Term yw “Technoleg Gynorthwyol’ ar gyfer dyfeisiau neu offer sy’n cael eu defnyddio i helpu pobl i fyw’n annibynnol ac yn ddiogel yn eu cartref.
Mae’r rhaglen Technoleg Gynorthwyol yn Rhondda Cynon Taf yn cynnig ymateb cyflymach i bobl sy’n defnyddio larwm llinell fywyd (sef gwasanaeth larwm personol) neu fathau eraill o deleofal.
Mae larymau llinell fywyd wedi eu cysylltu â chanolfan fonitro 24 awr y dydd. Byddan nhw’n ymateb pan fydd larwm yn canu ac yn penderfynu ar yr ymateb mwyaf priodol i’r sefyllfa.
Mae’r elfen hon o’r rhaglen, sy’n cael ei chyllido gan y Gronfa Trawsnewid, yn cynnwys Gwasanaeth Ymateb Symudol, ac mae staff gofal cartref cofrestredig yn rhan o hwn.
Mae’r Gwasanaeth Ymateb Symudol ar gael 24 awr y dydd, 365 diwrnod y flwyddyn. Mae hyn yn golygu os bydd rhywun yn cwympo ac yn gwasgu’r botwm ar ei larwm personol, bydd aelodau o’r tîm yn gallu mynd ato cyn gynted â phosib (gan amlaf o fewn un awr).
Mae’r staff yn y gwasanaeth yn hynod o brofiadol ac maen nhw’n cael hyfforddiant rheolaidd gan sefydliadau fel Gwasanaeth Ambiwlans Cymru a gwasanaethau gofal cymdeithasol i wneud yn siŵr eu bod nhw’n gallu ymateb yn briodol.
Mae Gwasanaeth yr Ymatebwyr Symudol yn gallu rhoi cymorth i unigolyn gydag anghenion anfeddygol yn llwyddiannus. Mae hyn yn golygu does dim rhaid iddo fod i’r ysbyty’n ddiangen ac os bydd angen rhagor o gymorth arno i aros gartref, bydd y gwasanaeth yn gallu trefnu cymorth trwy’r cynllun Cadw’n Iach Gartref 2.
Nid diwedd y cymorth yw hyn.
Yn rhan o waith y Gronfa Trawsnewid, mae’r rhaglen Technoleg Gynorthwyol yn cynnwys asesiadau lles a galw rhyngweithiol hefyd. Prosiect peilot yw’r gwaith hwn i bobl sydd wedi cael gwasanaeth ataliol fel gwasanaeth ailalluogi.
Yn rhan o hyn, mae trinwyr galwadau profiadol yn mynd ati’n rhagweithiol i ffonio unigolion sydd wedi cael cymorth gan wasanaethau fel gwasanaethau ailalluogi ac sydd wedi bod yn annibynnol rhag gofal hirdymor.
Trwy ffonio’n rheolaidd, mae’r trinwyr galwadau yn gallu helpu pobl i fyw’n annibynnol yn eu cartref a rhoi sicrwydd iddyn nhw fod modd trefnu gwasanaethau i ddarparu’r cymorth iawn yn gyflym os bydd pethau’n newid.
Ers i’r gwasanaeth ddechrau:
Rydym yn falch o fod yn aelodau o
Rwydwaith Cydgynhyrchu Cymru.
Rydym yn falch o fod yn aelodau o
Rwydwaith Cydgynhyrchu Cymru.