Fel Bwrdd Partneriaeth Rhanbarthol, rydyn ni yn y broses o ddatblygu Asesiad Anghenion y Boblogaeth

Mae’r asesiad hwn yn edrych ar ba adnoddau, cyllid a chefnogaeth sydd ei angen ar gyfer gwasanaethau iechyd, gofal cymdeithasol a llesiant dros y pum mlynedd nesaf.

Mae’n gyfle pwysig i ddeall sut i wella systemau a gwasanaethau, a phrofi syniadau newydd a allai wella bywydau pobl.

Dim ond chwe wythnos sydd i fynd tan y bydd hi’n amser cyhoeddi drafft cyntaf yr asesiad, felly rydyn ni’n galw ar sefydliadau o bob cwr o Gwm Taf Morgannwg i gefnogi ein hymgyrch ‘Wrth Eich Ochr’.

Nod yr ymgyrch yw arddangos straeon pobl o bob cwr o’r rhanbarth, dangos i eraill nad ydyn nhw ar eu pennau’u hunain, ac annog mwy o bobl i ddod ymlaen i rannu’u llais.

Tan ddiwedd mis Tachwedd, byddwn ni’n rhannu straeon gan bobl ar draws y rhanbarth, ac yn gofyn i eraill wneud yr un peth gan ddefnyddio’r hashnodau #byyoursidectm  #wrtheichochrctm.

Gwyddom y gallwn roi llais i bobl sydd angen cael eu clywed drwy ddod at ein gilydd a sefyll wrth ochr ein gilydd fel hyn.

Cymryd rhan yn yr ymgyrch:

Cymryd rhan yn yr ymgyrch:

Os hoffech chi gefnogi’r ymgyrch, gofynnwch am becyn cynnwys, neu rhannwch eich stori yma.

Gofyn am becyn.

Darllen straeon pobl

Holl bwrpas yr ymgyrch hwn yw rhannu lleisiau pobl. Darllenwch straeon o’n cymuned yma.

Darllen straeon

Gwrando ar ein podlediad

Rydyn ni wedi lansio podlediad o’r enw CTM Community Voices i roi llwyfan i bobl allu rhannu straeon, syniadau a theimladau.

Gwrando ar ein podlediadau

Mynychu digwyddiad

Rydyn ni’n cynnal sawl digwyddiad dros y misoedd nesaf. Mae croeso i chi fynychu a bydden ni wrth ein bodd i gwrdd â chi.

Cofrestrwch yma

Ymuno â’n grŵp ymgysylltu wythnosol

Mae ein grŵp yn tyfu bob wythnos, ac mae’n llawn o bobl danbaid o bob cwr o’r rhanbarth. Ymunwch drwy ymuno!

Gwneud cais i ymuno

Ein gwahodd ni i ddigwyddiad

Byddwn ni allan o gwmpas y lle dros y misoedd nesaf, yn siarad â phobl. Os hoffech ein gwahodd ni i ddigwyddiad, anfonwch neges e-bost atom os gwelwch yn dda.

Ein gwahodd i ddigwyddiad

Darllen rhai cynghorion ymgysylltu

Rydyn ni wedi llunio rhestr o gynghorion sy’n deillio o ymchwil a wnaed gan ein partneriaid

Cynghorion ymgysylltu

Gofyn am becyn offer

Mae ein pecyn cymorth ymgysylltu yn ganllaw yn unig os hoffech gael rhywfaint o ysbrydoliaeth ynghylch gweithgareddau. Efallai y bydd gennych eich syniadau eich hun, felly anfonwch unrhyw beth sydd gennych atom!

Gofyn am becyn offer

Rydym yn falch o fod yn aelodau o
Rwydwaith Cydgynhyrchu Cymru.

Rydym yn falch o fod yn aelodau o
Rwydwaith Cydgynhyrchu Cymru.