Pwy sy'n gweithio i'r tîm?

Pwy sy’n gweithio i’r tîm?

Mae’r Tîm Iechyd a Lles Cymunedol yn dîm cymunedol sy’n cynnwys:

  • Nyrsys ardal
  • Nyrsys arbenigol cynllunio gofal ymlaen llaw
  • Gweithwyr iechyd meddwl
  • Therapyddion galwedigaethol
  • Ffisiotherapyddion
  • Meddygon teulu
  • Fferyllwyr
  • Gweithwyr cymdeithasol
  • Gofal a Thrwsio
  • Cydlynwyr lles sy’n gweithio yn Interlink

 

Mae’r tîm yn gweithio ar draws Merthyr Tudful a RhCT yn y clystyrau canlynol:

  • Rhondda
  • Cwm Cynon
  • Merthyr Tudful
  • Taf-Elái

Sut mae'r gwasanaeth yn gweithio?

Atgyfeirio
Bydd cleifion yn cael eu hatgyfeirio at y gwasanaeth gan eu meddyg teulu neu gan weithiwr proffesiynol hyfforddedig arall, a bydd y rhain yn rhoi gwybod i’r Tîm Iechyd a Lles Cymunedol ar ran y cleifion. Weithiau bydd aelodau o’r Tîm Iechyd a Lles Cymunedol hefyd yn atgyfeirio cleifion sydd dan eu gofal os ydyn nhw’n credu y gallai’r cleifion elwa ar y gwasanaeth.

Cyswllt cyntaf
Yna, bydd aelod o’r Tîm Iechyd a Lles Cymunedol yn ffonio’r cleifion i drefnu apwyntiad neu i gael dim byd mwy na sgwrs i drafod eu hanghenion iechyd a gofal cymdeithasol. Efallai y bydd rhaid aros am ychydig, ond bydd y cleifion yn cael gwybod hyn pan fyddan nhw wedi cael eu hatgyfeirio.

Os byddwn ni’n nodi angen iechyd sydd ddim yn rhan o gylch gorchwyl ein tîm, fel cymorth iaith a lleferydd, byddwn ni hefyd yn atgyfeirio at yr unigolyn iawn.

Cynllun gofal
Bydd y tîm yn gweithio gyda’r cleifion i ddatblygu cynllun gofal personol iddyn nhw ddiwallu eu hanghenion orau.

Holiaduron
Tra byddan nhw’n cael gofal, mae’n bosib y bydd gofyn i’r cleifion ateb rhai cwestiynau syml am eu hiechyd a’u lles, neu hyd yn oed am eu profiad o ddefnyddio’r gwasanaethau. Mae hyn yn bwysig iawn gan ei fod yn helpu’r tîm i fesur pa mor effeithiol yw ei wasanaeth o ran helpu cleifion i gyflawni eu nodau a bydd yn helpu’r tîm i wella ei wasanaethau yn y dyfodol.

Mrs Jones, Merthyr Tudful:

"Mae'r tîm yn hyfryd ac maen nhw wedi sicrhau canlyniadau gwych i mi. Rwy'n dal i fod mewn poen ond mae'r ffrâm Zimmer a'r cadi yn fy helpu i symud o gwmpas yn fy nghartref gyda'r eitemau sydd eu hangen arna i. Diolch yn fawr am eich mewnbwn."

Mr Davies, Taf-Elái:

"Rydw i wedi cael yr help a’r cyngor gorau posib ac rydw i’n gwerthfawrogi’r holl gymorth yn fawr. Roedd perthynas anhygoel gyda ni â’r Therapydd Galwedigaethol."

Dr Lucy Downing, Meddyg Teulu Arweiniol, Rhondda a Thaf-Elái:

"Mae bywydau cleifion wedi cael eu trawsnewid trwy adennill eu hannibyniaeth ar ôl cael cymorth gan y tîm.

Maen nhw’n cael cymorth i wella eu gallu i symud, offer i’w gwneud hi’n haws byw gartref, cymorth i reoli eu moddion, cyngor ynglŷn â pha gymorth ariannol allai fod ar gael a llawer mwy."

Rhannwch eich profiadau o'r Tîm Iechyd a Lles Cymunedol gyda ni

Rydyn ni’n ymdrechu i wella ansawdd trwy wrando, dysgu a gwella yn barhaus gan ddefnyddio adborth cleifion. Felly, hoffem ni glywed gennych am eich profiadau. Dywedwch wrthym ni sut mae’r Tîm Iechyd a Lles Cymunedol wedi eich helpu chi neu rywun rydych chi’n ei adnabod. Hefyd, os oes unrhyw bryderon gyda chi, mae’n bwysig i chi ddweud wrthym ni cyn gynted â phosib er mwyn i ni allu ymchwilio i hyn a gwella ein gwasanaethau yn y dyfodol.

Email Us

Rydym yn falch o fod yn aelodau o
Rwydwaith Cydgynhyrchu Cymru.

Rydym yn falch o fod yn aelodau o
Rwydwaith Cydgynhyrchu Cymru.