Yma rydym yn esbonio sut rydym, fel rhanbarth, yn cefnogi pobl i gymryd y camau cywir i amddiffyn eu teuluoedd, eu ffrindiau a'u cymuned.

Diogelu Cwm Taf Morgannwg

Yn 2020, cyflwynodd Llywodraeth Cymru strategaeth adfer er mwyn arwain Cymru allan o bandemig COVID-19.

Nod y strategaeth ‘Profi, Olrhain a Diogelu’ yw arolygu iechyd y gymuned yn well, olrhain cysylltiadau’n effeithiol ac i raddau helaeth, a rhoi cymorth i bobl wrth hunan-ynysu.

Mae Bwrdd Partneriaeth Rhanbarthol Cwm Taf Morgannwg wedi bod yn cynorthwyo ein partneriaid yn y GIG, yr awdurdodau lleol a’r trydydd sector i gyflawni’r gwaith pwysig hwn.

Hunanynysu

Pan fydd y tîm Profi ac Olrhain yn cysylltu â phobl, bydd gofyn iddyn nhw hunan-ynysu am ddeg diwrnod. Mae hyn yn bwysig iawn gan fod hunan-ynysu’n gallu helpu i leihau cyfraddau trosglwyddo. Fodd bynnag, rydyn ni hefyd yn deall bod hunan-ynysu yn gallu bod yn anodd i bobl a'u teuluoedd. Mae’n bosib y bydd angen cymorth ar rai pobl i gael bwyd neu foddion. Mae’n bosib y bydd angen cymorth ariannol neu efallai gofal parhaus ar rai pobl, neu gymorth gyda’u hanghenion iechyd meddwl neu gymorth corfforol. Rydyn ni’n gweithio gyda'n partneriaid gan gynnwys y Bwrdd Iechyd, awdurdodau lleol, y trydydd sector, cymunedau a gwirfoddolwyr i roi cymorth ymarferol i bobl (yn enwedig y rheiny mewn grwpiau risg uchel) wrth hunan-ynysu. Rydyn ni hefyd yn cydweithio i gael gwybod pa gymorth y gallai fod ei angen yn y dyfodol wrth i’r pandemig ddod i ben.

Byddwn ni’n diweddaru'r dolenni isod gyda'r wybodaeth a chyngor diweddaraf gan Lywodraeth Cymru yn ogystal â sefydliadau ledled Pen-y-bont ar Ogwr, RhCT a Merthyr Tudful

Cymorth os byddwch chi’n cael canlyniad positif

Os byddwch chi’n cael prawf positif am COVID-19, mae cymorth ar gael mewn sawl ffordd. Cliciwch yma am fwy o wybodaeth.

Myndi'r wefan

Sut ydw i’n gallu cael prawf?

Sut ydw i’n gallu cael prawf am COVID-19? Mae profion COVID-19 ar gael i bobl gyda symptomau (profion adwaith cadwynol polymerasau, neu ‘PCR’) ac i bobl heb symptomau (profion dyfais llif unffordd, neu ‘LFD’). Cliciwch yma am fwy o wybodae

Myndi'r wefan

Yn ôl i fywyd cymunedol

Mae mynd yn ôl i’r arfer wrth i’r cyfyngiadau gael eu llacio yn gallu codi ofn ar bobl sydd wedi bod yn gwarchod. Cliciwch yma i am gyngor ynglŷn â sut i baratoi ar gyfer bywyd ar ôl y cyfnod clo a sut i helpu pobl yn eich cymuned.

Myndi'r wefan

Llinell gymorth hunan-ynysu

Mae’r llinell gymorth ranbarthol gyntaf yng Nghymru i helpu pobl sy’n hunan-ynysu wedi cael ei lansio yng Nghwm Taf Morgannwg (CTM).

Discover more

Mae dolenni i dudalennau ledled y rhanbarth sy'n cynnig cyngor a chymorth i’w gweld isod.

Cyngor bwrdeistref sirol

Os ydych chi'n byw yn RhCT ac am gael gwybodaeth oddi wrth y cyngor, ewch yma.

Mynd i’r wefan

Interlink

Mae Interlink wedi creu rhestr o adnoddau cymunedol sy'n darparu gwasanaethau ledled Rhondda Cynon Taf o ran COVID-19. Bydd y rhestr yn cael ei diweddaru bob dydd.

Mynd i’r wefan

Cyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr

Os ydych chi'n byw ym Mhen-y-bont ar Ogwr ac am gael gwybodaeth oddi wrth y cyngor, ewch yma.

Mynd i’r wefan

Cymdeithas Mudiadau Gwirfoddol Pen-y-bont ar Ogwr (BAVO)

Os ydych chi'n byw ym Mhen-y-bont ar Ogwr, gall BAVO gynnig cyngor a chymorth i gymunedau, gan gynnwys gwybodaeth ynglŷn â gwirfoddoli.

Mynd i’r wefan

Cyngor Bwrdeistref Sirol Merthyr Tudful

Os ydych chi'n byw ym Merthyr Tudful ac am gael gwybodaeth oddi wrth y cyngor, ewch yma.

Mynd i’r wefan

Gweithredu Gwirfoddol Merthyr Tudful (VAMT)

Os ydych chi'n byw ym Merthyr Tudful, gall VAMT gynnig cyngor a chymorth i gymunedau, gan gynnwys gwybodaeth ynglŷn â gwirfoddoli.

Mynd i’r wefan

Bwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf Morgannwg

Am yr holl gyngor iechyd diweddaraf, ewch i wefan Bwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf Morgannwg.

Mynd i’r wefan

Rydym yn falch o fod yn aelodau o
Rwydwaith Cydgynhyrchu Cymru.

Rydym yn falch o fod yn aelodau o
Rwydwaith Cydgynhyrchu Cymru.