Digwyddiad Llais, Dewis, Rheolaeth

Y mis hwn, daeth pobl o bob cwr o’r rhanbarth ynghyd i dynnu sylw at bwysigrwydd pobl ag anableddau dysgu’n cael llaid, dewis a rheolaeth dros benderfyniadau sy’n effeithio ar eu bywydau. 

Cafodd sgetsys drama, caneuon a straeon eu hysbrydoli gan brofiadau bywyd go iawn pobl, a daethant â phwysigrwydd annibyniaeth, rheolaeth a hawliau i bobl ag anableddau dysgu yn fyw o’n blaenau.  

Ymysg blaenoriaethau a nodwyd ar gyfer
pobl ag anableddau dysgu mae: 
 

  1. Cefnogaeth gan deulu, cyfeillgarwch a chyfoedion 
  2. Integreiddio cymunedol a llecynnau diogel 
  3. Cyfleoedd yn ystod y dydd 
  4. Trafnidiaeth 
  5. Byw’n Annibynnol a Gyda Chefnogaeth 
  6. Eiriolaeth, Hawliau a Chydraddoldeb 
  7. Cyfathrebu a Rhannu Gwybodaeth 
  8. Gofal Iechyd 
  9. Gofal Seibiant 
  10. Newidiadau Mawr Bywyd 

 

Bydd gwybodaeth fanylach o dan y themâu hyn yn cael eu rhoi yn ein Hasesiad Anghenion y Boblogaeth, ac fe’i rhennir yn fuan.  

 

 

 

Pom poms a llawer o hwyl!

Roedd hi’n wych gweld Pobl yn Gyntaf Pen-y bont ar Ogwr yn defnyddio ein pecyn offer ymgysylltu i gynnal eu gweithgaredd ymgysylltu eu hunain g ydag aelodau. Roedd hi’n bwysig i gael diwrnod oedd yn hwyl ac yn hygyrch, ac ar yr un pryd fynd i wraidd y materion sy’n wynebu pobl ag anableddau dysgu. 

Yn ystod y dydd, canolbwyntiodd y grŵp ar themâu gan gynnwys:
cyfleoedd yn ystod y dydd;  ntegreiddio cymunedol a llecynnau diogel; byw’n annibynnol a gyda chefnogaeth; eiriol, hawliau a chydraddoldeb; cyfeillgarwch; trafnidiaeth; cyfathrebu a rhannu gwybodaeth; seibiant; symud yn effeithiol o blentyndod i fod yn oedolyn; gofal iechyd a thechnoleg i gynorthwyo. 

Gofynnwyd i aelodau wnaeth gymryd rhan bleidleisio ar y peth oedd fwyaf pwysig iddyn nhw –gan ddefnyddio pom poms! 

Fe wnaeth hyn helpu Pobl yn Gyntaf Pen-y bont ar Ogwr i weld beth oedd yn golygu fwyaf i’r grŵp, ac ar yr un pryd alluogi pobl i fwynhau’r sesiwn a chael clust i’w lleisiau o ran beth ddylai fod yn flaenoriaeth ar gyfer y dyfodol yn eu barn nhw. 

Meddai Danielle Wagstaff, Gweithiwr Hyfforddi
a Datblygu gyda Pobl yn Gyntaf 
Pen-y bont ar Ogwr: 

Mae hi wir yn hyfryd gweld pobl yn teimlo eu bod yn cael eu grymuso gyda’u hatebion, felly pan fyddwn ni’n gofyn cwestiwn i bobl rydyn ni wir yn gwrando ar yr ateb. Rydyn ni wedi gwneud tipyn o bleidleisio ac mae pleidleisiau pobl wedi gwneud gwahaniaeth. Pleidleisiodd y grŵp i ddangos mai’r pethau pwysicaf iddyn nhw, mewn gwirionedd, oedd cyfeillgarwch a pherthynas â chyfoedion.” 

 

 

Fe ddigwyddodd y gweithgareddau isod ym mis Hydref hefyd:

Dogfen friffio Grŵp Gweithredu Asesiadau Cymunedol

Lawrlwythwch y ddogfen friffio am ein Grŵp Gweithredu Asesiadau Cymunedol yma.

Lawrlwytho

Rydym yn falch o fod yn aelodau o
Rwydwaith Cydgynhyrchu Cymru.

Rydym yn falch o fod yn aelodau o
Rwydwaith Cydgynhyrchu Cymru.