Mae’n bwysig bod pobl yn cael y gwasanaethau iawn, ar yr adeg iawn ac yn y lle iawn. Er mwyn gwneud hyn, rhaid i ni sicrhau bod cyllid yn cael ei gyfeirio er mwyn diwallu anghenion ein cymunedau.

Beth yw gwaith yr Uned Gomisiynu Rhanbarthol?

Mae’r Uned Gomisiynu Rhanbarthol yn gyfrifol am reoli a chydlynu amrywiaeth o ffrydiau cyllid Llywodraeth Cymru sy’n cael eu cyfeirio trwy’r Bwrdd Partneriaeth Rhanbarthol.

Mae’r cyllid hwn yn bwysig iawn gan ei fod yn helpu i sicrhau bod y gwasanaethau a chymorth cywir ar gael i bobl sy’n byw ym Mhen-y-bont ar Ogwr, RhCT a Merthyr Tudful.

Mae’r cyllid yn cynnwys y Mae’r Gronfa Integreiddio Rhanbarthol ar gyfer Iechyd a Gofal Cymdeithasol (RIF)

Mae’r Uned Gomisiynu Rhanbarthol yn gweithio gydag amrywiaeth o bartneriaid, gan gynnwys Bwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf Morgannwg, Cyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr, Cyngor Bwrdeistref Sirol RhCT, Cyngor Bwrdeistref Sirol Merthyr Tudful, y trydydd sector, y sector tai a’r sector addysg.

Sut mae’r cyllid ar gyfer iechyd a gofal cymdeithasol yn cael ei reoli a’i gydlynu?

Mae’r Uned Gomisiynu Rhanbarthol yn canolbwyntio ar gydlynu ffrydiau cyllido rhanbarthol fel y Gronfa Gofal Integredig.  

Mae’r tîm yn helpu’r Bwrdd Partneriaeth Rhanbarthol i fodloni’r blaenoriaethau sydd wedi eu nodi yn ein cynllun ardal. 

Trwy gydweithio fel rhanbarth, gallwn ni ddatblygu gwell partneriaethau trwy ddysgu oddi wrth ein gilydd, cydweithio i wella gwasanaethau iechyd a gofal cymdeithasol a nodi sut orau i wasanaethu’r bobl sy’n byw yn yr ardal ac i roi cymorth iddynt.

Er enghraifft, gallai prosiect sy’n gweithio’n dda yn RhCT weithio’n dda ym Mhen-y-bont ar Ogwr ac ym Merthyr Tudful hefyd, felly gallem ni greu gwasanaeth rhanbarthol ar draws y tair ardal.

Enghraifft bosib o hyn yw Llinell Gymorth Hunan-ynysu Ranbarthol CTM gafodd ei sefydlu i roi cymorth yn ystod pandemig COVID-19.

 

Rydyn ni’n sicrhau bod pobl leol yn cael y gwasanaethau a’r cymorth sydd eu hangen arnynt.

Mae’n bosib bod Cynghorau Bwrdeistref Sirol fel Pen-y-bont ar Ogwr, RhCT neu Ferthyr Tudful, neu Gynghorau Gwirfoddol Sirol fel Gweithredu Gwirfoddol Merthyr Tudful (VAMT), Cymdeithas Mudiadau Gwirfoddol Pen-y-bont ar Ogwr (BAVO) neu Interlink, yn cydlynu ac yn rheoli grantiau penodol ar gyfer gwasanaethau sy’n diwallu anghenion eu cymuned leol.

Mae’n bosib bod cyllid ar gyfer gwasanaethau cenedlaethol fel y GIG neu addysg yn cael ei reoli a’i gydlynu’n uniongyrchol gan Lywodraeth Cymru.

Mae’n bwysig bod pawb yn cydweithio er mwyn dwyn budd i gymunedau yn y ffordd orau posib.

Meysydd gwaith

Mae’r Uned Gomisiynu Rhanbarthol yn canolbwyntio ar saith maes blaenoriaeth gwahanol.

Mae hyn yn cynnwys anableddau dysgu, iechyd meddwl, anableddau corfforol, awtistiaeth, pobl hŷn, pobl ifanc, plant a gofalwyr di-dâl.

Darllenwch ragor

Rydym yn falch o fod yn aelodau o
Rwydwaith Cydgynhyrchu Cymru.

Rydym yn falch o fod yn aelodau o
Rwydwaith Cydgynhyrchu Cymru.