Beth yw'r rhaglen 'datblygu cymunedau cydnerth a chysylltiedig'?

Mae cydweithredu a chydweithio mewn ffordd gydlynol yn golygu bod pobl leol yn gallu cael y gofal a’r cymorth gorau posib wrth barhau i fod yn annibynnol ac yn ddiogel yn eu cartrefi a’u cymunedau eu hunain.

Mae nifer o rolau allweddol i’r rhaglen:

  • Helpu gwirfoddolwyr sydd am wneud gwahaniaeth yn eu cymuned
  • Helpu grwpiau a sefydliadau cymunedol i fod yn gydnerth
  • Helpu pobl i barhau i fod yn annibynnol, gwella eu hyder a lleihau arwahanu trwy eu cysylltu nhw â’u cymunedau
  • Dod â chymunedau a rhwydweithiau ynghyd i fynd i’r afael ag anghenion lleol o ran iechyd a gofal cymdeithasol
  • Hybu syniadau newydd allai wella lles

Trwy’r rhaglen, mae modd cysylltu preswylwyr â chymorth a chyngor ynghylch amrywiaeth o bethau fel:

  • Profedigaeth
  • Cyngor ariannol
  • Dementia
  • Diogelwch bwyd
  • Cyfeillio
  • Lles meddyliol
  • Cymorth i ofalwyr

Sut mae'r rhaglen yn gweithio?

Mae BAVO a Chyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr yn gweithio gyda nifer fawr o sefydliadau ledled Sir Pen-y-bont ar Ogwr i sicrhau bod oedolion sy’n byw yn yr ardal yn cael cymorth i fod mor gydnerth â phosib.

Mae cymaint o sefydliadau’n gweithio gyda’i gilydd, felly mae’n bwysig bod y gwaith yn cael ei gydlynu’n dda.

Gan weithio mewn partneriaeth, mae BAVO a Chyngor Pen-y-bont ar Ogwr yn cyflogi nifer o bobl ac mae gan bob un ohonyn nhw rôl arbennig o ran helpu preswylwyr i gael y cymorth a’r cyngor iawn:

Cydlynydd

Mae Cydlynydd arbennig yn rhan o BAVO yn rhoi cymorth i’r staff ac yn meithrin partneriaethau i gysylltu pobl â’r nifer fawr o sefydliadau a phartneriaid er mwyn gwneud y defnydd gorau o’r holl wasanaethau a chymorth sydd eu hangen

Y Pwynt Mynediad Cyffredinol a Gweithiwr Cyswllt

Mae tîm y Pwynt Mynediad Cyffredinol yn rhan o Gyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr.

Maen nhw’n ymdrin ag ymholiadau oddi wrth y cyhoedd a gweithwyr proffesiynol trwy linell gymorth arbennig. Yna, maen nhw’n rhoi cyngor iddyn nhw ac yn eu cyfeirio at y cymorth cywir.

Mae Gweithiwr Cyswllt o BAVO hefyd yn gweithio’n agos gyda’r tîm hwn i gysylltu pobl sy’n galw’r llinell gymorth â chynlluniau sy’n cael eu cynnal gan sefydliadau yn y trydydd sector, fel gwasanaeth cyfeillio.

Trwy gydweithio, tîm y Pwynt Mynediad Cyffredinol a’r Gweithiwr Cyswllt yn gallu deall pa gymorth mae modd ei gynnig i unigolyn, sy’n sicrhau ei fod yn cael y gofal, y cymorth a’r cyngor gorau ar gyfer ei sefyllfa bersonol.

Er enghraifft, gallai rhywun fod yn barod i gael ei ryddhau o’r ysbyty, ond mae’n bosib y bydd angen rhywfaint o gyngor a chymorth arno ynghylch pa opsiynau sydd ar gael er mwyn sicrhau bod modd gwneud hyn mor gyflym a diogel â phosib. Yn yr un modd, mae’n bosib bod rhywun heb gysylltiadau rheolaidd yn teimlo’n unig, felly bydd modd cysylltu’r unigolyn hwn ag amrywiaeth o gyfleoedd cymdeithasol.

Llywyddion Cymunedol

Diben y rhaglen ‘datblygu cymunedau cydnerth a chysylltiedig’ yw rhoi grym i bobl i fod yn fwy cydnerth yn eu cymuned.

I helpu i gyflawni hyn, mae BAVO yn cyflogi pum Llywydd Cymunedol sy’n gweithio mewn gwahanol ardaloedd yn Sir Pen-y-bont ar Ogwr. Mae’r Llywyddion Cymunedol yn gweithio gyda phobl ac yn eu cysylltu nhw â gwahanol sefydliadau, yn dibynnu ar y cymorth y gallai fod ei angen arnynt.

Er enghraifft, os bydd rhywun yn teimlo’n ynysig ac yn gaeth i’w gartref, gall y Llywydd Cymunedol sôn wrth yr unigolyn am y posibilrwydd o’i gysylltu â gwasanaeth cyfeillio.

Os bydd angen ehangach o ran gofal cymdeithasol neu lefel uwch o angen, gall y Llywyddion Cymunedol gysylltu â’r tîm Pwynt Mynediad Cyffredinol neu’r Cydlynwyr Cymunedol Lleol yng Nghyngor Pen-y-bont ar Ogwr am ragor o gymorth.

“Rydw i’n ymdopi’n llawer gwell - Dydw i ddim yn llefain trwy’r amser...”

Darllenwch sut mae Gail, un o Lywyddion Cymunedol BAVO, a thîm y Pwynt Mynediad Cyffredinol wedi helpu preswylydd yn ystod pandemig COVID-19.

Darllenwch ragor

Rydym yn falch o fod yn aelodau o
Rwydwaith Cydgynhyrchu Cymru.

Rydym yn falch o fod yn aelodau o
Rwydwaith Cydgynhyrchu Cymru.