Ysgrifennodd y grŵp ddwy gân:

Different

“The last 12 months and the pandemic has really affected so many people…we now live in a much different world to before and we have been changed as a result.”

No Space 

This song highlights the difficulties children and young people faced during the pandemic, and the importance of being there for each other through support and guidance.

Download the lyrics

Different

Lawrlwytho geiriau ‘Different’

Lawrlwytho yma

No Space

Lawrlwytho geiriau ‘No Space’

Lawrlwytho yma

Beth wnaeth y grwpiau ei drafod?

Y grŵp ffilm

Gweithiodd un grŵp gyda’r gwneuthurwr ffilmiau, Meg, i greu ffilm fer, wnaeth roi bywyd i rai o’r problemau mae plant a phobl ifanc yn eu hwynebu o ran iechyd meddwl a lles. Roedden nhw’n awyddus i archwilio’r thema cywilyddio corfforol, ac aethon nhw ati i greu ffilm greadigol ynglŷn â’r pwnc.

“Mae cywilyddio corfforol yn broblem wirioneddol i bobl ifanc ac rydyn ni am annog pobl i feddwl yn fwy cadarnhaol am eu cyrff.”

Y grwpiau dylunio

Aeth y grwpiau ati i ystyried sut gallen nhw bortreadu teimladau a meddyliau am iechyd meddwl a lles drwy ddyluniadau.

Creodd un o’r grwpiau gyflwyniad llawn gwybodaeth ar wahanol agweddau ar iechyd meddwl, yn ogystal ag awgrymiadau ynglŷn â sut i gael cymorth.

“Mae paentio yn gwneud i mi deimlo fel petawn i yn swigen fy hun – mae’n ffordd o ddianc a mynegi fy hun.”

Darllen y Llyfr Emosiynau Cymysg

Cafodd y llyfr hwn ei greu gan bobl ifanc i ddisgrifio'r gwahanol emosiynau y maen nhw, a phobl ifanc eraill, yn eu teimlo bob dydd.

Lawrlwytho yma

Beth oedd canlyniad y drafodaeth?

Cafodd adroddiad o flaenoriaeth dinasyddion ei lunio fis Medi diwethaf, lle cafodd plant a phobl ifanc eu holi ynglŷn â’u blaenoriaethau. Cyfrannodd yr adborth hwn at yr Asesiad o Anghenion y Boblogaeth, gafodd ei gynnal y llynedd.

Defnyddiom ni fframwaith NYTH (rhoi Nerth, Ymddiried, Tyfu’r ddiogel a Hybu) i’n helpu i gynllunio sgyrsiau ystyrlon.  Gallwch chi wylio ffilm ynglŷn â NYTH yma.

Atgyfnerthodd y digwyddiad hwn fod iechyd meddwl, lles a gwydnwch da yn brif flaenoriaeth i’r plant a’r bobl ifanc y siaradom ni â nhw.

Byddwn ni’n rhannu adroddiad manylach o’r digwyddiad yn fuan!

Diolch i bawb wnaeth gymryd rhan.

Rydym yn falch o fod yn aelodau o
Rwydwaith Cydgynhyrchu Cymru.

Rydym yn falch o fod yn aelodau o
Rwydwaith Cydgynhyrchu Cymru.