Mae'n bwysig bod pobl sy'n byw yn Rhondda Cynon Taf, Merthyr Tudful a Phen-y-bont ar Ogwr yn gallu defnyddio gwasanaethau a chael y cymorth angenrheidiol.

Trawsnewid gwasanaethau i helpu pobl i fyw’n hapusach ac iachach

Mae pobl yn haeddu byw bywydau hir a hapus. I wneud yn siŵr bod hyn yn digwydd, mae angen i ni ddod o hyd i ffyrdd o sicrhau gwell canlyniadau iechyd i bobl o bob oed a chefndir.

Trwy dreialu gwasanaethau newydd a gweithio’n agos gyda dinasyddion a staff iechyd a gofal cymdeithasol, gallwn ni ddechrau gweld pa welliannau fydd yn dwyn budd i bobl yn yr hirdymor.

 

 

Cronfa Trawsnewid

Yn 2018 sefydlodd Llywodraeth Cymru Gronfa Trawsnewid gwerth £100m i helpu Byrddau Partneriaeth Rhanbarthol i gyflawni eu huchelgais ‘Cymru Iachach’. 

Diben y Gronfa Drawsnewid yw gwella gwasanaethau iechyd a gofal cymdeithasol trwy roi mwy o bwyslais ar fodelau sy’n llwyddiannus a disodli modelau llai llwyddiannus neu fodelau hen ffasiwn.

Trwy’r gronfa hon, roedd modd i ni sefydlu gwasanaethau iechyd a gofal cymdeithasol newydd yn seiliedig ar beth oedd ei angen ar bobl.

Yna yn 2019, cawsom ni £22.7 miliwn yn ychwanegol i gyflymu’r prosiectau trawsnewidiol sy’n digwydd ar draws Rhondda Cynon Taf, Merthyr Tudful a Phen-y-bont ar Ogwr a’u hehangu.

Darllenwch fwy amdanyn nhw isod.

Cyflymu’r broses o newid gwasanaethau integredig: Pen-y-bont ar Ogwr

Mae’n ddydd Mawrth bob dydd

Tîm ymateb symudol ac arbenigwyr mewn atal achosion o gwympo. Mae’r tîm yn gweithio 24/7 i sicrhau bod pobl yn gallu byw'n annibynnol ac yn iach yn eu cartrefi.

Darllenwch ragor

Tîm o Amgylch y Bobl

Gweithwyr proffesiynol ym meysydd gofal sylfaenol a gofal cymunedol sy’n cydweithio yn Sir Pen-y-bont ar Ogwr i greu cynlluniau iechyd a gofal cymdeithasol wedi eu teilwra ar gyfer pobl.

Darllenwch ragor

Cymunedau cydnerth cydgysylltiedig

Gweithio mewn partneriaeth i helpu pobl a chymunedau sy'n byw ym Mhen-y-bont ar Ogwr i fod yn fwy gwydn.

Darllenwch ragor

Cadw’n Iach yn eich Cymuned: Rhondda Cynon Taf a Merthyr Tudful

Pennu ac ymrannu lefel risg

Defnyddio data i nodi'r bobl y mae angen cymorth ychwanegol arnynt fwyaf er mwyn gwella eu hiechyd a'u lles.

Darllenwch ragor

Technoleg gynorthwyol

Datblygu gwasanaethau â chymorth technoleg sy’n helpu pobl i gadw’n iach yn eu cartref.

Darllenwch ragor

Cadw’n Iach Gartref 2

Mae derbyn gwasanaethau iechyd a gofal cymdeithasol yn gyflym yn helpu pobl i gadw’n ddiogel gartref.

Darllenwch ragor

Iechyd a Lles Cymunedol

Dyma dîm o weithwyr proffesiynol ymroddedig ym maes iechyd, gofal cymdeithasol a’r trydydd sector sy'n gweithio gyda meddygon teulu i roi cymorth i bobl gyda’r risgiau iechyd uchaf.

Darllenwch ragor

Rydym yn falch o fod yn aelodau o
Rwydwaith Cydgynhyrchu Cymru.

Rydym yn falch o fod yn aelodau o
Rwydwaith Cydgynhyrchu Cymru.