Cynnal ein Grŵp Gweithredu Cymunedol cyntaf

Ym mis Awst, fe wnaethon ni gynnal ein cyfarfod cyntaf o’r Grŵp Gweithredu Cymunedol.

Pwrpas y Grŵp Gweithredu Cymunedol yw cynnig cyngor ac arweiniad ar gyfer y gwaith sy’n digwydd ar yr asesiadau Llesiant ac Anghenion y Boblogaeth.

Mae’r Grŵp Gweithredu Cymunedol yn dod â phobl sy’n gweithio ym meysydd iechyd, awdurdodau lleol, y sector cyhoeddus, addysg, tai a’r tydydd sector at ei gilydd.

Mae gennym gynnrychiolwyr hefyd o blith pobl â phrofiad byw o’r pynciau sy’n cael ein sylw yn ein hasesiadau.

Fe onfynon ni i’r Grŵp Gweithredu Cymunedol pam roedden nhw eisiau cymryd rhan yn y gwaith hwn, a dyma ddywedon nhw:

Gwrando, deall a gweithredu gyda’n gilydd

Defnyddio ein profiadau a’n perthynas ni ein hunain i ddeall beth sydd ei angen ar gymunedau.

Gwella gwasanaethau

Edrych ar sut y gallwn ni wella gwasanaethau er gwell, a chreu dyfodol mwy cynaliadwy.

Gweithio gyda’n gilydd

Gweithio gyda’n gilydd i wneud newidiadau cadarnhaol y gall ein cymunedau elwa ohonynt.

Dysgu gan y profiad

Mae gan bawb ohonom brofiadau a allai fod yn berthnasol i’r prosiect hwn. Mae siarad, gwrando a rhannu syniadau, teimladau a meddyliau oll yn bwysig iawn.

Dod o hyd i ffyrdd gwahanol o wneud pethau

Os oes rhywbeth ddim wedi gweithio, mae angen i ni ddysgu o hynny a dod o hyd i ffordd wahanol o wella pethau i bobl.

Sicrhau fod grwpiau a dangynrychiolir yn cael clust i’w lleisiau

Mae’n bwysig ein bod ni’n cyrraedd cynifer o bobl â phosib, er mwyn i ni allu cynrychioli lleisiau na fydden nhw o reidrwydd yn cael eu clywed fel arfer, a gwneud newidiadau cadarnhaol gyda’n gilydd.

Dod â’n grwpiau Ymgysylltu a Data at ei gilydd

Fe wnaethon ni wahodd pobl o bob cwr o’r rhanbarth i gymryd rhan yn ein grwpiau ymgysylltu a data.

Er mwyn cynllunio’r gwasanaethau a’r gefnogaeth gywir ar gyfer pobl, mae angen i ni wybod beth sydd ei angen ar bobl, a ble mae angen clustnodi cyllid ac adnoddau.

Er mwyn deall hyn, bydd ein grŵp data’n casglu gwybodaeth bwysig am iechyd, gofal cymdeithasol a llesiant. Gallai’r data hwn ddod o astudiaethau a gyhoeddwyd eisoes neu o wybodaeth y mae sefydliadau wrthi’n ei gasglu ar hyn o bryd ar draws y rhanbarth.

Dim ond un ochr o’r stori fydd data’n ei adrodd.

Dyna pam ei bod hi’n bwysig ein bod ni’n dod o hyd i ffyrdd o gael sgyrsiau agored a gonest â phobl sy’n byw yn ein cymunedau, i glywed eu profiadau a deall beth sy’n bwysig iddyn  nhw.

Bydd pobl yn hoffi rhannu’u profiadau mewn ffyrdd gwahanol, a hoffent gael eu cefnogi i wneud hyn.

Dyletswydd y grŵp ymgysylltu fydd meddwl am ffyrdd gwahanol o rymuso pobl i rannu’u profiadau mewn dull sy’n gyffyrddus iddyn nhw.

Yn y pen draw, bydd gwybodaeth o’r grwpiau ymgysylltu a data’n cael eu dwyn ynghyd a’u gwerthuso.

Bydd hyn yn rhoi dealltwriaeth lawer gwell i ni o sut y gallwn ni gefnogi pobl, a ble bydd angen gwella a chreu gwasanaethau.

Digwyddodd y gweithagreddau canlynol ym mis Awst hefyd:

Dogfen friffio Grŵp Gweithredu Asesiadau Cymunedol Lawrlwythwch y ddogfen friffio am ein Grŵp Gweithredu Asesiadau Cymunedol yma.

Download the briefing document about our Community Assessments Action Group here.

Lawrlwytho

Rydym yn falch o fod yn aelodau o
Rwydwaith Cydgynhyrchu Cymru.

Rydym yn falch o fod yn aelodau o
Rwydwaith Cydgynhyrchu Cymru.