Rydyn ni’n angerddol am ddod o hyd i ffyrdd newydd o wella a chreu gwasanaethau iechyd a gofal cymdeithasol fydd yn dwyn budd i breswylwyr.

Rydyn ni'n gwybod trwy gydweithio...

Gallwn ni ddod o hyd i ffyrdd gwell o sicrhau canlyniadau da i bobl o ran eu hiechyd a’u lles.

Rydyn ni wrth wraidd gweithgarwch Ymchwil, Arloesi a Gwella ar draws Cwm Taf Morgannwg

Ein rôl ni yw:

Nodi enghreifftiau o arloesi ac arfer da o bob rhan o'r rhanbarth.

Cydlynu gweithgareddau ymchwil, arloesi a gwella yn seiliedig ar anghenion y boblogaeth

Ymgysylltu â sefydliadau ledled y rhanbarth a'u helpu i fabwysiadu dulliau newydd a chreadigol

Hyb Arloesi Cariad

Mae ein hwythnos Caru Arloesi gyntaf yn tynnu sylw at brosiectau arloesi unigryw sy’n effeithio profiadau byw nifer fawr iawn o bobl – gan newid bywydau, hyd yn oed! Ar y dudalen hon gallwch weld straeon arloesi, adnoddau a syniadau o bob cwr o ranbarth Cwm Taf Morgannwg a thu hwnt!

Darllen mwy

Gallwn ni gynnig cymorth mewn sawl ffordd. Gweler isod am enghreifftiau o rai o'r pethau rydyn ni'n eu gwneud!

Creadigrwydd a sgyrsiau

Defnyddio’r celfyddydau i helpu pobl i gael sgyrsiau ystyrlon

Darllenwch ragor

Mapio Ymchwil, Gwella ac Arloesi

Ymchwil i’r dirwedd ymchwil, gwella ac arloesi yng Nghwm Taf Morgannwg.

Darllenwch ragor

Tai

Helpu cymuned o weithwyr proffesiynol yn y meysydd tai a datblygu cymunedol i ystyried sut mae modd iddyn nhw greu Cymru wyrddach a mwy llewyrchus.

Darllenwch ragor

Addysg

Gweithio gyda sefydliadau ym Merthyr Tudful i roi mynediad at dechnoleg i blant yn ogystal â chyfle i ystyried eu cymunedau, eu lles a’u gyrfa.

Darllenwch ragor

Lles

Helpu i sefydlu gwasanaeth lles cleifion.

Darllenwch ragor

Yr Athro Kelechi Nnoaham, Cyfarwyddwr Iechyd y Cyhoedd, Bwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf Morgannwg

“Rydyn ni’n parhau i droi at weithgareddau ymchwil ac arloesedd ym mhob ardal er mwyn nodi, hyrwyddo ac ymgorffori gwelliant parhaus yn y gwasanaethau rydyn ni’n eu darparu ar draws pob sefydliad.

Uchelgais y Ganolfan Cydlynu Ymchwil, Arloesi a Gwella yw gweithredu fel canolbwynt a dod ag enghreifftiau o waith a mentrau sydd ar y gweill, a’r sylfaen dystiolaeth sydd ynghlwm wrthynt, ar draws ein partneriaethau iechyd a gofal cymdeithasol.”

Rydym yn falch o fod yn aelodau o
Rwydwaith Cydgynhyrchu Cymru.

Rydym yn falch o fod yn aelodau o
Rwydwaith Cydgynhyrchu Cymru.