Mae angen i ni sicrhau bod plant, pobl ifanc a theuluoedd ym Mhen-y-bont ar Ogwr, Merthyr Tudful a Rhondda Cynon Taf yn byw bywydau diogel, iach a chyflawn, a'u bod yn gallu cyflawni eu potensial llawn. Er mwyn gwneud hyn, mae angen i ni sicrhau bod eu lleisiau'n cael eu clywed, bod rhywun yn gwrando arnynt, yn gweithredu arnynt ac yn ymateb iddynt p'un a wneir newidiadau ai peidio.
Mae angen i ni weithio gyda'n gilydd i adeiladu cymunedau cryf a gwydn fel y gall Cwm Taf Morgannwg fod yn lle gwych i dyfu i fyny, mae plant, pobl ifanc a theuluoedd yn wynebu heriau.
Efallai y byddwch chi’n clywed pobl yn cyfeirio at ‘blant neu bobl ifanc ag anghenion cymhleth’. Diffiniad Deddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014 o’r grŵp hwn yw plant a phobl ifanc rhwng a 25 oed ac sydd â hawl i dderbyn gwasanaethau o hyd.
Mae hyn yn cynnwys:
Er mwyn deall yn iawn beth sydd ei angen ar blant, pobl ifanc a’u teuluoedd, rydym ni am sicrhau eu bod yn cymryd rhan lawn yn ein gwaith, ac yn gallu gweithio gyda ni i greu’r gwasanaethau sydd eu hangen arnyn nhw.
Er enghraifft, roedd prosiect ‘Codi ein llais’, a ddylanwadodd ar yr Asesiad o Anghenion y Boblogaeth, wedi dangos i ni yr hoffai plant a phobl ifanc:
Mae gwybodaeth fel hyn yn ein helpu i ddeall sut i greu dyfodol gwell a mwy disglair i blant, pobl ifanc a’u teuluoedd.
Nod y dudalen hon yw rhoi’r wybodaeth ddiweddaraf i chi am ein cynnydd a ffyrdd o gymryd rhan.