Mae’r Bwrdd Partneriaeth yn dwyn ynghyd bartneriaid iechyd, gofal cymdeithasol, y trydydd sector, addysg, tai a’r sector preifat i fynd i’r afael ag anghydraddoldebau iechyd ac i wella gwasanaethau iechyd, gofal cymdeithasol a lles.

Datblygwyd y wefan gyda thrigolion a sefydliadau lleol, a’i nod yw darparu platfform i bobl ledled Pen-y-bont ar Ogwr, Merthyr Tudful a Rhondda Cynon Taf i gael y wybodaeth ddiweddaraf am y Bwrdd a sut i gymryd rhan yn ei waith ysbrydoledig.

Ymhlith y meysydd blaenoriaeth ar gyfer y Bwrdd y mae pobl ag anableddau dysgu; pobl ag anableddau corfforol a nam ar y synhwyrau; gofalwyr di-dâl; pobl â phroblemau iechyd meddwl; pobl awtistig; pobl ifanc a phlant a phobl hŷn.

Mae partneriaid ar y Bwrdd yn gweithio gyda’i gilydd i ystyried sut y gellir gwella gwasanaethau a chefnogaeth ar gyfer y grwpiau hyn, fel bod eu canlyniadau lles ac iechyd yn gwella.

Er mwyn cefnogi hyn, mae’r Bwrdd yn cynnal Asesiad o Anghenion y Boblogaeth yn y rhanbarth bob pum mlynedd, sy’n canfod pa wasanaethau sydd eu hangen i ddiwallu’r anghenion hynny.

Er mwyn sicrhau bod y gwaith hwn wir yn gwrando ar leisiau pobl leol, bydd yr asesiad yn cael ei ddatblygu mewn partneriaeth â grwpiau cymunedol, sefydliadau a thrigolion ledled Pen-y-bont ar Ogwr, Merthyr Tudful a Rhondda Cynon Taf.

Bydd y wefan yn chwarae rhan bwysig wrth roi’r wybodaeth ddiweddaraf i bobl ar hynt y gwaith hwn, ac am sut y gallan nhw gymryd rhan.

Nod y wefan hefyd yw dathlu’r gwaith gwych sy’n digwydd ledled y rhanbarth..

Mae’r Bwrdd yn gweinyddu ac yn rheoli rhaglenni cyllido, gan gynnwys £12m o’r Gronfa Gofal Integredig a £7m o gyllid y Rhaglen Drawsnewid.

Mae’r Rhaglen Drawsnewid yn cynnwys saith prosiect iechyd a gofal cymdeithasol ledled y rhanbarth, ac mae’n cyflogi 260 o bobl ledled Pen-y-bont ar Ogwr, Rhondda Cynon Taf a Merthyr Tudful.

Mae’r Gronfa Gofal Integredig yn cefnogi 68 o brosiectau, yn amrywio o ganolfannau cymunedol i raglen Chwarae â Chymorth ar gyfer plant sy’n agored i niwed.

Trwy gydol pandemig COVID-19, mae’r Bwrdd Partneriaeth Rhanbarthol hefyd wedi bod yn cefnogi strategaeth ‘Profi, Olrhain a Diogelu’ Llywodraeth Cymru, ac mae wedi dod â phartneriaid yn y GIG, awdurdodau lleol a’r trydydd sector ynghyd i ddod o hyd i ffyrdd o ddarparu cefnogaeth i gymunedau.

Yn sail i’r holl waith hwn mae’r Ganolfan Cydlynu Ymchwil, Arloesi a Gwella, sy’n canfod ac yn cydlynu gwasanaethau a phrosiectau arloesol, i wella gwasanaethau, osgoi dyblygu a hwyluso’r gwaith o rannu arfer da.

Mae’r wefan newydd yn cael ei lansio wrth i’r Cynghorydd Chris Davies ymuno fel Cadeirydd ac wrth i Luke Takeuchi ymuno fel Is-gadeirydd.

 

Dywedodd y Cynghorydd Chris Davies, sydd hefyd yn Ddirprwy Arweinydd gyda'r Portffolio ar gyfer Gwasanaethau Cymdeithasol yng Nghyngor Bwrdeistref Sirol Merthyr Tudful:

“Rydw i wrth fy modd i ymuno â Bwrdd Partneriaeth Rhanbarthol CTM fel ei gadeirydd. Trwy weithio gyda’n gilydd fel partneriaid, sefydliadau a thrigolion, gallwn sicrhau’r canlyniadau iechyd a lles gorau i’n cymunedau ledled Pen-y-bont ar Ogwr, Merthyr Tudful a Rhondda Cynon Taf.

“Rydym yn ffodus bod cynifer o bartneriaid angerddol yn eistedd o amgylch y Bwrdd, sy’n gweithio’n ddiflino i gefnogi eu cymunedau lleol.

“Fodd bynnag, rydyn ni’n gwybod bod yna lawer o bobl nad ydyn nhw eto wedi ymwneud â’n gwaith, a allai fod eisiau rhannu eu meddyliau a’u profiadau gyda ni. Gobeithiwn y bydd y wefan hon yn ein helpu i estyn llaw i’n cymunedau fel y gallwn sicrhau bod cynifer o bobl â phosibl yn cael eu clywed.

“Un man yn unig yw’r wefan. Fe wyddom ni o siarad â’n cymunedau a’n partneriaid fod llawer o bobl yn hoffi cymryd rhan mewn ffyrdd eraill, fel mewn digwyddiadau er enghraifft. Byddwn yn sicrhau bod llawer o gyfleoedd i bobl gymryd rhan, felly fydd neb yn cael ei adael ar ôl.”

Ychwanegodd Luke Takeuchi, sydd hefyd yn Brif Weithredwr Cymdeithas Tai RHA yn Rhondda Cynon Taf:

“Rydw i mor falch o fod yn Is-gadeirydd Bwrdd Partneriaeth Rhanbarthol Cwm Taf Morgannwg, ac i lansio ein gwefan newydd heddiw.

“Mae gwrando ar gymunedau yn ein gwaith a’u cynnwys yn y gwaith hwnnw mor bwysig, ac mae’n gyfrifoldeb ar bob un ohonom fel aelodau o’r gymuned edrych ar sut gallwn ni wneud y rhanbarth yn lle gwych i fyw a gweithio.

“Rydyn ni’n gwybod y gall cartref unigolyn gael dylanwad enfawr ar ei iechyd meddwl a’i les, felly bydd gweithio gyda’n gilydd yn ein helpu i bontio’r bwlch rhwng iechyd, tai a gofal cymdeithasol, a sicrhau ein bod ni’n gwneud gwahaniaeth gwirioneddol i fywydau pobl.

“Mae cymdeithasau tai yng Nghymru yn cynnig nifer o wasanaethau gan gynnwys cartrefi arbenigol fel y gall pobl fyw’n annibynnol, a phrosiectau sy’n helpu pobl i aros yn egnïol yn eu cymunedau.

“Rydym yn edrych ymlaen at ystyried sut gallwn ni greu mwy o gyfleoedd i bobl fyw’n hapus ac yn annibynnol gyhyd ag y bo modd.

I gael y wybodaeth ddiweddaraf am waith Bwrdd Partneriaeth Rhanbarthol CTM, cliciwch yma.

Rydym yn falch o fod yn aelodau o
Rwydwaith Cydgynhyrchu Cymru.

Rydym yn falch o fod yn aelodau o
Rwydwaith Cydgynhyrchu Cymru.