Sgyrsiau gyda theuluoedd a gofalwyr sy’n cefnogi plant ag awtistiaeth

Mewn partneriaeth ag  ASD Rainbows, fe dreulion ni ddiwrnod gyda rhieni, gofalwyr a phlant wnaeth siarad yn agored am a wtistiaeth. Rhannwyd straeon personol, o brofiad cyntaf ar ôl diagnosis a llywio drwy systemau, i’r symudiad o blentyndod i fod yn oedolyn. 

Gweithiodd grwpiau gyda’i gilydd i awgrymu pa wasanaethau iechyd, gofal cymdeithasol a llesiant ddylai gael
blaenoriaeth ar gyfer plant ag awtistiaeth, yn ogystal ag atebion
i sicrhau y gall plant fyw bywydau hapus, diogel ac iach.
 

Diolch i bawb a gymerodd ran a rhannu’u straeon, ac edrychwn ymlaen at barhau i weithio gyda’r grŵp angerddol hwn.  

 

 

Digwyddiad creadigol iechyd meddwl a llesiant

Bu modd i ystod o weithwyr proffesiynol a phobl â straeon personol unigol ddod ynghyd a chael clust i’w lleisiau drwy gyfrwng barddoniaeth, caneuon, celf a sgetsys drama. Fe wnaeth y geiriau a’r delweddau a grëwyd ddod â’r heriau a wynebir gan bobl sy’n byw gyda phroblemau iechyd meddwl yn fyw, a hefyd roedd yn fodd o awgrymu beth allai gael ei wneud i wella iechyd
a llesiant yn ein cymunedau.
 

Bydd blaenoriaethau a godwyd yn ystod y diwrnod hwn yn cael eu cynnwys yn ein Hasesiad Anghenion y Boblogaeth, a diolchwn i bawb a ddaeth ynghyd i helpu i greu gwell dyfodol i bobl sy’n byw gyda phroblemau iechyd meddwl.  

Cynyddu hygyrchedd i iechyd a gofal cymdeithasol i bobl ag anableddau corfforol a nam ar y synhwyrau

Fe wnaeth dros 55 o bobl gan gynnwys gweithwyr proffesiynol a phobl gyda nam corfforol a nam ar y synhwyrau fynychu digwyddiad creadigol i edrych ar gynyddu hygyrchedd mewn
gwasanaethau iechyd, gofal cymdeithasol a llesiant.
 

Un uchafbwynt oedd dwyn ynghyd pobl â phrofiadau byw, yr arloeswr Ashley Bale a Perago Wales, a edrychodd ar wella gwasanaethau digidol. Mewn prin ddwy awr, fe wnaeth y grŵp
gyd-ddylunio prototeip a allai hybu hygyrchedd digidol mewn iechyd a gofal cymdeithasol.
 

Roedd hi’n wych hefyd gweithio gyda phobl o’n cymuned fyddar, a adeiladodd wal o gardfwrdd i ddangos y rhwystrau lu a wynebir gan bobl fyddar. Fel rhan o’u gweithgaredd, bwriodd y grŵp y wal i lawr, ac adeiladu camau, gan awgrymu atebion er mwyn gwella gwasanaethau. 

Drwy glywed ystod o leisiau gwahanol, roedden ni’n gallu adnabod blaenoriaethau clir ar gyfer pobl ag anableddau corfforol a nam ar y synhwyrau, a byddwn ni’n cynnwys y rhain yn ein Hasesiad Anghenion y Boblogaeth. 

Cyfeillio ac ynysrwydd

Fe wnaethon ni dreulio’r dydd gyda phobl oedrannus ym Merthyr Tudful i ddeall beth yw ystyr teimlo’n ynysig, yn enwedig yn ystod y pandemig. Drwy gyfrwng prosiect ffotograffiaeth a gweithgaredd cyfansoddi cân, roedd modd i bobl â phrofiad byw a gweithwyr
proffesiynol rannu’n agored sut deimlad yw bod yn hapus a thrist, a’u straeon nhw eu hunain am ynysrwydd a chyfeillgarwch yn ystod y pandemig.
 

Roedd hi’n amlwg mor bwysig yw cyfeillio i bobl, yn enwedig bobl sy’n byw ar eu pen eu hunain, a byddwn n’n tynnu sylw at hyn fel blaenoriaeth i bobl hŷn yn ein Hasesiad Anghenion y Boblogaeth.

 

Sgyrsiau gyda phobl hŷn ar draws Cwm Taf Morgannwg

Yn ogystal â’n digwyddiad ar gyfeillio ac ynysrwydd, roedd modd i ni hefyd gysylltu ag
Age Connects Morgannwg a Valleys Kids a’n cysylltodd â phobl hŷn sy’n byw ar draws y rhanbarth. 

Tynnwyd sylw at bwysigrwydd cysylltiadau, cyfeillgarwch a gweithgareddau cymdeithasol gan y grwpiau gwahanol y bu i ni siarad â nhw, ynghyd â phryderon dros bobl sy’n byw ar eu pen eu hun. 

Mynegodd y grwpiau bwysigrwydd cefnogaeth iechyd meddwl i deuluoedd, yn enwedig gofalwyr, a chymorth iechyd a gofal cymdeithasol i bobl sy’n gaeth i’r tŷ. 

Byddwn ni’n cynnig llawer o’r sylwadau hyn a rannwyd yn ein Hasesiad Anghenion y Boblogaeth, ac rydyn ni’n ddiolchgar i’r bobl a roddodd o’u hamser i siarad â ni. 

 

 

Gwasanaethau seibiant i ofalwyr

Mewn partneriaeth â Chyngor Bwrdeistref Rhondda Cynon Taf, fe wnaethon ni dreulio’r dydd gyda gofalwyr di-dâl i drafod gwasanaethau seibiant. 

Drwy gyfrwng cyfansoddi caneuon a thrafod, gallodd y grŵp rannu’n well eu profiadau personol yn agored. Roedd hi’n amlwg fod y rhai a fynychodd o’r farn fod seibiant
yn hanfodol i’r gofalwyr ac i’r rhai sy’n derbyn gofal, a chafwyd awgrymiadau ynghylch sut y gellid gwella gwasanaethau iechyd, gofal cymdeithasol a llesiant i gefnogi gofalwyr yn well.
 

Yn ogystal â gofal seibiant, ymysg blaenoriaethau a amlygwyd roedd mwy o gydnabyddiaeth a chefnogaeth i ofalwyr; asesiadau a hawliau gofalwyr a chyfathrebu a rhannu gwybodaeth. 

Byddwn ni’n rhannu’r gân rymus a gyfansoddwyd, yn ogystal âchrynodeb ysgrifenedig manylach am y diwrnod hwn yn fuan.  

Diolch i bawb a ddaeth heibio. 

Fe ddigwyddodd y gweithgareddau isod ym mis Tachwedd hefyd:

Dogfen friffio Grŵp Gweithredu Asesiadau Cymunedol

Lawrlwythwch y ddogfen friffio am ein Grŵp Gweithredu Asesiadau Cymunedol yma.

Lawrlwytho

Rydym yn falch o fod yn aelodau o
Rwydwaith Cydgynhyrchu Cymru.

Rydym yn falch o fod yn aelodau o
Rwydwaith Cydgynhyrchu Cymru.