeb mewn ymuno

Dydd Gwener 26 Tachwedd 2021 9:30-2:30

Nod yr hac-a-thon hwn yw dwyn ynghyd ddefnyddwyr gwasanaethau gofal seibiant, rhieni a gofalwyr, a gweithwyr proffesiynol i ddatblygu meini prawf tendro ar gyfer gwasanaethau seibiant pellach yn ardal Cwm Taf Morgannwg.

E-bostiwch Jenny i gael mwy o wybodaeth ac i gofrestru.

Gofyn am becynnau offer ymgysylltu

Hoffech chi gynnal eich digwyddiadau ymgysylltu eich hun, neu ddweud wrthym am ddigwyddiad sydd ar y gweill? Rydym wedi datblygu pecyn offer sy’n cynnwys ystod o weithgareddau. E-bostiwch ‘toolkit’ atom gydag ychydig yn rhagor o fanylion os gwe

E-bostiwch

Dysgu mwy am ein Hasesiadau Lleol Llesiant ac Angen

Gallwch ddysgu mwy am ein Hasesiadau Llesiant ac Anghenion y Boblogaeth a sut i gymryd rhan yma.

Darllen mwy

Ein hac-a-thon gyda phlant a phobl ifanc

Darllenwch am ein hac-a-thon gyda phlant a phobl ifanc yma. Fe wnaethon ni ysgrifennu caneuon, creu llyfr lluniau ac ysgrifennu ffilm fer i ddangos beth mae iechyd meddwl a lles yn ei olygu iddyn nhw.

Darllen mwy

Rydym yn falch o fod yn aelodau o
Rwydwaith Cydgynhyrchu Cymru.

Rydym yn falch o fod yn aelodau o
Rwydwaith Cydgynhyrchu Cymru.