I nodi dechrau Wythnos Iechyd Meddwl Plant, bydd her ‘Step Up’ yn gweld arddegwyr yn gwneud 12.5k o gamau, sy’n gyfwerth â 10km, yn gyfnewid am bwyntiau i’w gwario ar weithgareddau llesiant neu fwyd iach.

Mae arddegwyr o bob cwr o Dde Cymru wedi dechrau ar her ffitrwydd wythnos o hyd i hybu’u llesiant a’u hiechyd meddwl yn ystod pandemig COVID-19.

I nodi dechrau Wythnos Iechyd Meddwl Plant, bydd her ‘Step Up’ yn gweld arddegwyr yn gwneud 12.5k o gamau, sy’n gyfwerth â 10km, yn gyfnewid am bwyntiau i’w gwario ar weithgareddau llesiant neu fwyd iach.

Bydd pawb sy’n cwblhau’r her yn ennill 10 pwynt, y gellir eu cyfnewid am eitemau fel dau bryd o fwyd iach yn ffreutur yr ysgol neu bas ar gyfer y gampfa.

Dengys data diweddar gan Brifysgol Caerdydd fod un o bob pump (19%) o bobl ifanc yng Nghymru wedi dioddef problemau iechyd meddwl cyn y pandemig, wrth i astudiaeth arall ddangos mai’r grŵp hwn ddioddefodd y dirywiad mwyaf mewn llesiant meddwl o ganlyniad i COVID-19.

Drwy gynyddu’u camau dyddiol, mae arddegwyr yn debygol o weld gwelliant yn eu hiechyd meddwl, gan gynnwys lleihad mewn tensiwn, pwysau a blinder yn ogystal â gwell hwyl, hunan-barch a ffocws.

Mae her Step Up yn bartneriaeth rhwng Cymdeithas Dai Newydd a Hybiau Cydlynu Ymchwil, Gwella ac Arloesi (RIIC) Cwm Taf Morgannwg a Chaerdydd a’r Fro.

Bydd pob sefydliad yn gweithio gyda chymunedau ledled De Cymru i edrych ar ffyrdd o wella iechyd a llesiant mewn cymunedau.

Mae prosiect HAPI Cymdeithas Dai Newydd yn darparu gweithgareddau rhad ac am ddim gan gynnwys Get Fit Cymru sy’n cydweithio gydag ysgolion ar draws De Cymru i wella gwybodaeth teuluoedd am ffitrwydd a bwyta’n iach.

Un person ifanc sydd wedi elwa o gymryd rhan mewn her Get Fit Cymru yw Samy Jo, 19, o Rondda Cynon Taf.

Ar ôl profi trawma personol a’i chael hi’n anodd dygymod yn ddyddiol, roedd Samy Jo’n treulio llawer o amser yn ei hystafell wely’n gwylio’r teledu. Roedd y bywyd hwn yn effeithio ar ei ffitrwydd personol a’i gwaith ysgol, gan effeithio’n negyddol ar ei bywyd.

Fe wnaeth ysgol Samy Jo, Ysgol Uwchradd Hawthorn ym Mhontypridd, gofrestru ar gyfer Get Fit Cymru, a derbyniodd hi anogaeth gan athrawon i wirfoddoli gyda’r cynllun.

 

Drwy gyfrwng mynd i gerdded yn ddyddiol, buan roedd Samy Jo wedi codi’i nifer camau, a chasglodd ddigon o bwyntiau i brynu bagiau o ffrwythau a llysiau drwy wefan Get Fit Cymru.

Gyda llawer o fwyd ffres ar gael, roedd Samy Jo’n gallu coginio prydau bwyd iach ar gyfer ei theulu, gan hybu’u llesiant nhw hefyd.

Hyd yn hyn, mae Samy Jo wedi cerdded dros 931,058 cam ac mae hi bellach yn llawer gwell yn gorfforol a meddyliol. Ar ôl cael ei ysbrydoli gan fanteision bywyd iachach, mae’r person ifanc yn ei arddegau bellach yn bwriadu mynd i weithio’n llawn amser fel gweithiwr gofal.

Yn Hwb RIIC CTM rydyn ni wedi ymrwymo i gefnogi a thynnu sylw at enghreifftiau gwych o weithio mewn partneriaeth yn Rhondda Cynon Taf, Merthyr Tudful a Phen-y-bont Ar Ogwr. Mae wedi bod yn wych gallu cydweithio gydag ystod o bobl, gan gynnwys Cymdeithas Dai Newydd ac ysgolion lleol, sy’n frwd dros wneud bywyd yn well i bobl ifanc ledled de Cymru.

"Gobeithio y bydd pobl yn cael hwyl yn ystod yr wythnos, ac rydyn ni wir yn edrych ymlaen at glywed am brofiadau pobl.”

Yn ôl Lisa Voyle, Uwch Swyddog Prosiect gyda Phrosiect HAPI, dan arweiniad Cymdeithas Dai Newydd:

“Dyw hi ddim yn gyfrinach fod gwneud newidiadau cadarnhaol i’ch ffordd o fyw yn gallu cael effaith gwirioneddol dda ar iechyd meddwl pobl. Gwyddom fod pobl ifanc wedi cael eu heffeithio’n arbennig gan y pandemig, ac roedden ni eisiau dod o hyd i ffordd o godi’u hysbryd, ac ar yr un pryd eu gweld yn elwa o ran ffitrwydd meddyliol a chorfforol.

“Mae’n wych cael sawl ysgol yn cymryd rhan yn her Step Up, ond hoffem annog unrhyw un sydd â diddordeb mewn ymuno i gymryd rhan drwy gyfrwng gwefan Get Fit Cymru

“Mae’n rhad ac am ddim i ymuno, ac ar ôl i bobl gofrestru, gallan nhw ddechrau tracio’u camau ac ennill pwyntiau i’w gwario ar ystod o bethau, o ddosbarthiadau yn y gampfa i brynu bwyd ffres i’w fwynhau gartref, Allwn ni ddim aros i glywed oddi wrth bobl drwy’r wythnos!”

Dywedodd Elaine Lewis, Arweinydd Hwb RIIC a Rheolwr Gwella’r Gwasanaeth yn Hwb Ymchwil, Gwella ac Arloesi Cwm Taf Morgannwg:

“Rydyn ni’n llawn cyffro yng Nghaerdydd a’r Fro i fod yn rhan o’r prosiect gwych hwn sy’n dwyn ynghyd bob partner i gyflawni nodau cymuned iachach.

“Does s dim byd gwell na chael dos o’r awyr agored i hybu iechyd meddwl. Gall diffyg iechyd meddwl arwain sawl un i deimlo’n ynysig a di-sbardun – ac mae’r pandemig presennol wedi gwneud hyn oll yn waeth. Mae wedi bod yn adeg anodd i lawer, ond wrth sylweddoli’r cyswllt rhwng iechyd corfforol a meddyliol, mae Her ‘Step Up’ yn dangos ein bod ni yn hyn gyda’n gilydd ac y gallwn helpu’n gilydd i dynnu ein gilydd drwyddi.

“Gyda gwobrwyon mor rhagorol o fwyd iach a gweithgareddau RHAD AC AM DDIM rydyn ni’n edrych ymlaen at weld canlyniadau a llwyddiannau pawb a chynllunio’r her nesaf!”

Rydym yn falch o fod yn aelodau o
Rwydwaith Cydgynhyrchu Cymru.

Rydym yn falch o fod yn aelodau o
Rwydwaith Cydgynhyrchu Cymru.