Bydd y dudalen hon yn cynnwys diweddariadau allweddol, gan gynnwys dolenni i’n crynodebau misol, er mwyn i chi weld pa waith rydyn ni’n ei wneud fel Grŵp Gweithredu Cymunedol.

Pam ydyn ni’n eich diweddaru?

Bydd ein Hasesiad Llesiant ac Angen Lleol yn chwarae rhan bwysig iawn wrth adnabod pa wasanaethau a chefnogaeth iechyd, gofal cymdeithasol a llesiant fydd eu hangen dros y pum mlynedd nesaf (2022-2028).

Rydyn ni eisiau sicrhau fod pobl sy’n gweithio ac yn byw yn ein cymunedau’n deall sut rydyn ni’n datblygu’r asesiad hwn a beth allwch chi ei wneud i gymryd rhan.

Parhau i’ch diweddaru

Isod, byddwn ni’n ychwanegu diweddariadau misol ynglŷn â’n gweithgaredd hyd yn hyn. Gallwch glicio ar bob mis i weld pa waith sydd wedi digwydd yn ystod y cyfnod hwnnw.

July

Ym mis Gorffennaf fe sefydlon ni ein Grŵp Gweithredu Cymunedol a fydd yn chwarae rhan bwysig mewn sicrhau ein bod ni’n casglu cymaint fyth o wybodaeth â phosib, a gwrando ar bobl sydd eisiau i’w llais gael ei glywed, a’u cynnwys

Darllen mwy

Awst

Ym mis Awst, fe gynhalion ni ein cyfarfod cyntaf o’r Grŵp Gweithredu Cymunedol, dod â’n grwpiau ymgysylltu a data ynghyd i’n helpu i ddeall beth sy’n cyfri i bobl, a hefyd sefydlu ein podlediad newydd!

Darllen mwy

Medi

Dyma grynodeb o’r gweithgareddau a ddigwyddodd ym mis Medi gyda Hwb RIIC CTM a phrosiect Codi Ein Llais.

Darllen Mwy

Hydref

Dyma grynodeb o’r gweithgareddau a ddigwyddodd ym mis Hydref gyda Hwb RIIC CTM a phrosiect Codi Ein Llais.

Darllen mwy

Tachwedd

Dyma grynodeb o’r gweithgareddau a ddigwyddodd ym mis Tachwedd gyda Hwb RIIC CTM a phrosiect Codi Ein Llais.

Darllen mwy

Rydym yn falch o fod yn aelodau o
Rwydwaith Cydgynhyrchu Cymru.

Rydym yn falch o fod yn aelodau o
Rwydwaith Cydgynhyrchu Cymru.