Rydym ni’n gwybod y gall byw gyda Dementia fod yn heriol iawn ac yn ynysig, nid yn unig i’r person gyda Dementia ond i’w anwyliaid hefyd.
Bydd profiad pobl o Dementia yn amrywio. Dyna pam mae’n bwysig eu bod yn gallu dod o hyd i’r wybodaeth, y cyngor a’r gwasanaethau sydd eu hangen arnyn nhw, a’u bod yn teimlo bod pobl yn gwrando arnyn nhw.
O’r adroddiad hwn, gallwn weld yr heriau niferus mae pobl gyda Dementia yn eu hwynebu.
Yn ôl ‘Codi ein Llais’, prosiect oedd wedi casglu barn gan bobl hŷn (gan gynnwys y rhai sy’n byw gyda Dementia) yn ystod y cyfnod clo cyntaf yn ystod COVID-19:
Mae gwybodaeth fel hon yn ein helpu i ddeall sut i greu a gwella gwasanaethau i bobl gyda Dementia.
Nod y dudalen hon yw rhoi’r wybodaeth ddiweddaraf i chi am ein cynnydd a ffyrdd o gymryd rhan.